Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Friday 6 October 2017

O ble daeth y dywediad?

Diolch i BBC Cymru Fyw am y darn hwn.

Mae ymadroddion a dywediadau yn gwneud ein hiaith ni'n fwy lliwgar ond dydi hi ddim yn glir bob amser beth yw eu hystyr nac o ble maen nhw wedi dod.

Bu Twm Morys yn bwrw goleuni ar rai ymadroddion Cymraeg ar Raglen Aled Hughes, Radio Cymru ar 4 Hydref 2017 gan geisio esbonio tarddiad annisgwyl ambell un.

Dod i'r fei

"Mae'n debyg mai o'r Saesneg 'vie' mae o wedi dod - 'to vie for' ydy cystadlu efo rywun ac efallai fod yr ystyr i gychwyn yn dod o pan oedd rhyw gardyn pwysig yn dod i'r golwg wrth chwarae cardiau ers talwm - 'wedi dod i'r fei'.

"Mi fuasai rhywun yn disgwyl iddo fo darddu o 'view' - ond maen nhw'n dweud mai o 'vie' y mae'n dod."

Dod at eich coed

"Y coed mewn hen gemau bwrdd, fel gwyddbwyll, ydy'r hyn sydd gan rywun wrth gefn, felly dod yn ôl at eich coed ydy dychwelyd i le diogel, fel pasio'r bêl yn ôl mewn gêm bêl-droed er mwyn diogelu'r bêl. Dod yn ôl at eich coed ydy mynd yn ôl i le diogel - callio."

O'i ben a'i bastwn ei hun

"Rhywun yn gwneud rhywbeth drosto ei hun heb orfod dibynnu ar neb arall, yn anibynnol, ydy'r ystyr. Rydan chi'n cynllunio rhywbeth yn ein pen. Wedyn mae codi pastwn yn ddarlun reit drawiadol o rywun yn penderfynu gwneud rhywbeth, rhywun yn gweithredu. Felly mae rhywun yn gwneud rhywbeth o'i ben a'i bastwn ei hun yn rhywun sy'n penderfynu mynd ati i wneud rhywbeth."

Rhoi'r ffidil yn y to

"Ymadrodd sy'n golygu bod rhywun yn rhoi'r gorau iddi, rhywbeth mae o'n reit dda am ei wneud efallai ac am ryw reswm yn penderyfnu rhoi'r gorau i'w wneud o.

"Yn nhafarn y Plu yn Llanystumdwy mae 'na nifer o bethau'n hongian oddi ar y distiau [=beams], fel mewn nifer o dafarnau eraill - hen bedyll [=lluosog padell] a geriach [=tackle] ceffylau gwedd [cart horses] yn sgleinio a phethau felly.

"Cyn bod y ffasiwn beth ag atic mewn tŷ mi roedd distiau tŷ yn bethau handi i roi pethau i'w cadw a dyna ydy'r ymadrodd yma - rhoi'r ffidil o'r ffordd, i'w gadw ar un o'r distiau yn y to. Mae hynny wedi mynd yn ymadrodd i gyfleu bod rhywun yn rhoi'r gorau i wneud rhywbeth."

Roedd yna eglurhad pellach gan un o wrandawyr Radio Cymru, Kate Wheeler: "Mi glywais ryw dro mai teclyn i hau hadau oedd ffidil. Wedi gorffen hau, cedwid y 'ffidil' yn nho'r sgubor."

Bwrw hen wragedd a ffyn

"Tresio [=pour] bwrw ydy'r ystyr ac mae'r Saeson yn dweud 'raining cats and dogs' am yr un peth. Mae'n debyg ei bod hi o bryd i'w gilydd yn bwrw llyffantod a physgod hefyd ac fe ges i hyd i adroddiad o 1918 o Hendon yng ngogledd Lloegr ac mae'n debyg fod na gawod fawr o lymrïaid - sef llysywod [=eels] sy'n byw yn y tywod ar lan y môr - wedi disgyn o'r awyr.

"Yr egurhad ydy fod na ryw dywydd eithafol, gwynt mawr, wedi codi creaduriaid felly, llyffantod a physgod, i'r awyr a'u gollwng yn rhywle arall. Mae'n wir hefyd fod corwynt yn codi pobl weithiau, fel Dorothy yn The Wizard of Oz, ond go brin y bysa hi wedi bwrw hen wragedd yn llythrennol a dwi'n meddwl mai ymadrodd gwirion ydy o i ddisgrifio glaw gwirioneddol eithriadol.

"Mae 'na eglurhad arall posib. Mae yna ymadrodd arall o ogledd Lloegr, 'it's raining stair rods' - ffyn hir syth i gadw'r carped yn ei le ar y grisiau. Mi rydach chi yn gweld glaw felly weithiau ar slant fel ffyn ac os ydach chi'n meddwl am hen wragedd yn disgyn o'r nefoedd ac yn dal eu ffyn yn syth o'u blaenau - wel yr un math o ddarlun ydi o. Efallai bod yr hen wragedd yma yn taro eu ffyn ar lawr ac yn gwneud sŵn fatha glaw hefyd?

"Y gwir ydy fod iaith yn hoff iawn o chwarae efo geiriau, yn enwedig y Gymraeg, a chreu darluniau. Dyna beth ydi tarddiad llawer iawn o ymadroddion - rhyw olygfa mae rhywun wedi ei ddychmygu a hwnnw'n gafael ac yn aros."
Beth am ddywediadau fel 'lladd nadroedd', 'siarad drwy eich het' a 'llyncu mul', o ble maen nhw'n dod? Oes gennych chi fwy o enghreifftiau?

No comments:

Post a Comment