Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Saturday 3 February 2018

Pam defnyddio 'r Saesneg ar y cynfryngau cymdeithasol?

Diolch i BBC Cymru Fyw am yr erthygl yma.

Pam fod Cymry Cymraeg yn sgrifennu yn Saesneg ar Facebook? Dyna'r cwestiwn a ofynnodd y cynhyrchydd teledu Angharad Blythe yn llawn rhwystredigaeth ar ei chyfrif personol yn ddiweddar.
Fe gafodd fflyd o ymatebion gan gynnwys un yn anghytuno gan ei ffrind, Ffion Jon, sydd hefyd yn gynhyrchydd teledu ar ei liwt ei hun. Mae hi'n dadlau bod gan bobl ddwyieithog hawl i ddewis heb feirniadaeth - ddylai neb blismona'r dewis o iaith ar gyfryngau cymdeithasol, meddai.
Mae'r ddwy yn egluro eu safbwyntiau ymhellach i Cymru Fyw:


line

Angharad Blythe:
Mae'n fy nghorddi, yn ddyddiol, i weld Cymry Cymraeg yn postio negeseuon uniaith Saesneg ar y cyfryngau cymdeithasol.
Dwi'n berson rhyddfrydol, a dydw i ddim yn bregethwrol ynglŷn â llawer o ddim. Ond pan mae'n dod at faterion ynglŷn â'r iaith, mi ydw i'n credu yn gryf fod gan bawb ohonom ddyletswydd i helpu'r Gymraeg os ydan ni am ei gweld hi'n goroesi.
Mae'n anodd gen i gredu y bydda 'na neb yn ei iawn bwyll am weld yr iaith Gymraeg yn marw, ond wrth sgrifennu statysau yn Saesneg (neu wrth beidio â defnyddio gwasanaethau Cymraeg yn y twll yn y wal, neu wrth y til hunanwasanaeth yn yr archfarchnad) dyna sy'n digwydd.
Mae ymwrthod â'r cyfle i'w defnyddio hi ym mha bynnag ffordd fedrwn ni, yn gyfystyr â'i hesgeuluso hi.
Wrth gwrs fod gan bawb ohonan ni'r hawl i gyfathrebu ym mha bynnag iaith 'dan ni isio, ond ar yr un pryd, mae'n rhaid inni sylweddoli fod y Gymraeg mewn lle mwy bregus na'r Saesneg. Mae hi angen sylw. Mae ganddi anghenion arbennig. Does yna ddim dadlau efo hynny - mae'n ffaith. 
Felly - o ddilyn yr egwyddor honno i'r pen - os ydan ni'n malio am y Gymraeg, yna mae'n gwneud synnwyr inni roi mwy o sylw iddi na'r Saesneg; drwy ei choleddu [= cherish] , a'i bwydo a'i dyfrio.
Wedi'r cwbl, fel pobl ddwyieithog, rydan ni'n gwybod fod iaith yn fwy na chyfrwng cyfathrebu yn unig. Mae iaith yn rhan o'n hunaniaeth ni. Mae hi'n ein gwneud ni yn bwy ydan ni, a phwy ydy'n plant ni, a phlant ein plant ni.
Dw i'n dallt nad ydi pawb yn gyfforddus wrth sgrifennu yn y Gymraeg - hyd yn oed os ydan ni'n Gymry glân gloyw ac yn cyfathrebu yn y Gymraeg ar lafar bob dydd.
Ond does affliw o otsh am safon iaith neb mewn gwirionedd. Ei defnyddio hi sy'n bwysig - bob dydd ac ymha bynnag ffordd y medrwn ni.
Mi fentra'i ddweud nad oes neb call yn mynd i farnu iaith ysgrifenedig neb ar y gwefannau cymdeithasol... ac os ydach chi'n un o'r plismyn iaith 'na - gwae chi - ia, gwae chi. Dim ond wrth annog pobol, ac nid drwy farnu, y bydd y Gymraeg yn goroesi.
Dwinna ar fai. Wrth gwrs fy mod i. Weithiau mae'n haws derbyn nad ydi cwmni yn cynnig gwasanaethau Cymraeg, a bodloni ar gyfathrebu efo'r cwmni dan sylw yn Saesneg.
Mae'n cymryd amser i lythyru a chwyno. Mae'n cymryd egni i fynychu cyfarfodydd am ddyfodol yr iaith, i fynychu ralis ac i brotestio'n ddi-baid.
Ond mi fedar pawb ohonan ni gyfrannu, drwy wneud y pethau bychain. Dechrau pob sgwrs yn Gymraeg, ble bynnag yr ydan ni yng Nghymru, ond hefyd ar y ffôn, ac ar y gwefannau cymdeithasol. Ac os nad ydi'r person arall yn deall Cymraeg, yna mi fydd wedi clywed neu weld yr iaith, a bydd y weithred honno - ynddi'i hun - wedi hyrwyddo'r Gymraeg fel iaith fyw, fywiog.
Nid pregethu ydw i, ond ar y llaw arall, mi ydw i'n awyddus i agor y drafodaeth, gan obeithio y bydd hynny'n gwneud i bobl feddwl ddwywaith cyn troi i'r Saesneg am "fod pawb yn dallt Saesneg".
Achos, o ddilyn yr egwyddor honno i'w phen draw - waeth inni gyd roi'r ffidil yn y to rŵan, ddim, ac anghofio'r Gymraeg yn llwyr.
Ffion Jon:
O ran egwyddor, dwi ddim eisiau i neb ddweud wrtha' i ym mha iaith i sgwennu ynddi ar Facebook - mi wna' i fel unigolyn ddewis ym mha iaith dwi'n sgwennu, ac mae hynny'n bwysig.
Mae'n mynd nôl i'r busnes o blismona iaith. Mae pobl yn gallu bod yn reit self-conscious o'u Cymraeg a dwi'n meddwl bod Facebook a'r cyfryngau cymdeithasol yn gyffredinol wedi bod yn wych o ran y Gymraeg achos mae pobl yn defnyddio ffordd lafar i sgwennu arnyn nhw.
Dydi Nghymraeg i ddim yn berffaith o bell ffordd ond pan dwi'n sgwennu rhywbeth yn sydyn dwi ddim yn checio bod y sillafu a'r gystrawen yn iawn achos yn reit aml mae rhywun yn ymateb ar y pryd, does dim amser i feddwl am Gymraeg cywir.
Os wyt ti'n dechrau dweud wrth bobl am sgrifennu yn Gymraeg a bod yn rhaid iddyn nhw bostio yn Gymraeg mae'n mynd nôl i'r peth yna bod pobl yn meddwl bod rhaid iddyn nhw sgwennu yn gywir.
Dyna ydi'r peth neis am fod yn ddwyieithog, bod gan rywun y dewis.
Weithiau dydi ffraethineb [ = wit] ddim yn cyfieithu ac felly mae rhywun yn ymateb yn Saesneg os ydi'r post yn Saesneg.
Dyna sy'n dda am gyfryngau cymdeithasol - dim arholiad ysgol ydi o, nid sgrifennu mewn ebost swyddogol wyt ti ond sgrifennu'n ffraeth a chael laff.
Unwaith rwyt ti'n dechrau efo plismona pa iaith mae rhywun yn ei ddefnyddio yna ti'n sbwylio'r cyfrwng.
Dydi pobl ddim yn cymdeithasu yn y pyb dim mwy - hwn ydi ein pyb newydd ni. Taset ti'n mynd lawr i'r pyb fyse neb yn cywiro dy iaith di neu'n dweud wrthat ti pa iaith i'w siarad felly pam ei wneud o ar Facebook?
Dwi yn gweld y pwynt ehangach mae Angharad yn ei wneud: os na wnawn ni ddefnyddio'r Gymraeg mae presenoldeb yr iaith ar bethau fel Facebook yn diflannu.
Mae wedi gwneud i fi feddwl cyn postio y dylwn i ei roi yn Gymraeg oherwydd bod ehangu presenoldeb y Gymraeg yn bwysig.
Ond mae'r ffaith fod gynnon ni'r dewis yr un mor bwysig - mae cael y dewis yn fraint a does gan ddim un unigolyn arall yr hawl i ddeud wrthoch chi pa iaith i'w dewis.
Y peth pwysicaf ydi bod pawb yn teimlo'n hyderus i sgwennu ynddo fo, dim ots os ydi o'n gywir. Peidiwch â bod ofn defnyddio'r Gymraeg!
Dydi'r ffaith mod i'n sgwennu yn Saesneg weithiau ddim yn golygu bod y Gymraeg yn golygu dim llai imi - Cymraeg ydi'n iaith gyntaf, dwi'n byw mewn ardal Gymraeg er mwyn i mhlant i gael addysg Gymraeg - mae hynny'n holl bwysig imi ond os dwi eisiau sgwennu bob dim yn Saesneg ar Facebook am gyfnod, yna fy newis i ydi hynny.







No comments:

Post a Comment