Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Sunday 8 October 2017

Trip i Gastell Henllys




Rwy wedi trefnu taith i Gastell Henllys ar gyfer fy nosbarth Sgwrsio. Cwrdd wrth Gastell Henllys am 10 ar y 19eg o Hydref, a Delun Gibby fydd yn tywys y grŵp o gwmpas a safle.

Pris tocyn yw £4.50. Does dim bws, ac felly bydd rhaid i bawb drefnu cludiant eu hunain.

Mae lle i ragor o bobl (byddai grŵp o 25 yn iawn), felly croeso i ddysgwyr eraill ar lefel Canolradd/Uwch. Cysylltwch â fi: riv1@aber.ac.uk

No comments:

Post a Comment