Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Thursday 30 November 2017

Yma wyf inna i fod

Dyma Geraint Lovgreen yn canu un o'i ganeuon mwya adnabyddus. Bydd Geraint yn 
perfformio yn Bar y Seler yn Aberteifi ar y 9fed o Ragfyr. Dewch yn llu.

Mae 'na ddau yn mynd i ryfel tu allan i'r Pen-deitch  [Palace Vaults - tafarn yng Nghaernarfon]
tra bo'r afon dal i chwydu'i phoen i'r aber,
mae sŵn poteli'n chwalu fel priodas hyd y lôn,

a neb yn meddwl gofyn pam fel arfer;
mae 'na ferched heb fodrwyau yn siarad celwydd noeth,
mae'r dref fel tae 'di'i mwrdro ar ei hyd;
ond mae'r lleuad dal i wenu ar hen strydoedd budur hon
fel pob tref ddifyr arall yn y byd.

Mae'n flêr a does na'm seren heno i mi uwch fy mhen;
dwi'n geiban ond dwi'n gwybod mai yma wyf inna i fod.  [yn geiban - yn feddw]

Mae 'na ddiwrnod newydd arall yn sleifio lawr Stryd Llyn
ac mae hogiau'r ochor bella'n dod yn heidiau,
a dod y maen nhw i gwyno nad oes unlle gwell i fynd
cyn mynd i'r Harp i yfed efo'u teidiau.
Does gynnon nhw ddim breuddwyd na 'chwaith yr un llong wen,
ond mae gynnon nhw ei gilydd reit o'r crud,
ac mae'r haul yn dal i godi calonnau'r dref fach hon
fel pob tref ddifyr arall yn y byd.

Mae'n flêr a does na'm seren heno i mi uwch fy mhen;
dwi'n geiban ond dwi'n gwybod mai yma wyf inna i fod.

A'r hogia llygaid barcud, efo'u sŵn a'u rhegi mawr,
rhain sy' piau pafin pob un stryd,
ond yr rhain a'u hiaith eu hunain sy'n cadw'r dref yn fyw,
fel pob tref ddifyr arall yn y byd.

Mae'n flêr a does na'm seren heno i mi uwch fy mhen;
dwi'n geiban ond dwi'n gwybod mai yma wyf inna i fod.

Mae'n flêr a does na'm seren heno i mi uwch fy mhen;
dwi'n geiban ond dwi'n gwybod mai yma wyf inna i fod.

Wednesday 29 November 2017

Dy hoff ffilm?

Heb enwi'r teitl, beth yw dy hoff ffilm?

Er enghraifft:

Ceredigion. Buwch yn cnoi ei thethi ei hunan. Saesnes gas o Firmingham. Brân faleisus. Mwd. Bron pawb wedi marw erbyn y diwedd. Glaw trwm.


Cliw - nid Cefn Gwlad Dail Jones Llanilar na'r bennod ddiwethaf o Ffermio yw hon.

Sunday 26 November 2017

Dyddiau Gwener Gwallgo

"Cymru'n cefnu ar Ddydd Gwener Gwallgof"

Golwg 360, Tachwedd 2016

Trwy gydol y dydd mae siopau wedi bod yn cynnig nwyddau am brisiau rhatach nag arfer gyda gostyngiadau mawr ar rhai nwyddau.

Mae siop Clwb Pêl-droed Caerdydd wedi bod yn gwerthu nwyddau am 15% yn rhatach, a siop Maplin wedi gostwng pris peiriant karaoke o £49.99 i £39.99, a phris camera HD o £169.99 i £119.99.

Ond mae ymateb cwsmeriaid yng Nghymru yn awgrymu bod Dydd Gwener Gwallgof – Black Friday – wedi colli ei apêl.

Fe ddywedodd staff siopau John Lewis, Shoe Zone, Maplin, Capital Shopping Centre yng Nghaerdydd nad oedden nhw fawr prysurach na’r arfer.

Mae ystadegau adroddiad diweddar gan Traidcraft yn dangos nad yw pobl Cymru yn gefnogol o’r Dydd Gwener Gwallgof gyda 56% o Gymry yn galw ar iddo ddod i ben.

Ffenomen Brydeinig

Ymateb tebyg sydd wedi bod drwy wledydd Prydain gyda phobol yn troi at siopa ar y We er mwyn dod o hyd i fargeinion.

Mae un adroddiad yn honni bod prisiau hanner y nwyddau sy’n cael eu prynu mewn gwirionedd yn fwy costus ar Ddydd Gwener Gwallgof.

_____________________


"Sbrowts yn hedfan"

Golwg360, Rhagfyr 2016

Mae disgwyl i dyrcwn, sbrowts a mins peis hedfan oddi ar y silffoedd heddiw wrth i bobol brynu eu bwyd Nadolig.

Yn ôl Tesco heddiw fydd diwrnod prysura’r flwyddyn iddyn nhw gyda 10 miliwn o gwsmeriaid yn ymweld â’u siopau ar hyd a lled gwledydd Prydain.

Bydd y cwmni yn gwerthu traean o’i holl dyrcwn heddiw – sef 200,000. A bydd 10 miliwn o ‘pigs in blankets’ yn cael eu gwerthu heddiw.

Ar ei brysuraf, bydd Tesco yn gwasanaethu 15,000 o gwsmeriaid y funud.

Rhwng ddoe a heddiw, y disgwyl yw gwerthu 40 miliwn o sbrowts.

Llai o wario yfory

Er hynny mae disgwyl i siopwyr wario llai yfory o gymharu â’r un diwrnod y llynedd, sy’n cael ei alw yn ‘Gwener Gwallgof’ oherwydd bod y siopau bwyd mor brysur.

Yn ôl cwmni cardiau credyd Sainsbury’s bydd pobol yn gwario £726 miliwn ar noswyl Nadolig yfory – swm sylweddol yn is na’r £1.4 biliwn gafodd ei wario’r llynedd.

Hefyd, yn ôl Sainsbury’s, mae’r hyn mae’r siopwr unigol yn ei wario’r wythnos hon yn llai na’r un cyfnod y llynedd – lawr o £272 yn 2015 i £191 eleni.

Gwario biliynau ar Ragfyr 26

Mae disgwyl i bobol wario £3.85 biliwn ar ‘fargeinion’ ar Ddydd San Steffan, gyda £2.95 biliwn yn mynd i goffrau siopau’r stryd fawr a £900 miliwn yn cael ei wario ar y We.

Addurno'r tŷ




Pryd mae'n dderbyniol addurno'r tŷ ar gyfer y Nadolig?

a) 25 Tachwedd ymlaen
b) 2 Rhagfyr ymlaen
c) 9 Rhagfyr ymlaen
ch) 16 Rhagfyr ymlaen

Diolch i Ifan Morgan Jones am ofyn y cwestiwn hollbwysig yma.



Sunday 19 November 2017

Cymraeg gangnam steil?







Ymwelwyr annisgwyl

Mae gyda ni stof yn y lolfa, a sawl gwaith bob blwyddyn bydd deryn y to'n llithro i lawr y simne cyn glanio, yn ddu i gyd, yn y grât. Dim ond adar y to sy'n dod i lawr y simne, er bod 'na lawer iawn o adar bach eraill yn yr ardd.

Does dim byd amdani ond agor y ffenestri a'r drysau led y pen gan obeithio y gall y deryn bach ffeindio ei ffordd allan i'r awyr iach heb adael gormod o huddygl ac anrhegion gwynion ar ei ôl.

Yn amlwg, mae gan yr adar eraill fwy o synnwyr cyffredin, ond wedi dweud hynny, fydd hyd yn oed adar y to byth yn mentro i lawr os oes tân.

Dyma stori am ymwelydd annisgwyl arall.


Sunday 12 November 2017

Hunaniaeth a Chymreictod

Hunaniaeth genedlaethol Cymru yw Cymreictod. Ar ei ffurf symlaf mae'n golygu hunaniaeth bod yn un o'r Cymry a gwladgarwch tuag at Gymru, ond yn aml mae hefyd yn gysylltiedig â'r Gymraeg a chenedlaetholdeb Cymreig.

Yn yr Arolwg Llafurlu 2001, (y Swyddfa Ystadegau Gwladol), disgrifiodd 60% o ymatebwyr yng Nghymru eu hunain fel Cymry yn unig, a 7% fel Cymry a chenedligrwydd arall.

(Wicipedia)



“Beth yw canfyddiad pobol Cymru?”

“Glaw, defed, mynyddoedd.”

“Pan mae pobol yn meddwl am Gymru, maen nhw’n meddwl am wlad ddiflas, dlawd, wlyb, dan y fawd. Gwlad wedi ei choncro……Ond mae’r gwrthwyneb yn wir, mewn gwirionedd, tydi?”

“Y Saeson sydd wedi cael eu gorchfygu [=defeat] dro ar ôl tro, a’r rheswm maen nhw’n dal dig at y Cymry ydi ein bod ni wedi llwyddo i beidio â chael ein concro – wedi mynnu cadw ein hiaith a’n diwylliant ein hunain.”

Dadeni, Ifan Morgan Jones

Nation.Cymru

Cynhaliodd y gwasanaeth newyddion a materion cyfoes Nation.Cymru arolwg o agweddau ei ddarllenwyr tuag at hunaniaeth a gwleidyddiaeth Gymreig yn ddiweddar, ac dyma'r canlyniadau (erthygl Saesneg):


  • Cadw'r iaith Gymraeg oedd y ffordd orau o sicrhau parhad hunaniaeth Gymreig, yn ôl darllenwyr Nation.Cymru
  • Daeth cryfhau sefydliadau dinesig Cymru (e.e. y Cynulliad) yn ail agos
  • Llenyddiaeth, cerddoriaeth a threftadaeth Cymru oedd yr elfennau nesaf ar y rhestr 
Dim ond lleiafrif bach oedd o'r farn y dylid sicrhau bod mwyafrif o boblogaeth Cymru yn cael eu geni a'u magu yng Nghymru.
Roedd 77% o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd.
Y cyfansoddiad 

  • Annibyniaeth i Gymru oedd blaenoriaeth y rhan fwyaf, ond daeth troslgwyddo mwy o bwerau i'r Cynulliad yn ail agos
Cymerodd bron i 1,000 o ddarllenwyr ran.
 


Cymreictod ac ethnigrwydd yn ôl y Cyfrifiad

Nododd dwy ran o dair o breswylwyr Cymru (2.0 miliwn) eu bod yn Gymry yn 2011. 

O'r rhain, nododd 218,000 ohonyn nhw eu bod yn ystyried eu hunain yn Brydeinwyr hefyd.
Nododd 424,000 eu bod yn Saeson a 519,000 eu bod yn Brydeinwyr yn unig.

Dywedodd Peter Stokes, Rheolwr Cynllunio Ystadegol y Cyfrifiad: "Rhondda Cynon Taf oedd â'r gyfran uchaf o breswylwyr a nododd fod ganddynt hunaniaeth Gymreig yn unig, 73%, gyda Merthyr Tudful yn dynn ar ei sodlau.

"Merthyr Tudful oedd â'r gyfran isaf o bobl â hunaniaeth Seisnig, 4% neu Seisnig a Phrydeinig, llai nac 1%."

Cyfrifiad 2011 oedd y cyntaf i gasglu data ar hunaniaeth genedlaethol yn y ffordd yma.

Cafodd Cyfrifiad 2001 ei feirniadu am nad oedd y ffurflenni'n cynnwys blwch y gallai pobl ei dicio i nodi eu bod yn Gymry.

Ethnigrwydd

Yn 2011, roedd 96 % (2.9 miliwn) o breswylwyr Cymru yn wyn, gostyngiad o 2% o gymharu ag amcangyfrif 2001, sef 98% (2.8 miliwn). Ar gyfer 2001 a 2011, roedd canran uwch yn y grŵp hwn nag yn unrhyw un o ranbarthau Lloegr.

Yn 2011, dywedodd 2.2% eu bod yn Asiaidd (0.6% Indiaidd, 0.4% Chineaidd, 0.4% Pacistanaidd, 0.3% Bangladeshaidd a 0.5% Asiaidd arall).

Dywedodd 0.6% eu bod yn Affricanaidd, Caribiaidd, neu ddu arall, tra bod 1% yn dweud eu bod o dras gymysg.

 (BBC Cymru Fyw)



Gŵyl Cerdd Dant Llandysul a'r Fro 2017

Dyma Cai Fôn Davies ac eraill yn perfformio cerdd gan Ceri Wyn Jones. Sylwch ar ei ynganiad clir a'i berfformiad llawn argyhoeddiad.

Friday 10 November 2017

Taflenni geirfa ar gyfer Dadeni

Diolch i Nic am roi'r taflenni geirfa ar wefan Dysgu.com. Dyma'r linc.

Cawr mawr addfwyn

Emyr Llew sy'n cofio'r diweddar John Albert Jones.

Fe wnaeth y ddau - ynghyd ag Owain Williams - osod bom mewn trosglwyddydd ar safle gwaith codi argae ar draws Cwm Tryweryn yn 1963.

Wrth siarad ar raglen Y Post Cyntaf ar Radio Cymru, dywedodd Mr Llewelyn mai Mr Jones oedd yn "cynrychioli gwerin bobl Cymru."


TAIR miliwn o siaradwyr Cymraeg!

Diolch i BBC Cymru Fyw am yr erthygl ddifyr hon.

Miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yw nod Llywodraeth Cymru, ond wyddoch chi bod yna ymgyrch debyg i roi hwb i'r iaith wedi bod dros ganrif yn ôl? A'r targed uchelgeisiol oedd sicrhau tair miliwn o siaradwyr Cymraeg mewn canrif. 

Y mudiad oedd yn flaengar yn yr ymgyrch honno yn oes Fictoria oedd... Cymdeithas y Iaith Gymraeg. Na, dydyn ni ddim wedi drysu. Er bod nifer ohonoch chi yn gwybod bod y Gymdeithas, fel yr ydyn ni yn ei nabod hi heddiw, wedi cael ei sbarduno gan ddarlith radio enwog Saunders Lewis yn 1962, roedd yna fudiad o'r un enw yn gweithredu nôl yn 1885.

Cafodd y Gymdeithas ei ffurfio yn Eisteddfod Genedlaethol Aberdâr y flwyddyn honno o dan arweiniad y Cymmrodorion, sef casgliad o gymdeithasau Cymraeg mewn trefi a dinasoedd dros y DU.

Un o brif sylfaenwyr y gymdeithas oedd is-arolygydd addysg o Lanymddyfri, Dan Isaac Davies.

Cymraeg yn gyntaf

Yn ei swydd gyntaf yn Ysgol y Comin yn Aberdâr yn 1858 roedd Dan Isaac Davies yn annog y staff i siarad Cymraeg gyda'u dosbarthiadau yn ystod oriau dysgu... rhywbeth oedd yn gwbl groes i'r drefn mewn cyfnod pan roedd y Welsh Not mewn grym.

Roedd Davies yn credu bod dwyieithrwydd yn fantais fawr ac y dylai'r Gymraeg gael statws amlycach yn y gymdeithas. Roedd yn credu yn llwyr y byddai pobl oedd â'r gallu i siarad dwy iaith yn huawdl [= yn gallu defnyddio iaith yn feistrolgar, rhugl] yn ei chael hi'n haws i ddysgu ieithoedd eraill hefyd.

Ar ôl 13 blynedd yn arolygu ysgolion yn Lloegr daeth yn ôl i ardal Merthyr Tudful. Cafodd siom ar yr ochr orau i weld bod yr iaith Gymraeg a'i diwylliant yn dal i ffynnu yn yr ardal.

Rhoddodd hyn dân newydd yn ei fol, ac aeth ati o ddifrif i ymgyrchu a cheisio perswadio'r awdurdodau addysg i gynnwys y Gymraeg fel pwnc ysgol, yn ogystal ag annog ei defnydd mewn ysgolion. Fe lwyddodd i gael y maen i'r wal ac erbyn 1907, ugain mlynedd ar ôl marwolaeth Davies, roedd yr adran addysg wedi newid y canllawiau o safbwynt yr iaith.

Mewn ardaloedd ble roedd y Gymraeg yn iaith gref roedd hi yn cael i chydnabod yn swyddogol mewn gwersi gramadeg, adrodd a hanes i ddisgyblion cynradd ac uwchradd

Popeth yn Gymraeg

Roedd Dan Isaac Davies hefyd yn weithgar gyda Chymdeithas y Cymmrodorion yng Nghaerdydd.

Roedd y gymdeithas hon â'i bryd [= amcan, bwriad,, ewyllys] ar gryfhau'r iaith yn y ddinas ac roedden nhw yn arddel yr arwyddair, 'Popeth yn Gymraeg'.
 
Daeth yr arwyddair hwnnw yn boblogaidd gyda chenedlaethau newydd o ymgyrchwyr iaith yn dilyn araith Saunders Lewis, 'Tynged yr Iaith'.

Doedd yna ddim tair miliwn o siaradwyr Cymraeg yn 1985 fel yr oedd Dan Isaac Davies wedi ei obeithio, tybed a fydd Llywodraeth Cymru yn cyrraedd y nod o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050?

Weithie 'sdim ishe geirie

Eurig ac Aneirin a'u hysbyseb ar gyfer Nationwide.

Profiadau lletchwith - Y boi ar y fainc

Heulwen Haf sy'n adrodd hanes lletchwith......

Saturday 4 November 2017

Profiadau lletchwith - Rocky y ci

https://youtu.be/AlZVhHg9Fr0

Caryl Lewis - Colli geirfa byd natur?

Diolch i BBC Cymru Fyw am yr erthygl hon.

Mae 'na bryder nad ydy plant Cymru y dyddiau yma yn dysgu'r geiriau Cymraeg am ryfeddodau [rhyfeddod - wonder] byd natur.

Ymdrech i unioni'r cam hwnnw [to put this right] sydd wedi ysgogi'r awdur poblogaidd Caryl Lewis i sgwennu Merch y Mêl, llyfr newydd i blant rhwng 4-8 oed.

"Fe ysgrifennais i'r gyfrol yn rhannol er mwyn dysgu plant am dymhorau ac enwau'r byd natur sydd o'n cwmpas a geiriau fel bysedd y cŵn, clychau'r gog, cynffonnau ŵyn bach ac ati," meddai Caryl.
"Dyw plant ddim yn cael dysgu enwau blodau a choed ac ati bellach fel erstalwm."

Merch fferm yw Caryl ac mae dylanwad byd amaeth yn ddwfn yn ei chyfrolau i oedolion - Martha, Jac a Sianco ac Y Bwthyn, dwy gyfrol ddaeth a llwyddiant iddi hi yng ngwobrau Llyfr y Flwyddyn.
Mae ei chefndir ar y buarth yn bwysig yn Merch y Mêl hefyd: "Cefais fy ysbrydoli hefyd gan fy mhrofiad o gadw gwenyn ar ein fferm yng Ngoginan ger Aberystwyth.

"Bellach mae fy merch, Gwenno, yn dysgu am gadw gwenyn hefyd yn union fel Elsi yn y stori."
Mae'r gyfrol yn llawn o ddarluniau trawiadol gan Valériane Leblond, sydd hefyd yn meddwl ei bod hi'n "bwysig iawn bod yn ymwybodol o'r byd sydd o'n cwmpas, a dyle plant ac oedolion wybod a deall mwy am natur a'i berthynas gyda phopeth".

Gwyneth Glyn: Ferch y Brwyn

Ferch y Brwyn

Daeth syniad i'r gân hon pan roedd Gwyneth Glyn ar wyliau ym Mheriw un flwyddyn. Ymwelodd hi ag ardal Titicaca ble roedd y bobl oedd yn byw yno yn gwneud eu bywoliaeth drwy ddefnyddio a gwerthu brwyn. Roedd Gwyneth Glyn yn dymuno prynu rhywbeth ond nid oedd y ferch oedd yn gwerthu'r nwyddau yn siarad Cymraeg na Saesneg felly er mwyn gallu dweud wrth Gwyneth Glyn beth oedd y pris wnaeth hi grafu y pris ar ei llaw gyda brwyn.

Geirfa 

brwyn - reeds, rushes
cras - sych, garw, caled
cawod law
swyn - spell, enchantment
blêr
hesg - sedge
plethu - plait
brau - brittle
morol - marine
ffrwyn - bridle, restraint
ffawd - tynged
nyddu - twist, spin, entwine
côl - lap
dirifedi - numberless
adewi (gadael - dyfodol cryno - ti)

Wednesday 1 November 2017

Gareth yn hela ysbrydion...

Ymchwiliad i'r uwchnaturiol ar Noson Calan Gaeaf gyda'r epa Gareth a'r arbenigwr ysbrydion Deborah.

Ysbrydion.....

Dyma stori ysbryd gan Towyn Jones....

Geiriau gwlyb

Diolch i BBC Cymru Fyw am yr erthygl ddifyr yma.

Cymru... gwlad y glaw. Ta beth yw'r realiti, mae'n ystrydeb cyfarwydd. Ac os oes unrhyw wirionedd yn y farn boblogaidd mai Cymru yw gwlad gwlypaf y DU, mae'n rhaid bod ein hiaith ni'n adlewyrchu hynny?

Felly, sawl gair sydd yna ar gyfer y glaw neu i ddisgrifio'r glaw yn Gymraeg? Rhowch eich ymbarél i fyny, eich cot law amdanoch a mentrwch allan i'r gwlybanwch.

Idiomau

  • Bwrw hen wragedd a ffyn
  • Bwrw cyllyll a ffyrc
Dyma rai o ffyrdd mwyaf lliwgar ac unigryw'r Cymry o ddisgrifio'r glaw. Mae delwedd y ffyn a'r cyllyll yn cyfeirio at y glaw yn cwympo mewn llinellau syth, hir. Mae'r hen idiomau Saesneg 'raining chair legs' a 'raining stair rods' yn gwneud yr un peth, ac mae'r Almaenwyr a'r Ffrancod yn defnyddio'r un math o ddelwedd wrth ddisgrifio'r glaw fel rhaff neu linyn.

Hen ddywediad Cymraeg arall yw 'bwrw fel o grwc' sy'n cyfateb i'r term Saesneg 'bucketing down'. Wrth gwrs, mae 'na ffordd arall, tipyn mwy di-chwaeth, o ddisgrifio gollwng dŵr sy'n gyfarwydd iawn yn y Gymraeg llafar. Gwartheg sy'n cael eu defnyddio i ddarlunio toreth [abundance] y llif mewn ymadrodd Ffrangeg tebyg: "Il pleut comme vaches qui pissent."

Mae nifer o eiriau tafodieithol arall am law sy'n amrywio o ardal i ardal (pan mae'n stido yn y gogledd, mae'n ei thowlud hi lawr yn y de-orllewin). Daw rhai geiriau o fyd amaeth (e.e. glaw tyfu, glaw Mai) ac mae mathau eraill o law wedi eu henwi ar ôl lleoedd penodol (glaw 'Stiniog a glaw tinwyn [white bottomed] Abertawe).

Tybed faint o'r rhein y'ch chi'n eu defnyddio?

Math o law

  • Cawod
  • Curlaw (pelting rain)
  • Glaw gyrru
  • Glaw iâ
  • Glaw mân
  • Glawn smwc (gog-ddwyrain: glaw mân)
  • Glaw taranau
  • Glaw trwm
  • Gwlithlaw (glaw mân)

Graddfeydd o law

Gwisgwch got law ysgafn neu cymrwch y goes...
  • Dafnu (drop, trickle)
  • Pigo
  • Smwcan (glaw mân)
 Angen welis neu cysgodwch tan iddo fynd heibio...
  • Arllwys y glaw
  • Chwipio bwrw
  • Dymchwel ('chucking it down')
  • Piso
  • Pistyllio
  • Sgrympian (cawod sydyn a thrwm)
  • Stido
  • Tollti
  • Towlud/Taflu
  • Tresio

Disgrifio'r glaw

  • Glaw gochel - glaw i guddio rhagddo
  • Glaw Mai - glaw cyntaf mis Mai - yn cael ei groesawu gan ffermwyr gan ei fod yn lladd y llau [lice] ar y da
  • Glaw golau - glaw pan mae'r awyr yn edrych yn olau tuag at y dwyrain
  • Glaw mynydd - glaw'n syrthio ar y tir uchel pan mae'n sych ar yr iseldir
  • Glaw 'Stiniog - math o law unigryw sy'n gyfarwydd iawn i unrhywun o Flaenau Ffestiniog
  • Glaw tinwyn Abertawe - glaw oer, trwm o gyfeiriad y de-ddwyrain sy'n parhau trwy'r diwrnod
  • Glaw tyfu - glaw mis Ebrill sy'n hybu tyfiant