Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Thursday 29 March 2018

Bwlio: Llais/Voice

Diolch unwaith eto i Ffrwti am y darn hwn.

Dyma'r fideo a wnaeth ysbrydoli'r perfformiwr ifanc o Bwllheli, Elgan Rhys, i greu'r perfformiad newydd Llais/Voice ac i fynegi ei brofiadau yntau o gael ei fwlio.


Mi gefais i sgwrs gydag Elgan yn ddiweddar i gael gwybod mwy amdano ef ei hun ac am y syniad tu ôl i' w gynhyrchiad newydd.

Mae stori Amanda Todd yn un hynod drist ac mae ei fideo pwerus hi wedi helpu miloedd o bobl ifanc ledled y byd i siarad am eu profiadau a'u hofnau gan eu harbed rhag y gwirionedd dychrynllyd o broblemau'n ymwneud â bwlio ac iselder. Mae Elgan Rhys yn un ohonynt. Eglurodd Elgan wrtha pam aeth o ati i greu'r perfformiad ar ôl gweld y fideo. "Pan wyliais i’r fideo am y tro cyntaf, y peth ddaru nharo i oedd y ddelwedd o Amanda Todd yn dal ‘flashcard’ a ninnau ddim yn gweld ei hwyneb hi... a’r ffaith ei bod hi’n amlwg yn methu siarad am ei phrofiadau. Roedd o’n dorcalonnus gwylio’r ferch yn hollol unig, a’r diffyg cyfathrebu yn ei bywyd." 

Y diffyg cyfathrebu hwnnw sy'n ganolbwynt i Llais/Voice. Does dim siarad na deialog. Mae'n cael ei alw'n berfformiad 'di-lafar'. "Mae’r ffaith bod y perfformiad yn hollol ddi-lafar ac yn weledol ofnadwy yn her i'r gynulleidfa, ac i mi! Y bwriad ydy eu bod nhw wastad yn meddwl, a bod dim eiliad o orffwys." Mae'r cysyniad yn atsain rhai o symtomau person sy'n dioddef o bryder neu iselder. At hynny, ychwanegodd Elgan, "mi fydd pawb yn cael profiad hollol wahanol ac yn cael cyfle i ddehongli y darn fel y fynnen nhw."

Gobaith y perfformiwr ifanc yw cynnig profiad gwahanol i fynychwyr cyson y theatr, "dydan ni ddim eisiau i’r gynulleidfa ddod i mewn i’r gofod, gwylio’r perfformiad, a dyna ei diwedd hi... mi fyddwn ni’n sicrhau bod eu profiad nhw yn parhau tu allan i’r gofod perfformio."



Mae'n gyfnod cyffrous i Elgan. Dyma gynhyrchiad cyntaf ei gwmni o, Pluen, ac yn wir y rheswm tu ôl i sefydlu'r cwmni. "Mae’r datblygu’r prosiect wedi digwydd dros gyfnod o flwyddyn a hanner – a hynny yn ystod fy amser ym Mhrifysgol De Cymru, cyfnod preswyl yn Theatr y Sherman ac yng Nghanolfan y Mileniwm. Dw i wedi bod ddigon ffodus i gael cefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru gyda’r prosiect hefyd – felly mae eu ffydd nhw yndda i, yn sicr wedi fy annog a fy ysbrydoli i i ddechrau cwmni fy hun."

Ond yng nghanol y cyffro o fynd â'r perfformiad o Gymru i'r Alban (bydd Llais/Voice ymlaen yng Ngŵyl y Fringe Caeredin), mae'r nerfau yn cael eu cosi gan y sefyllfa, ac Elgan yw'r cyntaf i gyfaddef hynny. "Wel, mae hwn yn ddarn hunangofiannol, ac yn hollol onest, felly dw i’n eithaf nyrfys am rannu popeth gyda’r gynulleidfa. Ond, dyna yw’r math gorau o theatr!"

Creu fersiynau gwahanol o nofelau Cymraeg?

Yn hytrach na gwario ar gyfieithu nofelau i’r Gymraeg, mae angen gwario arian ar greu dwy fersiwn o  nofel Gymraeg wreiddiol -  un yn nhafodiaith y de, a’r llall yn nhafodiaith y gogledd.

Dyna un o awgrymiadau’r awdures Bethan Gwanas wrth iddi gyflwyno Darlith Goffa Islwyn Ffowc Elis yng Ngŵyl Golwg eleni.

Dywedodd Bethan Gwanas bod y dafodiaith mewn rhai llyfrau Cymraeg yn ei gwneud hi’n anodd i ddarllenwyr fwynhau’r stori tu ôl i’r geiriau, yn enwedig mewn llyfrau plant.

“Mae’r iaith yn broblem mewn rhai llyfrau. Mae tafodiaith yn cael effaith ar bobol ac weithiau’n eu gwneud nhw roi’r llyfr i lawr.”

“Mae’r holl bres ‘ma yn cael ei wario ar gyfieithiadau – ond oni fasa hi’n well defnyddio’r pres i greu dwy fersiwn Gymraeg?

“Dwi’n meddwl basa Islwyn yn dweud ‘Amen’ i hynny.”

Nofelau plant

Yn ogystal â dweud bod angen llai o gyfieithu i’r Gymraeg, dywedodd Bethan Gwanas bod angen rhoi mwy o barch i awduron llyfrau plant:

“Os ydach chi’n awdur sy’n sgwennu llyfr i oedolion fe gewch chi £8000 – £10,000, ond mi geith awdur llyfr plant tua £800. Mae pobol yn mynd i feddwl nad ydy o werth rhoi’ch amser i sgwennu llyfrau plant.”

“Mae angen mwy o barch i nofelau plant gwreiddiol. Ac mae angen mwy o awduron o wahanol ardaloedd hefyd.

“Mae rhai’n credu nad ydy llenyddiaeth i fod yn hawdd … ond mi faswn i’n mynd mor bell â dweud, bod llenyddiaeth hawdd yn bwysicach ar gyfer dyfodol yr iaith Gymraeg.”

[Diolch i Golwg360 am y darn hwn.]

Trip siopa

Diolch unwaith eto i Bethan Williams a Ffrwti am roi sbardun i sgwrs!

Byddai trip siopa o leia teirgwaith y flwyddyn, a rhestr o bethau i brynu. A sawl peth bach arall yn dod nôl. I Aberteifi byddai Mam yn mynd i wneud y sipoa wythnosol, ond roedd Caerfyrddin yn hollol wahanol. Roedd gofyn penderfynu ar ddechrau'r wythnos pa ddiwrnod fyddai 'mynd i siopa yn Gaerfyrddin' a gadael cyn 9, mynd â brechdannau i'w bwyta yn y car amser cinio, a chyrraedd nôl erbyn te fel arfer.

Roedd e'n beth eitha mawr am flynyddoedd. Un o fy atgofion cyntaf o siopa yng Nghaerfyrddin yw'r siwrne adref – roedd hi mor hir, o wybod fod comic yn un o fagiau Mam yn aros i gael ei ddarllen. A siopa dillad – dyw hynny erioed wedi bod yn uchafbwynt, ond doedd dim rhyw lawer o siopau dillad yn Aberteifi felly roedd wastad rhaid mynd i ryw siopau dillad – Adams, Littlewoods a pha bynnag siopau roedd Mam yn mynd iddyn nhw. 


Ond roedd Bwise yn gwneud iawn am hynny – roedd escalator yna! Bydden ni'n meddwl am bob mathau o resymau i gael mynd lan lofft er mwyn defnyddio'r escalator- colli Mam a gorfod mynd lawr i chwilio amdani, gan wybod yn iawn taw lan lofft oedd hi oedd un tric.

Er, am ryw reswm dim ond lan oedd yr escalator yn mynd - mae'r un peth yn wir am yr escalator yn Marks Caerfyrddin nawr hefyd. Grisiau sydd i ddod lawr.


Llyfrau wedyn - roedd Siop y Pentan yn un stop bydden ni'n gwneud bob tro, er bod Siop y Castell yn Aberteifi, bydden i wastad yn dod o Gaerfyrddin â llyfr newydd. Wrth dyfu'n hŷn Waterstones oedd yr atyniad - doedd dim siop lyfrau yn Aberteifi a bydden i'n cael pori am oesau am lyfr Saesneg. Do'n i ddim wedi dod ar draws trysorau fel siopau Seawards, Abergwaun, a Palas Print eto.


Ac wrth dyfu'n hŷn bydden ni'n cael mynd i siop arall tra bod Mam yn trial sgidiau neu rywbeth - dyna oedd peth mawr, o'r diwedd bach o ryddid.

Mae pobl lot mwy parod i fynd ymhellach i siopa nawr, a mynd bron heb feddwl. Mae Mam yn dal i fynd yn ystod gwyliau'r ysgol, a'i rhestr gyda hi er ei bod hi'n dweud nad oes 'eisiau' unrhyw beth. Y gallai hi falle fynd i Aberteifi, neu chwilio ar-lein, mae rhyw dyniad [=pull] o hyd – arfer falle. Os dwi adref dwi'n aml yn cael fy nhemtio i fynd hefyd - mae Siop y Pentan yn dal i fod 'na, mae Aardvark wastad yn cynnig rhyw ddanteithion [=treats], Nomads yn gwerthu slippers Gaeaf gwych wedi eu gwau, a hetiau a menig, a'r farcet yn grêt; a dwi hyd yn oed yn mentro i ambell siop ddillad os oes raid!

Baled y Camtreiglad

Diolch i'r Welsh Whisperer am y gân addysgiadol hon.

Dyma gân sy'n seiliedig ar stori wir (fel arfer) ac yn adrodd hanes aderyn bach sy'n trafferthu wrth siarad yn raenus a phur, ond yn llwyddo ar ôl ymarfer ac ymroddiad, i siarad yn gywir. Da iawn hi.

Noddwyd gan Heddlu'r Iaith.


Geiriau:

Pan oeddwn i yn dderyn bach yn canu yn yr ardd
Mi ganais fore dydd a nos yn eisiau deryn hardd
Hedfanais dros y moroedd gwyllt yn gwrando am y gân
Fy llygaid bach ar agor am y berffaith adar mân.
Adeiladwyd fy nyth gyda phridd gorau'r Sir
I baratoi'r llety am y berffaith gariad pur
Hedfanais yn y gwanwyn, y gaeaf a'r haf,
Tan ddaeth yr aderyn ar y diwrnod mwyaf braf.
Ond wrth i mi siarad â hi,
Clywodd yr ardd fy nghri,
Roedd safon eu hiaith yn angen bach o waith
Felly ganais fy nghân iddi hi.
'Mae dy arddodiad yn siomedig, mae dy ferfau dros y lle!
Dwyt ti ddim yn gallu treiglo gwna’i d'atgoffa di o le!
Am Ar At Gan Dan Dros Trwy Heb Hyd i Wrth O!
Os nad wyt ti'n mynd i ddysgu gwell i ti fyd am dro!'
'BORE DDA! SUT MAE PHETHAU? MAE'N DIWRNOD BRAF'
Wnes ti golli dy ganllawiau iaith yn hedfan yn yr haf?
Mae rhaid i ti ynganu’r wyddor fel y mae,
A chofiwch yr amser gyda chysyllteiriau!
Dim ond adar bach Cymraeg oedd i fod yn yr arch,
Mae'r iaith Gymraeg yn eithaf hen, dangoswch bach o barch.
Mae 'na ddosbarth gyda'r nos, ymddiheuraf am y strach
Ond allai ddim dioddef rhywun sy'n methu'r to bach.
Ond wrth i mi siarad â hi
Clywodd yr ardd fy nghri
Roedd safon eu hiaith yn angen bach o waith
Felly ganais fy nghan iddi hi
'Mae dy arddodiad yn siomedig, mae dy ferfau dros y lle!
Dwyt ti ddim yn gallu treiglo gwna’i d'atgoffa di o le!
Am Ar At Gan Dan Dros Trwy Heb Hyd i Wrth O!
Os nad wyt ti'n mynd i ddysgu gwell i ti fyd am dro!
Gwranda, rhaid i ti ddysgu neu byddai'n mynd am dro'
Ond fe fagwyd adar bach, ein teulu yn y nyth.
Beirdd a chantorion oedd yn ein plith.
Felly dysgwch y rheolau cyn i mi gwympo mas o'r nen,
Mae camddefnyddio'r ferf yn chwalu fy mhen.
Ac wedyn wrth i mi siarad â hi
Clywodd neb fy nghri!
Achos roedd safon eu hiaith wedi gwella ar ein taith,
Felly ganais fy nghân iddi hi!
Mae dy arddodiad yn arbennig, mae dy ferfau'n gywir iawn!
Mae'n bleser clywed treiglad llais a gweld atalnod llawn!
Er bod 'na eithriadau a thafodiaith pob un sir,
Erbyn hyn clywaf iaith sy'n raenus a phur,
Sydd yn bleserus os gai ddweud y gwir
Siaradwch yn gywir ar draws y tir!

Waldo Williams - Portread o Heddychwr

Diolch i Gymdeithas y Cymod am y darn hwn.


Pa mor aml tybed y clywsom eiriau Y Tangnefeddwyr yn cael eu hadrodd neu yn cael eu canu i gyfeiliant cerddoriaeth hudol Eric Jones? Mae'n amlwg fod y gerdd wedi cydio a bod Waldo, ein bardd heddwch, yn dal i dystio i rin y tangnefeddwyr, plant i Dduw.

Cafodd Waldo Goronwy Williams ei eni ar Fedi 30, 1904 yn Hwlffordd lle'r oedd ei dad yn ysgolfeistr. Cafodd ei rieni ddylanwad dwfn arno. Roedd ei fam Angharad yn hynod am ei thynerwch a'i haelioni. Gŵr cadarn ei argyhoeddiad oedd Edward ei dad, yn heddychwr ac yn aelod o'r Blaid Lafur Annibynnol. Fe nododd Waldo eu rhinweddau mewn geiriau cofiadwy:
Mae Gwirionedd gyda 'nhad
Mae Maddeuant gyda 'mam
Ac mae'r llythrennau bras yn awgrymu'r trosgynnol.

Saesneg oedd iaith yr aelwyd a bu trobwynt ym mywyd Waldo pan benodwyd ei dad yn brifathro'r ysgol ym Mynachlog-ddu ac wedi hynny yn Llandysilio. Fe'i bwriwyd i fôr o Gymreictod a bu ei brofiad o ddysgu'r Gymraeg a dod i'w hanwylo yn un ysgytwol. Ac yno wrth odre'r Preseli fe gafodd brofi rhagoriaeth "bro brawdgarwch" a'r ddyfnder perthynas y daeth i'w gyfleu yn ei ddefnydd o'r gair "adnabod".

Hawdd tybio bod Waldo wedi tyfu'n naturiol i fod yn heddychwr drwy ddylanwad yr aelwyd. Dyma gartref na chafodd ei sugno i mewn i ryfelgarwch 1914. Byddai'r Waldo ifanc wedi clywed llawer am Willie, mab y Parchedig John Jenkins, oedd yn gyfaill mawr i'w dad ac fel y bu iddo gael ei garcharu am iddo wrthod ymladd.

Fe gofiai Waldo yn dda fel y cafodd, yn ddeg mlwydd oed, ei gyfareddu wrth wrando ar ei dad yn darllen cerdd T.E. Nicholas, Gweriniaeth a Rhyfel. Ac nid dibwys fyddai'r pwyslais a gaed yn y broydd hynny ar "agwedd ymarferol a chymdeithasol Cristionogaeth gyda sêl dros deyrnas Dduw ar y ddaear"!

Dyna'r fagwriaeth a'r dylanwadau a roes i Waldo ei atgasedd at y pwerau sy'n treisio a chaethiwo a'i alwad am hybu brawdoliaeth a chyfeillach.

Cawn y nodyn hwn gyntaf yn 1931 yn ei gân i'r Hen Allt. Cafodd hon ei thorri lawr "i borthi uffern yn ffosydd Ffrainc trwy'r pedair blynedd ddu" ond bellach yr oedd yn ail dyfu.
A llywodraethau dynion a'u dyfeiswyr
Yn llunio arfau damnedigaeth fwy.
Yn Nhŷ'r Arglwyddi yn 1938 galwodd yr Arglwydd Strabolgi am fabwysiadu mesur gorfodaeth filwrol. Ymatebodd Waldo gyda'i gerdd Y Tŵr ar Graig gyda'r Tŵr yn arwyddo pŵer treisiol.
Ôl hen ryfel a welais
Y cysgod trwm lle bu trais.
Cafodd neges heddwch le amlwg ym marddoniaeth Waldo trwy gyfnod y rhyfel. Yn ei gerdd Plentyn y Ddaear fe wêl oruchafiaeth y bychain ar y treiswyr:
Daw dydd y bydd mawr y rhai bychain,
Daw dydd ni bydd mwy y rhai mawr,
Daw bore ni wel ond brawdoliaeth
Yn casglu teuluoedd y llawr.
A "Brawdoliaeth" yw testun un o'i gerddi grymusaf. Hon oedd cyfraniad Waldo i un o bamffledi Heddychwyr Cymru. Am fod "rhwydwaith dirgel Duw" yn cydio pawb ohonom mae'n dilyn ein bod i fyw fel brawdoliaeth. Ac felly:
Pa werth na thry yn wawd
Pan laddo dyn ei frawd
Fel y dywedir yn Y Tangnefeddwyr
Cennad dyn yw bod yn frawd.
Ym mis Chwefror 1942 ymddangosodd Waldo yn wrthwynebydd cydwybodol ger bron tribiwnlys yng Nghaerfyrddin a chyflwyno datganiad na fu ei debyg. "War to me," meddai, "is the most monstrous violation of the spirit that society can devise".

Cafodd ryddhad diamod ond bu pwysau annifyr arno oherwydd ei safiad a gadawodd ei swydd yn ysgol Casmael ac aeth yn athro yn Ysgol Uwchradd Botwnnog. Yn dilyn marwolaeth drist ei briod, bu'n dysgu am bum mlynedd yn Lloegr cyn dychwelyd wedyn i Gymru.

Cyfansoddodd Waldo ei gerdd nodedig Cyfeillach yn ymateb i'r cyhoeddiad y byddai milwyr Prydain yn yr Almaen yn cael ei dirwyo pe baent yn dymuno Nadolig Llawen i'r Almaenwyr. Mynegodd ei hyder fod ysbryd cyfeillach yn drech na phob ymgais "i rannu'r hen deulu am byth".

Y newyddion fod y Swyddfa Ryfel â'i golygon ar diroedd y Preseli a'i cymhellodd i sgrifennu Preseli. Ynddi fe roes fynegiant i gri'r dewrion a fynnodd rwystro'r bwriad:
Cadwn y mur rhag y bwystfil, cadwn y ffynnon rhag y baw.
Pan gyhoeddwyd ei gerdd fwyaf oll Mewn Dau Gae fe eglurodd iddo fynegi profiad a gafodd pan oedd yn ifanc sef "sylweddoli fod dynion yn gyntaf oll yn frodyr i'w gilydd".

Daeth Waldo i deimlo nad oedd tystio drwy eiriau yn ddigon. O 1949 ymlaen ni thalodd ei dreth incwm. Pan alwyd ef i gyfrif fe ddatganodd, "Gwrthodaf dalu'r dreth incwm tra bo gorfodaeth filwrol ar Gymru a thra bo'r Llywodraeth yn dal i wario mor wallgof ar baratoadau rhyfel".

Dwysawyd ei brotest wrth iddo glywed am erchyllterau'r rhyfel yng Nghorea a chafodd ei lethu gan ymdeimlad o euogrwydd oherwydd yr hyn a wnaed yn ei enw.

O ganlyniad i'w safiad daeth bwmbeilïaid a meddiannu ei eiddo, ac yna yn 1960 ac eilwaith y flwyddyn ddilynol cafodd ei garcharu yn Abertawe.

Dywedodd Lewis Valentine "na fu dim dewrach yn ein cenhedlaeth ni na safiad Waldo Williams yn erbyn rhyfel".

Bu cerddi Dail Pren, cerddi a rymuswyd gan safiad costus, yn ysbrydiaeth gyson i heddychwyr Cymru.

Ein braint ydyw atseinio'r ymbil ddwys hon.
Cod ni Waredwr y byd
O nos y cleddyfau a'r ffyn,
O! Faddeuant, dwg ni yn ôl
O! Dosturi casgl ni ynghyd
A bydd cyfeillach ar ôl hyn.
M. Islwyn Lake

Noson Aflawen gan J. Glyn Davies




Mae gen i gath o ben draw Llŷn, o ben draw Llŷn, o ben draw Llŷn,
Sy’n udo’n hyll nes dychryn dyn,
Am un o’r gloch y bore.

Udo = gwneud sŵn tebyg i flaidd neu sŵn hir cwynfanllyd ci

Mae gen i lo sy’n llawenhau,
A cheg na fedr neb mo’i chau, neb mo’i chau, neb mo’i chau
Am ddau o’r gloch y bore.

Mae gen i gi, mae’n glamp o gi,
Bydd hwnnw’n udo do re mi,
Am dri o’r gloch y bore.

Mae gen i hwch a chwech o foch
A’r cwbwl i gyd yn gweiddi’n groch,
Am bedwar o’r gloch y bore.

Croch = am lef neu sŵn uchel a chyffrous, yn cadw twrw neu’n bloeddio â’r holl egni

Mae gen i glamp o geiliog coch,
Yn clochdar fel pum cant o foch,
Am bump o’r gloch y bore.

Mae gen i gloc sydd eto’n drech,
Bydd hwnnw’n moedro dyn a’i sgrech,
Am chwech o’r gloch y bore.

Trech = am rywbeth sy’n ormod i ymdopi ag ef
Moedro = mwydro (drysu, gwirioni)

Mae gen i ŵr, ers amser maith,
Sy’n canu bas cyn mynd i’w waith
Am saith o’r gloch y bore

Mae gen i ŵr sy’n llawn o dwrf
Mae hwn yn chwyrnu fel twrch trwyth, fel twrch trwyth, fel twrch trwyth,
Am wyth o’r gloch y bore.

Twrf = sŵn mawr



Mae mam y gŵr yn byw gerllaw, yn byw gerllaw, yn byw gerllaw,
Bydd sŵn ei llais yn codi braw,
Am naw o’r gloch y bore.

Braw = ofn, dychryn, arswyd

Ffarwel yn awr, bob perchen ceg,
Mi af i wlad y Tylwyth Teg, Tylwyth Teg, Tylwyth Teg
Tan dri o’r gloch y p’nawn.

Barddoniaeth ar ei gwaethaf



Gethin Wynn Davies sy’n ceisio cofio’i feirdd a’i englynion …

Rwy’n cofio sgwrs rai blynyddoedd yn ôl efo dad a wnaeth i mi bendroni ynghylch ein hymwybyddiaeth ni, Gymry ifainc, o’r hen draddodiad barddol hwnnw sydd mor enwog yng Nghymru yn ôl pob sôn.

Cwestiynau anodd

Pan oedd fy nhad yn ddim mwy  nag 11 mlwydd oed, cawsant gwis dirybudd yn y dosbarth. Dyma rai o’r cwestiynau a ofynnwyd yn y cwis:

Ysgrifennwch unrhyw englyn sydd ar eich cof.
Pwy oedd Y Pêr Ganiedydd?
Enwch dair cerdd o eiddo Crwys.

Wyddwn i ddim yr ateb i’r un o’r cwestiynau – pwy a fedd englyn ar flaen ei dafod?!
Penderfynais mai cwestiynau annheg oedd y rhain ac nad oedd disgwyl i neb yn eu harddegau, heb sôn am blentyn 11 oed, fedru eu hateb.

Onid oes yna bethau llawer pwysicach megis pêl-droed, sgrolio drwy Facebook a gwylio’r teledu yn mynd â bryd cymaint mwy o’n hieuenctid ni’r dyddiau hyn?

Hwyrach mai dadrithiad hallt yw deall nad yw plant ar y cyfan bellach yn darllen eu llyfr neu ddysgu eu hadnod cyn cysgu, ond fel un o’r genhedlaeth honno, gallaf dystio mai dyma’r norm erbyn hyn.
Ymddengys felly nad yw darllen yn gyffredinol ar ei gryfaf ac nad oes cymaint o ymdrochi yn ein llenyddiaeth ag y bu o’r blaen.

Am dipresing! Oes gobaith o gwbl?

Digon prudd oedd fy nghywair wrth ystyried fy niymadferthedd yn ceisio ateb y cwestiynau amhosibl hyn a gafodd dad flynyddoedd yn ôl. Ond tydi pethau ddim mor ddrwg ag y maent yn ymddangos.
Feiddiwn i honni bod y mwyafrif llethol o ddisgyblion ein hysgolion cynradd ac uwchradd Cymraeg gydag englyn ar gof a chadw yn rhywle yn eu hisymwybod. Sawl un ohonoch, er enghraifft, sydd wedi cyd-lefaru’r weddi hon?

O Dad, yn deulu dedwydd – y deuwn
A diolch o’r newydd
Cans o’th law y daw bob dydd
Ein lluniaeth a’n llawenydd.

Wel dyna englyn ar gof llawer iawn ohonoch chi, a dyna un o’r tri chwestiwn wedi ei ateb.

Pwy ddiawch ydi’r Pêr Ganiedydd?!

Gyda thymor yr hydref wedi cyrraedd, a chyda’r gemau rygbi wedi dychwelyd y bwrlwm unigryw hwnnw i Gaerdydd bob penwythnos, clywir heb os eiriau byd-enwog Y Pêr Ganiedydd yn cael eu morio canu mewn tafarndai ar hyd y ddinas.

Pe datgelwn mai William Williams Pantycelyn sy’n berchen ar y llysenw ac mai ‘Bread of Heaven’ yw’r emyn a genir, rwy’n siŵr y byddai llawer iawn os nad pob un ohonoch yn gyfarwydd gyda gwaith yr emynydd.

Gallwch fod wedi bod yn gyfarwydd a’r Pêr Ganiedydd hefyd felly, ac ateb dau o’r tri chwestiwn.

Dwi ‘di clywed am Crwys …

Yn bersonol fyddwn i byth yn disgwyl i unrhyw blentyn 11 mlwydd oed, nac ychwaith nifer helaeth o ddisgyblion yn eu harddegau, fod â llawer mwy o wybodaeth am Crwys na’i enw ac efallai’r ffaith ei fod yn gyn-Archdderwydd.

Hwyrach y byddai ‘Dysgub y Dail’ neu ‘Melin Trefin’ yn rhyw hanner ganu cloch hefyd.
Ond rydw i o’r farn nad ydyw’n ddiwedd y byd na all cynifer o ddisgyblion ddyfynnu rhai o’n beirdd mawr os nad oes ganddynt ddiddordeb mewn ymdrochi yn ein barddoniaeth. Dyma fethu ag ateb y trydydd cwestiwn felly.

Nid achos digalonni mo hyn. Y mae sawl bardd y gall disgyblion eu dyfynnu’n helaeth o’r hyn a ddysgir iddynt yn yr ysgol – T H Parry Williams, Gerallt Lloyd Owen, Ceri Wyn Jones a llawer mwy o’n beirdd mwy cyfoes.

Newid oes

Er cystal yw gallu ateb dau o’r tri chwestiwn, efallai mai mymryn yn siomedig oedd peidio cael marciau llawn.

Fodd bynnag, pe gofynnid i’r dosbarth blwyddyn chwech hwnnw yn y chwedegau faint o eiriau caneuon Cymraeg poblogaidd y gallent eu henwi, go brin y byddai’r ymateb yn well na phe gofynnid i ddosbarth cyffelyb yn 2014.

Gyda newid oes y mae newid pwyslais, a llawn cystal gen i weld cannoedd o bobl ifainc yn cyd-ganu i ganeuon Cowbois Rhos Botwnnog, Yr Ayes neu Al Lewis ym Maes B ag a fyddai cael y cysur o wybod y gallent enwi tair o gerddi un o’n beirdd Cymraeg.

Testun llawenhau felly yw’r cyfeiriad y mae ein hymwybyddiaeth ddiwylliannol ni wedi mynd tuag ato.
Ac er i hynny fod ar draul enwi rhai o gerddi beirdd yr ugeinfed ganrif, rwy’n ffyddiog y bydd geiriau cyfoes y Sin Roc Gymraeg ar flaen tafodau ein hieuenctid am amser maith.

Le ti'n dod o?

Ceir y cofnod gwreiddiol gan Dylan Foster Evans ar wefan yr Academi Cymreig yn fan hyn.


Gan mai hwn yw fy nghyfraniad cyntaf i flog yr Academi, rwyf am droi at rifyn cyntaf un Taliesin, cylchgrawn yr Academi, am ysbrydoliaeth. Yn y rhifyn hwnnw (Rhagfyr, 1967) cyhoeddwyd ysgrif gan G. J. Williams (1892-1963) ar sail darlith a draddodasai [traddodi - deliver - that he had delivered] gerbron yr Academi rai blynyddoedd ynghynt. Ei theitl oedd ‘Yr Iaith Lafar a Llenyddiaeth’ a dyma ei brawddegau cyntaf:
Dyma bwnc sy’n poeni ysgolheigion a llenorion yng Nghymru, pwnc sylfaenol a phwnc y dylai’r Academi roi sylw arbennig iddo. Y mae, fel y gŵyr pawb, agendor [pwll diwaelod - chasm] mawr rhwng yr iaith lafar, yr iaith fyw, a’r iaith lenyddol, iaith gonfensiynol a chelfyddydol, i raddau helaeth [to a large extent]. Felly yr ydym ni yng Nghymru yn gorfod wynebu anawsterau na ŵyr cenhedloedd eraill, megis y Saeson a’r Ffrancod, odid [odid - go brin, scarcely] ddim amdanynt.

Nid yma yw’r lle i olrhain yr ymateb i’r ysgrif hon, er mai teg nodi na chytunai Saunders Lewis â barn G. J. am y sefyllfa yn Ffrainc ac mewn gwledydd Ewropeaidd eraill. Ond i ryw raddau o leiaf, rwy’n credu i’r drafodaeth ehangach ar iaith y llenor fynd ar goll yng nghanol y ffraeo mawr ynghylch ‘Cymraeg Byw’ a gafwyd yn ail hanner y 1960au a’r 1970au (ac wedi hynny, yn wir). Roedd y drafodaeth honno mor chwerw ar adegau fel na byddai’n syndod o gwbl pe bai sawl un a allai fod wedi cyfrannu wedi penderfynu mai ‘callaf dawo’ [it would be better to remain silent].

Neidiwn ymlaen hanner canrif, i fyd o wefannau, trydar,  blogio … a llenydda [llenydda - cyfansoddi neu fod â diddordeb mewn llenyddiaeth] hefyd. Mae cyd-destun yr iaith yn gwbl wahanol, ond eto teimlaf ei bod yn dal i fod yn anodd cael trafodaeth ar natur yr iaith heb i hynny ddirywio i fawr mwy nag ymboeni am ‘gywirdeb’ a ‘gwallau’.

Un nodwedd na fyddai’n gyfarwydd i G. J. yw twf rhyfeddol addysg Gymraeg, ac yn ei sgil twf tafodiaith neu dafodieithoedd newydd. Ychydig iawn yr ydym yn ei ddeall am wir natur y ffurfiau newydd hyn ar yr iaith. Nid oes enwau arnynt mewn gwirionedd, er y gallwn efallai gyfeirio at y Rhydfelyneg [Ysgol Gyfun Rhydyfelin - ysgol Gymraeg ger Pontypridd], y dafodiaith ‘salwaf a phertaf sy’n bodoli‘, chwedl Iwan Rhys.

Mae rhai o siaradwyr y tafodieithoedd hyn yn amldafodieithog – hynny yw, mae ganddynt y gallu i siarad tafodiaith wahanol, fwy traddodiadol, pan fo hynny’n addas. Ond i eraill, un dafodiaith Gymraeg sydd ganddynt, mewn gwirionedd, a honno’n dafodiaith sydd wedi derbyn mwy na’i siâr o watwar [gwatwar - mockery, derision].

Yn ddiweddar, deuthum o hyd i flogiad gan ŵr o’r enw Paul Cornish ar y pwnc syml ‘Yr Iaith Gymraeg a Fi‘. Mae wedi ei hysgrifennu mewn iaith y mae’r awdur yn nodi nad yw’n safonol, er ei bod yn gwbl glir a darllenadwy. Dyma iaith y gellid galw ‘Rhydfelyneg’ arni, o bosib (er na wn pa ysgol a fynychodd Paul). Yn sicr, mae’n un o’r darnau grymusaf o ysgrifennu am yr iaith imi ei ddarllen ers amser. Ac ni fyddai ei ailysgrifennu mewn ‘Cymraeg safonol’ yn gwneud dim ond drwg iddo. (Mae Paul yn nodi ei fod wedi ei ysbrydoli i ysgrifennu gan gyfres o drydariadau ysbrydoledig [inspired] am y Gymraeg gan Madeley, sef ‘On being a rude Welsh speaker‘. Mae honno hefyd yn werth ei darllen, os na fydd iaith gref yn mennu [mennu - effeithio] gormod arnoch.)

Er mai negyddol yw agwedd llawer at dafodieithoedd yr ysgolion Cymraeg, nid ydynt yn absennol o’n barddoniaeth chwaith. Mae nifer o enghreifftiau i’w cael, ambell un yn bur gyfarwydd. Ystyriwn ‘Cymru’ gan Mei Jones, sy’n agor fel a ganlyn:
Gyn ti cariad i dy heniaith?
Gyn ti sbo’ meddal i dy mamiaith?
Gyn ti? Gyn ti ddim? Fi gyn!
Once, pan fi di mynd alla o fy bro,
Gofynnodd Sais i fi, ‘Le ti’n dod o?’
Dyma fi yn ateb yn syth i ffwrdd
Gan roi fy cardiau ar y bwrdd—
‘O Gymru, gwlad y Menyg Eifion,
Gwlad y gân, y beirdd, a’r try … tyner … harpists’ …
Mae’r gerdd yn priodoli [priodoli - ascribe, attribute] agwedd gadarnhaol iawn tuag at yr iaith i’r siaradwr, er gwaethaf y dylanwad Saesneg trwm ar yr ieithwedd [ieithwedd - dewis o eiriau]. Ac eto, cerdd ar gyfer cynulleidfa draddodiadol Gymraeg yw hon mewn ffordd arall, cynulleidfa a fyddai’n gwerthfawrogi’r cyfeiriadau at ‘gwlad y Menyg Eifion’ a ‘stopio’r moch rhag mynd i’r gwinllan’.

Cerdd fwy sylweddol, ond eto tebyg mewn rhai ffyrdd yw ‘Be ti fel, Syr?’ gan Aled Lewis Evans. Dyma ei hagoriad hithau:
Ni’n cael bad press, ni yn,
yma ar y ffin.
Mae’r puryddion iaith actually
yn poen yn y tin.
Be ‘dan nhw ddim yn sylweddoli, like,
ydy mai fi a fy mates sy’ yma ar y front line.
Without us
there’d be no Fro Gymraeg …
Eto, fe’n gwahoddir i uniaethu [identify] â’r siaradwr i ryw raddau, ond mae’r cyfeiriad at y ‘puryddion iaith’ a’r ‘Fro Gymraeg’ yn awgrymu cynulleidfa o fath gwahanol.

Cerdd arall gan yr un bardd gydag ieithwedd debyg yw ‘Over the llestri’ — fe’ch gadawaf chi i fwynhau Aled ei hun yn darllen hon:

fideo

Y pwynt sylfaenol felly yw bod y tafodieithoedd newydd i’w gweld mewn barddoniaeth, a honno’n farddoniaeth ddiddorol a bywiog. Ond mae’r awduron sy’n defnyddio’r tafodieithoedd hyn wedi ennill eu plwyf drwy ddangos meistrolaeth ar yr iaith lenyddol draddodiadol yn gyntaf. Nid yw ieithwedd sydd wedi ei seilio ar y tafodieithoedd newydd yn un y mae’n hawdd gwneud enw drwyddi.

Yn ei gerdd ‘Neijal’, mae Ifor ap Glyn yntau yn collfarnu [condemn] puryddion ieithyddol:
… ‘O le wyt ti’n dod‘ Neijal!
Ti’n merwino fy nghlustia
hefo’r bratiaith ‘na Neijal—
mae’r ‘dod-o’ wedi marw i fod, Neijal!
… neu wyt ti’n gwybod rhwbath dwi ddim Neijal?!
Dos allan i chwara Neijal!! …
Mae’n ddifyr yma nad yw’r siaradwr yn defnyddio’r iaith safonol chwaith. Lladd ar iaith Neijal y mae o safbwynt un o’r tafodieithoedd traddodiadol. Dim ond trwy ridyll o (rag)farnau ieithyddol y cawn glywed llais Neijal ei hun. Fel arall mae’n fud. Llais arall eto a glywwn ar ddiwedd y gerdd:
Bwrwyd sawl Neijal ymaith
a’u colli yn awr ein hangen
ond gwell iddynt droi yn Saeson
na chael treisio ein cystrawen.
Mae dros ddau ddegawd ers cyhoeddi’r gerdd hon, a’r Neijal gwreiddiol yntau yn tynnu tua’r canol oed. Yn y cyfamser gellid dadlau bod ieithwedd barddoniaeth mewn rhai ffyrdd wedi ceidwadoli [become conservative]. (Ni wnaf sôn am ryddiaith na’r ddrama yma.) Cafwyd arbrawf diddorol iawn drwy gyfrwng ‘Cyfres y Beirdd Answyddogol’ gan y Lolfa rhwng y 1970au a’r 1990au (yno y daeth Neijal i’r fei), ond tybed nad yw’r llanw wedi troi ers hynny? Yn sicr, mae apêl y gynghanedd a’i hieithwedd draddodiadol (gan amlaf) yn gryf iawn i feirdd ifanc y dwthwn hwn [y dyddiau yma]. A yw’n wir, felly, fod y tafodieithoedd newydd wedi eu cyfyngu i gerddi am eu siaradwyr, ac nid gan eu siaradwyr? Ac ai trafod plentyndod a bywyd ysgol yn unig fydd ffawd y tafodieithoedd hyn?

Dyrnaid o gerddi yn unig a drafodais yma – felly a yw’r sylwadau a’r cwestiynau hyn yn rhai teg? Gorffennaf â chwestiwn arall. Mae rhai o Neijals (a Neijelas) heddiw yn defnyddio’u Cymraeg wrth drydar a blogio, ond tybed nad ydynt yn dal wedi eu cau allan o weddill y byd llenyddol?

Dylan Foster Evans

Achos llys am wrthod siarad Saesneg

Diolch i Golwg360

Mae dyn wedi croesawu penderfyniad llys ei fod yn ddieuog o dair trosedd, ar ôl i weithiwr siop ei hebrwng allan o siop ym Mhenygroes am iddo wrthod siarad Saesneg.


Cafodd Richard Thomas Jones, sy’n 72 oed, ei alw gerbron Llys y Goron Caernarfon yr wythnos diwethaf yn dilyn ffrae gyda Lynda Jones, gweithiwr yn siop elusen Annie’s Wyddfa, wedi iddi hi fynnu bod Richard Jones yn siarad Saesneg yn y siop.

Roedd Richard Jones, neu Dic Jones, wedi cael ei gyhuddo o aflonyddu hiliol a dau gyhuddiad o ymosodiad corfforol. Roedd  Lynda Jones yn honni ei fod wedi ei galw yn “fuwch Saesneg”, yn “Natsi” yn ogystal â’i fod wedi ei tharo.

Flwyddyn a hanner wedi’r digwyddiad yn 2012, cafodd yr achos ei gynnal yn Llys y Goron Caernarfon.
Cafwyd Dic Jones yn ddieuog o’r tri chyhuddiad yn ei erbyn, gyda’r rheithgor yn dod i’r penderfyniad hwnnw o fewn llai nag awr.

‘Gwarthus’

Yn dilyn yr achos dywedodd Dic Jones wrth Golwg360: “Mae’r peth yn warthus.  Fasa hyn ddim yn digwydd mewn dim un wlad arall. Meddyliwch am ddyn Ffrengig yn cael ei hel allan o siop yn Ffrainc am siarad Ffrangeg!” meddai Dic Jones.

Cefndir

Ym mis Hydref 2012, fe aeth Dic Jones a bocs o nwyddau i’r siop elusen ar Stryd yr Wyddfa ym Mhenygroes a chychwyn sgwrsio yn Gymraeg gyda’r gweithiwr siop, Lynda Jones.

Ymateb Lynda Jones oedd gorchymyn ei fod yn troi o’r Gymraeg i’r Saesneg, gan ddweud fod yn rhaid iddo siarad Saesneg yn y siop.

“Ddychrynis i am ‘y mywyd – roedd o’n mynd drwyddach chi rywsut,” meddai Dic Jones.

“Ac mi roedd hi’n deall Cymraeg beth bynnag.”

Penderfynodd y gŵr fynd yn ôl i’r siop gyda dyfais recordio, i weld os fyddai’n cael yr un ymateb ar dâp. A’r tro yma, bu i’r un ddynes ei hebrwng allan i’r stryd:

“Mi wnaeth hi afael ynddo fi a bygwth galw’r heddlu. Ac mi ro’n i isio iddyn nhw ddod yno, i weld y peth yn digwydd.

“Dyna pam es i yn ôl hefo dyfais recordio, am fy mod i’n meddwl na fasa neb yn coelio bod y ffasiwn beth wedi digwydd fel arall.”

Yn ddiweddarach, fe ddaeth heddwas i dy Dic Jones gyda’r neges fod Lynda Jones yn dwyn achos yn ei erbyn am aflonyddu hiliol sarhaus ac am ei tharo.

Cynigodd yr heddwas i Dic Jones arwyddo datganiad i ddweud na fyddai’n mynd i’r siop byth eto, ac fe fyddai’r achos yn cael ei ollwng. Ceisiodd yr heddwas gael gafael ar y ddyfais recordio, ond gwrthododd Dic Jones iddo fynd a’r dystiolaeth.

Ar ôl ymweliad yr heddlu, roedd cyhuddiad ychwanegol yn erbyn Dic Jones  - gyda’r heddwas yn dweud ei fod wedi ymosod arno fo yn ogystal. Cafodd ei arestio, a’i gadw yn y ddalfa am bedair awr.

Ymateb Comisiynydd y Gymraeg

Dywedodd llefarydd ar ran Comisiynydd y Gymraeg: “Mae gan Gomisiynydd y Gymraeg bwerau statudol o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 i ymchwilio ac ymateb i gwynion am fethiant sefydliadau i weithredu eu cynlluniau iaith Gymraeg; achosion o ymyrraeth â rhyddid unigolion i ddefnyddio’r Gymraeg gyda’i gilydd yng Nghymru; ac yn y dyfodol, cwynion am fethiant sefydliadau i gydymffurfio â safonau.

“Nid yw pwerau’r Comisiynydd i ymchwilio yn cwmpasu’r gŵyn dan sylw ac felly nid oedd modd ystyried yr achos.”

Ychwanegodd y llefarydd: “Ddiwedd Tachwedd 2013 lansiodd y Comisiynydd wasanaeth rhanbarthol newydd i gefnogi busnesau bach a chanolig. Fel rhan o’r gwasanaeth newydd, mae pedwar swyddog cynghori busnes yn gweithio’n uniongyrchol â busnesau ar draws Cymru er mwyn datblygu defnydd o’r Gymraeg mewn ffordd sy’n ateb anghenion penodol y busnes a’r gymuned leol.”

Pumlumon


Hen air am gorn simnai oedd llumon, a dyna sydd yn enw'r mynyddoedd Pumlumon - pum copa sydd i'w gweld yn amlwg o bell fel pum corn simna.

Pumlumon Fawr

Adfer capel Llwynrhydowen

Bydd capel hanesyddol gyda chysylltiadau i'r bardd Dylan Thomas yn cael ei adfer diolch i hwb ariannol o £285,000.

Mae'r arian wedi ei roi i adfer capel Llwynrhydowen ger Llandysul, mam gapel Undodiaeth yng Nghymru a chwaraeodd ran bwysig yn hanes crefyddol Cymru.

Llwynrhydowen chapel

Daw'r arian gan y Gronfa Loteri, Cadw, Cyngor Ceredigion a Chyngor Cymuned Llandysul.
Bydd y cynllun hefyd yn creu amgueddfa ac yn rhan o lwybr crefyddol yn rhoi hanes Undodiaeth yng Nghymru.

Canolbwynt cymuned
 
Hwn oedd y capel Arminaidd cyntaf yng Nghymru ac agorodd yn 1733.

Roedd yn ganolbwynt i gymuned wledig, oedd yn gwrthod derbyn crefydd Calfinistaidd a gwleidyddiaeth Geidwadol y cyfnod.

Ar un adeg y gweinidog oedd Gwilym Marles, hen ewyrth y bardd Dylan Thomas.

Yn Hydref 1876 roedd y gweinidog yn cefnogi'r Rhyddfrydwyr a phenderfynodd y sgweier lleol Torïaidd John Davies Lloyd daflu'r gweinidog a'i addolwyr allan am fod y capel wedi ei adeiladu ar ei dir.

Wedi i bobol gasglu arian cafodd capel newydd ei godi yn 1879.

'Datblygiad arwyddocaol'
 
Y gred yw bod Marles wedi ysbrydoli cymeriad y Parch. Eli Jenkins yn y ddrama Under Milk Wood, ac mae sôn am hanes y capel ym marddoniaeth Thomas.

Erbyn hyn, mae'r adeilad dan reolaeth Addoldai Cymru, ymddiriedolaeth gafodd ei sefydlu i achub capeli hanesyddol yng Nghymru.

Dywedodd eu cadeirydd, Dafydd Owen: "Dyma'r datblygiad mwyaf arwyddocaol yn rhaglen Addoldai Cymru i sicrhau'r rhan unigryw yma o'n treftadaeth genedlaethol."

Yn ogystal ag adfer yr adeilad, bydd adnodd ar-lein yn galluogi i ddefnyddwyr gael taith o amgylch y capel drwy ddelwedd rithwir [rhithwir - virtual], ar y we.

Diolch i'r BBC

Tu Hwnt i Ddagrau - Hanes Senghennydd

BBC Cymru - Darganfod

I nodi canmlwyddiant un o ddamweiniau glofaol mwyaf Prydain mae Manon Eames wedi ysgrifennu drama radio newydd sy'n dweud stori go iawn rhai o'r bobl gafodd eu lladd yn y drychineb. 

Lladdwyd 439 o ddynion mewn ffrwydriad nwy dan ddaear ym mhwll glo'r Universal yn Senghennydd ger Caerffili yn 1913 gan greithio'r gymuned gyfan a oedd wedi tyfu o gwmpas y pwll.

[creithio - scar]

Gadawyd 205 o wragedd heb wŷr, 62 o rieni heb feibion a thros 500 o blant heb dad gan y ffrwydriad.

Mae'r ddrama, Tu Hwnt i Ddagrau: Lleisiau Senghennydd, yn cael ei darlledu ar Radio Cymru, ynghyd â rhaglen ddogfen am y drychineb. Cafodd Elin Meredith sgwrs efo Manon Eames am ei hymchwil i'r hanes.

Am beth mae'r ddrama?

Ro'n i eisiau edrych ar ochr bersonol y drychineb. Mae 'na lot o ffeithiau am be ddigwyddodd, pam ddigwyddodd o, sut gafodd y teuluoedd eu trin wedyn, ond mi wnes i benderfynu efallai y byddai 'na lot am hynny yn cael ei ddweud yn y rhaglenni dogfen felly ro'n i eisiau edrych ar beth oedd scale y drychineb i bobl leol.

Sut aethoch chi ati i wneud yr ymchwil?

Mae 'na restr ar gael o bawb gafodd eu lladd a'u cyfeiriad nhw felly be wnes i oedd cael map o Senghennydd, mynd drwy faint o bobl wnaeth farw ar bob stryd, ticio'r enwau a lle roedden nhw'n byw ac wedyn roeddech chi'n gallu gweld fod na un yn rhif 1, dau yn rhif 3, un yn rhif 4, dau yn rhif 6 ac yn y blaen, sydd yn dangos scale y peth a sut wnaeth o fwrw enaid y gymuned i gyd. 

Stryd yn Senghennydd 
 "A victim in every house" yw'r pennawd i'r llun yma o stryd yn Senghennydd
 
Roedd y tai i gyd bron wedi colli rhywun - neu wedi colli rhywun yn agos iddyn nhw. Neu, wrth gwrs o'r 19 gafodd eu hachub - sut roedden nhw'n teimlo wedyn pan oedden nhw'n gorfod mynd adref ac yn byw ar stryd yn llawn pobl oedd wedi colli rhywun?

Mi wnes i hefyd edrych ar y census i weld pwy arall oedd yn byw yn y tai efo'r bobl yma. Felly ro'n i'n gallu gweld bod Charles Baker, er enghraifft, yn byw yn y tŷ yma a bod ganddo chwech o blant. Wedyn roeddwn i'n gallu gweld ar y census pwy arall oedd yn byw yn y tŷ, a oedd gan y wraig waith neu beidio ac yn gallu adeiladu darlun o'r teuluoedd drwy ymchwil manwl.

Nes i wedyn brintio map mawr o bwll yr Universal dan ddaear, sy'n dangos lle roedd y cyrff i gyd, efo rhifau. Dydy'r map ddim yn rhoi enwau'r cyrff - achos doedd dim posib adnabod rhai ohonyn nhw am eu bod nhw wedi cael eu llosgi mor wael.

Doeddech chi ddim yn gallu cyfateb y person i'r rhif bob tro felly?

Na, ond roedd 'na dystiolaeth mewn ymchwil arall oedd yn dweud lle roedd pobl yn gweithio. Felly roeddwn i'n gwybod, er enghraifft, bod y teulu Baker yn gweithio mewn un ardal o'r pwll, felly roedd yn gwneud synnwyr i feddwl mai fanno gafon nhw eu lladd.

Merch yn dal babi mewn siôl Gymreig  
Y "fam fach" yn dal ei babi mewn siôl Gymreig wrth edrych i lawr ar y pwll.
 
Roedd yn fater o wneud jig-sô o'r holl le. Wedyn yn Senghennydd ei hun, gweld lle roedd y teulu yn byw a gweld bod y wraig newydd gael babi ac felly roeddwn i'n gallu rhoi hwnna yn erbyn stori'r pwll ac adeiladu stori bersonol rhai o'r bobl.

Ar bwy ydych chi'n canolbwyntio yn y ddrama?

Dwi wedi canolbwyntio ar ddau fachgen oedd ar eu diwrnod cyntaf i lawr yn y pwll. Maen nhw newydd fynd i mewn i'r pwll ac i lawr dan ddaear am y tro cyntaf pan mae'r ffrwydriad yn digwydd. Sut oedd hi iddyn nhw fel hogiau bach 12 oed ddim yn gwybod be oedd yn mynd ymlaen?

Dwi wedi canolbwyntio hefyd ar deulu lle roedd dau frawd wedi mynd i un rhan o'r pwll a'r brawd arall a'r tad wedi mynd i'r ochr arall. Cafodd y brawd a'r tad eu lladd ond roedd y ddau frawd yn yr ochr ddwyreiniol lle doedd 'na ddim tanchwa. Mi ddaru nhw drio mynd trwodd i'r ochr orllewinol i chwilio am eu brawd a'u tad ond roedden nhw'n gwybod bod 'na ddim gobaith wrth gwrs. 

[mi ddaru nhw drio - fe wnaethon nhw drio - iaith y gogledd]

Dynion yn aros am newyddion  
Brodyr, tadau a meibion yn aros am newyddion
 
Mi gafon nhw eu dau eu hachub ond mi gollon nhw'r tad a'r brawd arall. Cymerodd fis iddyn nhw ddod o hyd i'w cyrff ac mi fethodd y mab 'fenga â mynd i'r angladd achos ei fod wedi ypsetio gormod a wnaeth o erioed fynd dan ddaear eto. Mi wnaeth adael y pwll a mynd i weithio efo pawn brokers. Wedyn aeth i'r rhyfel yn 1914 a chael ei ladd yn y Somme. Mae'r straeon mor drist.

['fenga - ifanca]

Beth oedd yr amodau yn y gymdeithas ar y pryd? Oedd hi'n gymdeithas dlawd iawn?

Er nad oedd y tâl yn grêt, Senghennydd oedd dal y pwll oedd yn talu orau felly dyna pam fod gymaint o ddynion yn gweithio yno, a'u bod yn dod o ardal mor eang. Roedd y rhan fwyaf o Senghennydd ac Abertridwr, roedd 'na lot fawr iawn o ddynion o Gaerffili, ac roedd hyd yn oed rhai o Gaerdydd - achos fod Senghennydd yn talu'n dda. 

Ond, Senghennydd hefyd oedd y pwll peryclaf. Roedden nhw i gyd yn gwybod fod 'na lot o nwy yna ac roedd y ffordd roedden nhw'n mynd at y glo hefyd yn beryg.

Paratoi i gludo arch o'r safle  
Mae'r pennawd i'r llun yma o baratoi i gludo arch o'r safle yn dweud y cyfan: "The scene at the Pithead, hour by hour, all through the day".
 
Roedd 'na ddamwain wedi bod ychydig ynghynt ac roedd honno'n ddamwain oherwydd nwy ac maen nhw'n meddwl mai am nad oedd y ddamwain honno wedi cael ei hymchwilio'n iawn, mai dyna ydi'r rheswm fod yr ail ddamwain mor ddrwg. Roedd pawb yn gwybod fod Senghennydd yn bwll budr.

[mai am nad oedd y ddamwain.... they thought that because the accident had not been...]

Ai dyna pam roeddwn nhw'n cael eu talu'n well?

Wel, ie. Ond doedd o'n dal ddim yn lot. Ond dyna pam roedden nhw'n mynd dan ddaear - achos fod y tâl yn weddol o'i gymharu.

Beth oedd effaith y digwyddiad ar y gymdeithas?

Aeth lot fawr iawn ohonyn nhw nôl dan ddaear ac mae rhywun yn meddwl amdanyn nhw wedyn, a chyn hynny, yn mynd i'r Rhyfel Byd Cyntaf. 

Fe wnaeth y gymuned yn Senghennydd ac Abertridwr golli lot fawr iawn o ddynion yn y Rhyfel Byd Cyntaf wedyn hefyd.

TAN20 a'r Iaith Gymraeg

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi dweud bod ‘gwendidau’ cyngor newydd TAN 20 yn dangos bod angen newidiadau llawer mwy pellgyrhaeddol i’r system gynllunio.

Dywed y nodyn technegol: “Ni ddylid cynnal asesiad o effaith ceisiadau cynllunio
ar y Gymraeg gan y byddai hynny’n dyblygu prosesau dewis safleoedd y [cynllun
datblygu lleol].”


Ychwanegodd y mudiad iaith eu bod nhw eisoes wedi gofyn am newidiadau mwy mewn
dogfen bolisi a anfonwyd at Carwyn Jones yn ôl ar ddechrau mis Awst eleni.


Dywedodd Cen Llwyd, ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Mae’r system gynllunio
yn lladd y Gymraeg ar hyn o bryd. Byddwn ni’n ystyried y nodyn newydd yn fanwl,
ond mae’r gwendidau ynddo fe yn dangos angen difrifol am newidiadau mwy
sylfaenol i’r system gynllunio’n ehangach, a hefyd arolygiaeth gynllunio
annibynnol i Gymru. Mae nifer fawr o awdurdodau wedi mabwysiadu eu cynlluniau
datblygu lleol yn barod, a dyw’r canllawiau ddim yn delio â’r broblem honno.


Dyna pam anfonon ni bapur safbwynt manwl at Carwyn Jones. Mae’r ffaith bod y
nodyn yn datgan na ddylai awdurdodau gynnal asesiadau effaith iaith ar geisiadau
cynllunio unigol yn rhyfedd iawn. Dyw’r nodyn ddim yn trin y Gymraeg fel iaith i
bawb nac i bob rhan o Gymru chwaith.”


Ychwanegodd Robin Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Nid nawr yw’r
amser i wneud mân newidiadau i’r system gynllunio. Am lawer rhy hir, mae’n
cymunedau a’n pobl – boed yn siaradwyr Cymraeg neu beidio – wedi dioddef
effeithiau negyddol y farchnad rydd. Yn hytrach na gwasanaethu pobl a
chymunedau, mae’r farchnad dai a’r gyfundrefn gynllunio wedi cymryd mantais
ohonynt. Mae pwerau deddfu newydd Cynulliad Cymru yn cynnig cyfle i dorri’n
rhydd o’r meddylfryd neo-ryddfrydol hwnnw. Hefyd, mae angen ateb Cymru-gyfan, yn
hytrach nag un sydd ddim ond yn amddiffynnol ynglŷn â'r Gymraeg. Cred y
Gymdeithas fod gan bob cymuned botensial i fod yn gymuned Gymraeg, a dylai'r
system gynllunio gyfrannu at dyfu’r Gymraeg, yn ogystal ag amddiffyn y cymunedau
Cymraeg sy’n bodoli eisoes.”


Ymysg argymhellion y mudiad ar gyfer newidiadau i’r system gynllunio, maen nhw’n
galw am i’r Bil Cynllunio:


* gynnwys asesu'r angen lleol am dai cyn datblygu; sicrhau'r hawl i gartref am
bris teg (i'w rentu neu i'w brynu) yng nghymuned y person sy'n rhentu neu brynu;
blaenoriaeth i bobl leol drwy'r system bwyntiau tai cymdeithasol; system
gynllunio sydd yn gweithio er budd y gymuned; sicrhau ailasesu caniatâd
cynllunio blaenorol;


* sicrhau hawliau cymunedau i ymwneud â'r broses gynllunio a rhoi hawl i
gymunedau a grwpiau apelio yn erbyn penderfyniadau cynllunio;


* sefydlu “Arolygiaeth Gynllunio” i Gymru fel corff gwbl annibynnol, corff sydd
yn gyfrifol am apeliadau ac archwiliadau i mewn i ddatblygiadau cynllunio, a
sicrhau rheolaeth ddemocrataidd ohono”;


* wneud asesiadau effaith iaith yn ofyniad statudol, a gosod TAN 20 ar sail
statudol;


* atal pob cynllun datblygu unedol tan fydd asesiad wedi ei wneud o’i effaith ar
y Gymraeg;


* sicrhau bod cynghorwyr yn gallu gwrthod cais cynllunio ar sail yr effaith ar y
Gymraeg