Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Sunday 8 October 2017

Tafarn Sinc

Memorandwm o fwriad diwylliannol

Er mai prif amcan Tafarn Sinc fydd darparu cwrw o ansawdd a phrydiau blasus fe fydd hefyd yn gynheilydd treftadaeth ddiwylliannol. Mae yno eisoes ymdeimlad cryf o awyrgylch ddiwylliannol/hanesyddol. Gellir ei deimlo’r funud yr ewch trwy’r drws. Mae yna ymdeimlad cryf o berthyn. Mae’r posteri a’r lluniau a’r offer amaethyddol yn diffinio’r lle fel tafarn wledig. Mae wedi’i wreiddio yn ei gynefin.

O’r herwydd mae’n fwy na dim ond tafarn.

Bwriad creiddiol Cymdeithas Tafarn Sinc i’w diogelu a hyrwyddo’r elfen ddiwylliannol fel rhan o brofiad yr ymwelydd a’r bwytäwr. Bydd yn brofiad na cheir ei debyg unman yn y fro.

Bwriedir cyflwyno lluniau o arwyr y fro megis Brian Williams (chwaraewr rygbi rhyngwladol a oedd yn enwog am ei ergyd slecht), Dil Hafod-ddu (storïwr ac arweinydd Noson Lawen), Waldo Williams (bardd a heddychwr, awdur ‘Dail Pren’), Tomi Evans (enillydd cadair genedlaethol am ei awdl i’r ‘Twrch Trwyth), E. Llwyd Williams (bardd ac awdur dwy gyfrol glasurol am hanes Sir Benfro, ‘Crwydro Sir Benfro), Twm Carnabwth (arweinydd lleol Terfysg y Beca), Dai Evans (chwaraewr rygbi rhyngwladol dosbarth gweithiol cyntaf), Wil Glynsaithmaen (bardd a sefydlydd Bois y Frenni), Athro David Williams (hanesydd ac awdur ‘The Rebecca Riots’).

Does yna ddim prinder arwyr.

Yn ôl Llwyd Williams : “Mae’r hen chwedlau ar sodlau’i gilydd ar lethrau Presely a’r oesoedd wedi’u plethu’n un cawdel o reffyn. A dyna’n hetifeddiaeth ni yn y profiad o fyw o dan gysgod y bryniau hen.”

Y dreftadaeth hon y bwriada Cymdeithas Tafarn Sinc ei drosglwyddo i’r cenedlaethau a ddaw. Mae’n ddigon posib y bydd ysgolion lleol am drefnu ymweliadau fel rhan o brofiad addysgol y disgyblion.

Bydd croeso yn cael ei gynnig i ddysgwyr Cymraeg mewn awyrgylch fydd yn rhoi iddyn nhw’r hyder i ddefnyddio eu sgiliau. Fe’u hanogir i fod yn rhugl.


cynheilydd - cefnogwr
slecht - llanast (gair o Sir Benfro - yma 'smashing')
cawdel - medley
rheffyn - rope

Grŵp cymunedol yn cytuno i brynu Tafarn Sinc 
BBC Cymru Fyw 2 Hydref 2017

Mae grŵp cymunedol yng ngogledd Sir Benfro wedi cytuno mewn egwyddor i brynu tafarn leol hanesyddol oedd yn wynebu gorfod cau.

Dywedodd Cadeirydd Cymdeithas Tafarn Sinc, Hefin Wyn, bod y grŵp wedi dod i gytundeb gyda'r perchnogion presennol i brynu'r busnes.

Yn wreiddiol cafodd y dafarn a bwyty ei rhoi ar y farchnad am £295,000, ond ni lwyddodd y perchnogion i ddod o hyd i brynwr.

Cafodd Cymdeithas Tafarn Sinc ei ffurfio a llwyddodd y grŵp i hel dros £200,000, gan eu galluogi i gytuno ar bris am y dafarn gyda'r perchnogion, er nad yw'r pris terfynol wedi cael ei ddatgelu.

'Cyfanswm o £234,000'

Cafodd y grŵp ei sefydlu ddiwedd Gorffennaf yn dilyn cyfarfod cyhoeddus ym Maenclochog, ac fe gafodd gefnogaeth yr actor Rhys Ifans.

Dywedodd Hefin Wyn: "Y bwriad oedd codi £200,000 erbyn Medi 30 a doedd hi ddim syndod fod swm dipyn yn uwch wedi'i godi.

"Mewn gwirionedd codwyd cyfanswm o £234,000."

Yn ôl cydlynydd y prosiect, y cynghorydd Cris Tomos, roedd hyn wedi'u galluogi i roi cynnig am yr eiddo.

"Rydym yn falch o ddweud fod yna drafodaethau ar y gweill ac rydym yn disgwyl i'r cyfreithwyr gwblhau'r pryniant yn enw Cymdeithas Tafarn Sinc cyn diwedd y mis am swm na chaiff ei ddatgelu," meddai.

Roedd yr ymgyrch i godi arian yn cynnwys gwerthu cyfranddaliadau ac ychwanegodd fod yr ymgyrch yn parhau er mwyn sicrhau dyfodol y fenter.

Dywedodd y perchnogion dros y chwarter canrif ddiwethaf, Brian a Hafwen Davies, eu bod wrth eu bodd o weld y gymuned yn prynu eu heiddo.

Cafodd y dafarn wreiddiol ei hadeiladu yn 1876, pan gafodd y rheilffordd o Glunderwen i Rosebush ei hagor. Ei henw gwreiddiol oedd The Precelly Hotel.



No comments:

Post a Comment