Lle braf ydi Trefaldwyn yn yr hydref. Mi fuodd Llywelyn ap Gruffydd – Llywelyn Ein Llyw Olaf – yno union 750 mlynedd yn ôl ac mae’n siŵr ei fod yntau wedi meddwl yr un peth.
Wel, fuodd o ddim cweit yn y dre’ Normanaidd efo’r castell uchel, ond mi fuodd rhyw ddwy filltir oddi yno, ar lan afon Hafren, hyd yn oed yn ei dŵr hi.
Yno yr arwyddodd o gytundeb oedd, am y tro cynta’, yn golygu bod brenin Lloegr yn ei gydnabod o’n Dywysog Cymru ac yn cadarnhau y byddai holl arglwyddi eraill y wlad yn gorfod talu gwrogaeth [homage, allegiance] iddo fo.
Cymru unedig, annibynnol, barhaol – dyna addewid y cytundeb. Am y tro cynta’, a’r ola’ hefyd.
Mae’n wir fod Llywelyn wedi gorfod talu arian go hael am y cytundeb ac ildio ychydig o diroedd yr oedd o wedi’u hennill; ardaloedd sydd bellach yn Lloegr ond lle mae olion y Gymraeg i’w teimlo o hyd.
Mi allech chi ddadlau mai’r cytundeb yna oedd uchafbwynt annibyniaeth ac undod Cymru – o dderbyn realpolitik y cyfnod, doedd dim disgwyl llawer gwell.
Ddiwedd Medi 1267 oedd hynny ond yn Nhrefaldwyn ym mis Tachwedd 2017, doedd dim arwydd fod y digwyddiad na’r dyddiad wedi’i gofnodi, heb sôn am gael ei ddathlu.
Does yna ddim byd i’ch cyfeirio chi chwaith at Ryd Chwima, y man bas yn yr afon lle cafodd y cytundeb ei arwyddo, ar y ffin bryd hynny rhwng Cymru a thiroedd concwest y Saeson.
Mi fyddech chi’n meddwl ei fod yn gyfle i bobol Trefaldwyn ddenu ymwelwyr a phwysleisio ei lle yn hanes Cymru.
Yn fwy na hynny, mi fyddech chi’n disgwyl i Lywodraeth ac asiantaethau ac awdurdodau lleol wneud sbloet [celebration] fawr o binacl grym gwleidyddol Cymru.
Ond wnaethon nhw ddim. A wnaethon ninnau ddim chwaith.
No comments:
Post a Comment