Yn yr Arolwg Llafurlu 2001, (y Swyddfa Ystadegau Gwladol), disgrifiodd 60% o ymatebwyr yng Nghymru eu hunain fel Cymry yn unig, a 7% fel Cymry a chenedligrwydd arall.
(Wicipedia)
“Beth yw
canfyddiad pobol Cymru?”
“Glaw, defed,
mynyddoedd.”
“Pan mae
pobol yn meddwl am Gymru, maen nhw’n meddwl am wlad ddiflas, dlawd, wlyb, dan y
fawd. Gwlad wedi ei choncro……Ond mae’r gwrthwyneb yn wir, mewn gwirionedd,
tydi?”
“Y Saeson
sydd wedi cael eu gorchfygu [=defeat] dro ar ôl tro, a’r rheswm maen nhw’n dal
dig at y Cymry ydi ein bod ni wedi llwyddo i beidio â chael ein concro – wedi mynnu
cadw ein hiaith a’n diwylliant ein hunain.”
Dadeni, Ifan Morgan Jones
Nation.Cymru
Cynhaliodd y gwasanaeth newyddion a materion cyfoes Nation.Cymru arolwg o agweddau ei ddarllenwyr tuag at hunaniaeth a gwleidyddiaeth Gymreig yn ddiweddar, ac dyma'r canlyniadau (erthygl Saesneg):
Nation.Cymru
Cynhaliodd y gwasanaeth newyddion a materion cyfoes Nation.Cymru arolwg o agweddau ei ddarllenwyr tuag at hunaniaeth a gwleidyddiaeth Gymreig yn ddiweddar, ac dyma'r canlyniadau (erthygl Saesneg):
- Cadw'r iaith Gymraeg oedd y ffordd orau o sicrhau parhad hunaniaeth Gymreig, yn ôl darllenwyr Nation.Cymru
- Daeth cryfhau sefydliadau dinesig Cymru (e.e. y Cynulliad) yn ail agos
- Llenyddiaeth, cerddoriaeth a threftadaeth Cymru oedd yr elfennau nesaf ar y rhestr
Dim ond lleiafrif bach oedd o'r farn y dylid sicrhau bod mwyafrif o boblogaeth Cymru yn cael eu geni a'u magu yng Nghymru.
Roedd 77% o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd.
Y cyfansoddiad
- Annibyniaeth i Gymru oedd blaenoriaeth y rhan fwyaf, ond daeth troslgwyddo mwy o bwerau i'r Cynulliad yn ail agos
Cymreictod ac ethnigrwydd yn ôl y Cyfrifiad
Nododd dwy ran o dair o breswylwyr Cymru (2.0 miliwn) eu bod yn Gymry yn 2011.
Nododd 424,000 eu bod yn Saeson a 519,000 eu bod yn Brydeinwyr yn unig.
Dywedodd Peter Stokes, Rheolwr Cynllunio Ystadegol y Cyfrifiad: "Rhondda Cynon Taf oedd â'r gyfran uchaf o breswylwyr a nododd fod ganddynt hunaniaeth Gymreig yn unig, 73%, gyda Merthyr Tudful yn dynn ar ei sodlau.
"Merthyr Tudful oedd â'r gyfran isaf o bobl â hunaniaeth Seisnig, 4% neu Seisnig a Phrydeinig, llai nac 1%."
Cyfrifiad 2011 oedd y cyntaf i gasglu data ar hunaniaeth genedlaethol yn y ffordd yma.
Cafodd Cyfrifiad 2001 ei feirniadu am nad oedd y ffurflenni'n cynnwys blwch y gallai pobl ei dicio i nodi eu bod yn Gymry.
Ethnigrwydd
Yn 2011, roedd 96 % (2.9 miliwn) o breswylwyr Cymru yn wyn, gostyngiad o 2% o gymharu ag amcangyfrif 2001, sef 98% (2.8 miliwn). Ar gyfer 2001 a 2011, roedd canran uwch yn y grŵp hwn nag yn unrhyw un o ranbarthau Lloegr.Yn 2011, dywedodd 2.2% eu bod yn Asiaidd (0.6% Indiaidd, 0.4% Chineaidd, 0.4% Pacistanaidd, 0.3% Bangladeshaidd a 0.5% Asiaidd arall).
Dywedodd 0.6% eu bod yn Affricanaidd, Caribiaidd, neu ddu arall, tra bod 1% yn dweud eu bod o dras gymysg.
(BBC Cymru Fyw)
No comments:
Post a Comment