Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Monday 12 February 2018

Hanes yr Iaith mewn 50 Gair: Talcen


Ymhlith yr ieithoedd sydd wedi gadael ôl ar y Gymraeg yw iaith ein cymdogion dros Fôr Iwerddon, y Wyddeleg. I ddeall pam, mae'n rhaid teithio'n ôl i'r bedwaredd ganrif:
Tua diwedd oes yr Ymerodraeth Rufeinig yr oedd ymosod parhaol bron ar Frittania. Yn ystod y bedwaredd a'r bumed ganrif glaniodd y Gwyddelod ar hyd arfordir gorllewinol Cernyw, Cymru a Gorllewin yr Alban.
Ymsefydlodd y Gwyddelod ar hyd arfordir gorllewin Cymru, er mae yna hanes sy'n dweud bod un o benaethiaid y Brythoniaid, Cunedda o dde'r Alban, wedi gorymdeithio i'r de a'u gorfodi i adael gogledd orllewin Cymru.
Arhosodd y Gwyddelod yn ne orllewin Cymru gan deyrnasu yn Nyfed a Brycheiniog, dau enw sy'n tarddu o'r Wyddeleg. Yn ôl pob tebyg bu farw'r Wyddeleg fel iaith fyw yn Nyfed rhywbryd yn y seithfed ganrif. (Ffynhonnell: BBC Cymru)
Mae'n debyg mai un o'r geiriau Gwyddeleg sydd wedi goroesi o'r cyfnod hwnnw yw'r gair talcen.
Dyma ddiffiniad Geiriadur Prifysgol Cymru:
Y rhan o'r wyneb rhwng y llinell gwallt naturiol a'r llygaid, tâl, y rhan gyfatebol mewn anifeiliaid: forehead, brow.


___________________

Ifor ap Glyn sy'n esbonio mwy:


Nodiadau


Aeliau

Pen fel ŵy



Direidi – mischievousness

Deillio o nodweddion corfforol

e.e. Vaughan (fychan), Brace (bras, tew), Hagger (hagr – hyll, salw), Voyles (moel)

tyfu talcen = colli gwallt, mynd yn foel

benthyciad o’r Wyddeleg yw ‘talcen’

geiriau eraill:

twlc (Gwydd. tolg = bocs o gwmpas gwely, gwely), ond yn Gymraeg ‘cwt mochyn’

tolc (Gwydd. tolg – rhwyg, bwlch) – dent, chip

brechdan (Gwydd. brechtán = menyn, saim)

cadach (Gwydd. cadach = calico) – clwt, cawiau

mewnfudwyr

hwyluso’r broses o fenthyg geiriau o’u hiaith nhw

Sir Benfro: parc (Gwydd. páirc) cnwc (Gwydd. cnoc) : dau air arall sy wedi’u benthyg o’r Wyddeleg

Wedi hen ennill ei le

Sied dwls yng nghefn y tŷ

Talcen: cen yw ‘ceann’ (Gwydd) neu ‘pen’ yn y Gymraeg.

Ystyr ‘tál’ yw ‘neddyf’, math o dwlsyn ar gyfer naddu coed (‘adze’ yn Saesneg), rhyw fath o fwyell efo llafn wedi ei droi…

…caniatáu i’w hofferiaid briodi, ac roedd eu mynachod yn torri eu gwallt mewn ffordd wahanol, tra bod mynachod yr Eglwys Rufeinig yn siafio corun eu pennau i ddangos eu bod nhw wedi cysegru eu bywydau i addoli Duw, roedd mynachod Celtaidd yn siafio blaen y pen o glust i glust.

Petai rhywun yn edrych ar fynach Celtaidd o’r tu blaen, mi fysai ei dalcen yn ymdebygu i ben neddyf.

Slang direidus am sut oedd mynachod Celtaidd yn edrych ers talwm

Dechreuodd glowyr gyfeirio at wyneb y glo fel ‘talcen’ – talcen caled: unrhyw sefylfa anodd. Neu, yn ôl y Gweiadur: "rhywbeth sy’n mynd i olygu llawer o waith caled ac ymdrech cyn bod gobaith llwyddo".


Torri syched

“falle byddai cymaint o syched arno fe fel y byddai fe’n yfed ei beint ar ei dalcen.

...nid ei yfed yn araf fesul llymad, ond yn hytrach ei dollti i lawr mewn un fel bod y gwydr yn cyffwrdd ar y talcen.

Ers iddo fe gael ei fathu mewn abaty Celtaidd….

Llafurio’n galed

Cydnabod

Bragwyr tan gamp (=rhagorol, gwych)
_____________

I gloi, dyma rai ymadroddion a phriod-ddulliau eraill:
talcen tŷ = gable
crychu talcen = knit one's brow
troi ar ei dalcen = to turn upside-down




No comments:

Post a Comment