Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Saturday 9 December 2017

Oer yw'r eira ar Eryri - rowlio'r R

Diolch i BBC Cymru Fyw am yr erthygl ddifyr hon.

Oer yw'r eira ar Eryri. Dydy brawddeg fel hon ddim yn hawdd i'w llefaru i unigolion sydd yn ynganu'r lythyren 'r' mewn ffyrdd gwahanol.

Cafodd y pwnc ei drafod ar raglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru yr wythnos hon.

Mae'r digrifwr a'r cyflwynydd Dilwyn Morgan yn un sydd wedi cofleidio ei 'nam lleferydd'.

"Dwi ddim yn siŵr iawn o ble ddaeth o. Ond 'nes i ddim sylwi arno fo nes i mi ddechrau gwneud pethau'n gyhoeddus a 'dwi wedi dod yn ymwybodol ohono fo wedyn.

"Dwi'n cofio aelod o Merched y Wawr yn d'eud wrtha'i mod i'n reit ciwt efo fo.

"Mi 'nes i raglen i S4C rai blynyddoedd yn ôl achael mynd at arbenigwr yn Ysbyty Allt-Wen i geisio fy nghael i stopio'r 'errian' 'ma.

"Mi es i yno rhyw dair, bedair gwaith a chael fy ffilmio, a wir i chi, mi oedd yr 'errr' yn dechrau newid, a dwi'n siŵr fyswn i wedi gallu cael gwared ohoni. Ond mi nes i benderfyniad i'w chadw hi, oherwydd mae'n rhan annatod ohona' i, Dilwyn Morgan."

Rhywbeth Pen-Llŷnaidd?

Ond wnaeth yr actores Mirain Fflur - sydd fel Dilwyn Morgan yn wreiddiol o Ben Llŷn - benderfynu ar gyfeiriad gwahanol.

"Roedd genna'i 'errr' eithaf cryf, yng nghefn y gwddf. Mae nifer o'r teulu'n ynganu 'err' yr un ffordd - dwi'n meddwl ei fod o'n beth Pen Llŷn-aidd.

"'Dwi a'm mrawd yn dweud 'err' yr un fath, a 'da ni wedi'i basio fo 'mlaen i'n cefndryd a'n cyfnitherod ar y ddwy ochr!

"Yn yr ysgol gynradd, ges i erioed drafferth ac erioed sylwi arno fo lawer, ond yn yr ysgol uwchradd, roedd yn dipyn o destun sbort, er ddim yn fy mhoeni'n ormodol.

"Ond ar y pryd, ro'n i'n Ysgol Glanaethwy, ac un diwrnod, gofynnodd Cefin [Roberts] i mi sut fyswn i'n licio dysgu dweud 'r' yn iawn?

"Roedd hynny fatha aur i mi ar y pryd ac wrth fy modd. Dim ond rhyw bythefnos gym'rodd y broses."

Ond dydy'r broses o ail ddysgu ynganu'r lythyren 'r' ddim yr un fath i bawb yn ôl Cefin Roberts.
"Mae pob unigolyn yn wahanol. Roedd Mirain yn awyddus iawn i ddysgu oherwydd ei bod hi, fel nifer sydd yn dod i Ysgol Glanaethwy, eisiau perfformio.

"Ar y llaw arall mae Dilwyn yn bersonoliaeth a dwi'n deall pam ei fod o'n teimlo fod yr 'err' yn rhan o'r bersonoliaeth honno. Ond mae actorion angen yr eglurder 'na a hyfforddiant i ynganu'n gywir.
"Os 'da chi'n hapus gyda'ch 'err' chi, yna popeth yn iawn. Ond os ydy o'n creu problemau neu'n dod ar draws eich gyrfa chi, yna dyna pryd mae angen edrych arni'n fanylach."

Y dylanwad Ffrengig?

Sut mae Cefin felly yn ceisio helpu unigolion fel Mirain?

"Dwi'n hyfforddi weithiau trwy ddefnyddio darn o farddoniaeth, ond yn dechnegol mae 'na o leia' chwech neu saith o ffyrdd gwahanol i ddweud 'r' yn anghywir.

"Er enghraifft, roedd Mirain yn dweud yr 'r' mewn ffordd eithaf Ffrengig, a mae'n debyg fod hynna wedi deillio o'r llys Ffrengig pan oedd Siwan yma yng Nghymru.

"Yn ôl y son, ddaeth hyn â dylanwad Ffrengig i'r iaith Gymraeg, a bod hynna wedi pasio i'r werin, oedd yn trio efelychu'r brenhiniaeth. Dwi ddim yn gwybod pa mor wir ydy hynna, ond mae hi'n stori dda."

Drysau yn agor

Sut aeth Cefin ati felly i helpu Mirain?

"Mi 'naeth o roi cyfres o frawddegau i mi ddysgu eu dweud yn gywir. Er enghraifft, 'Draw dros y drws.' Yn y frawddeg hon, mae'r 'd' yn golygu fod y tafod yn y lle cywir i rowlio'n gywir ar gyfer yr 'r'.

"Y foment ro'n i'n gwybod fy mod i wedi troi'r gornel oedd pan o'n i'n fy llofft ar ôl bod yn y côr, ac wedi bod yn dweud y frawddeg 'draw dros y drws' drosodd a throsodd yn fy mhen ac mi ddigwyddodd o. Sgrech wedyn a gweiddi ar Mam i ddod i wrando."

Dywedodd Cefin: "Anaml iawn wrth siarad yn gyffredinol mae Cymry yn rowlio'r 'r' yn galed, iawn.
"Yn y rhan fwyaf o achosion mae'n berffaith bosib rhoi 'r llythyren 'd' yn lle 'r' mewn gair heb newid y sŵn llawer.

"Ond cam cyntaf yw hwn mae'n bwysig pwysleisio, ac mae rhai pobl a nam lleferydd gwahanol, er enghraifft yn dweud 'l' neu 'f' yn lle'r 'r'. Ond unwaith 'dych chi wedi gafael ar y dechneg gywir, yna 'da chi on to a winner."

No comments:

Post a Comment