(Addasiad o erthygl Golwg360)
Mae un o’r arbenigwyr pennaf ar yr iaith
Gymraeg wedi dweud bod rhaid i arweinwyr gwleidyddol wneud mwy i uno’r genedl.
Mae’r Athro Harold Carter eisiau gweld
gwleidyddion yn arwain y ffordd i gael gwared ar y rhaniadau yn syniadau’r
Cymru am eu cenedl a’u diwylliant.
Mae hefyd eisiau gweld Caerdydd yn cymryd ei
chyfrifoldeb yn brifddinas ar gyfer y wlad i gyd.
“Mae angen i Gaerdydd ddarbwyllo’r Cymry ei
bod yn ganolfan sy’n cynrychioli Cymru gyfan yn hytrach na cheisio bod yn
brifddinas ryngwladol”
Tri
chyflwr i Gymro
Yn y llyfr, mae’r cyn ddarlithydd ym
Mhrifysgol Aberystwyth yn dweud fod yna dair prif farn ynglŷn â beth sy’n
gwneud Cymro:
• Y gallu i siarad yr iaith Gymraeg, a bod
pawb sydd heb y gallu yn Gymro eilradd
• Y di-Gymraeg sy’n gwrthod derbyn mai’r iaith
yw’r prif beth sy’n gwneud Cymro – maen nhw’n creu eu hunaniaeth o amgylch
sefydliadau fel y Cynulliad Cenedlaethol
• Unrhyw un un sydd wedi ei eni yng Nghymru ac
sy’n eu hystyried eu hunain yn Gymry am nad oes ganddyn nhw unrhyw gysylltiadau
eraill.
‘Amrywiaeth
mawr’
“Mae yna amrywiaeth mawr yn yr hunaniaeth
Gymreig,” meddai Harold Carter. “Mae gwaith Edward I a’r Ddeddf Uno yn dal i
fod yn llwyddiannus am ei fod o wedi disodli undod Cymru gyda gwrthdaro a
chasineb.
“Dyw’r genedl ddim yn gwbl ranedig erbyn hyn,
ond mae yna raniadau tros elfennau megis yr iaith Gymraeg. Er hynny rwy’n
teimlo bod y rhaniadau yn cael eu gorliwio yn fawr,” meddai’r Athro Harold
Carter.
“Does dim amheuaeth bod yr iaith Gymraeg yn
bwysig iawn i ddiwylliant Cymru ac fe fyddai yna fwlch mawr hebddi. Mae wedi
bod yn edau [=thread] allweddol dros y blynyddoedd.”
‘Angen
arweiniad’
Mae’r Athro’n credu bod rhaid i’r Cynulliad
ddangos arweiniad i uno’r genedl Gymreig.
“Mae angen perswadio’r gwahanol ochrau –
gyda’u hamrywiaeth barn am yr hunaniaeth Gymreig – i beidio â gwrthwynebu ei
gilydd,” meddai.
Mae’r cyn Athro Daearyddiaeth yn credu y bydd
modd uno’r uno’r genedl yn y dyfodol: “Mae’r holl dueddiadau’n awgrymu y gallai’r
Cymry gymodi ac uno fel cenedl”
Hanes
Cymru
Mae’r llyfr yn amlinellu hanes Cymru ers y
Rhufeiniaid gan ddweud bod arfer Cymry’r Canol Oesoedd o rannu tir ymysg yr
holl feibion yn gyfrifol am y diffyg undod yn y wlad.
Roedd diffyg tir amaethyddol Cymru hefyd wedi
arwain at dlodi ac, yn sgil hynny, at boblogaeth wasgaredig.
Dim ond ar ôl dechrau’r Chwyldro Diwydiannol y
tyfodd poblogaeth Cymru ac y cafodd sefydliadau cenedlaethol eu creu. Ar y
dechrau oddi mewn i Gymru y daeth y mewnfudwyr i’r ardaloedd diwydiannol.
Yn y llyfr, sy’n cael ei gyhoeddi gan y
Sefydliad Materion Cymreig, mae Harold Carter yn dweud bod mewnfudo i Gymru
wedi gwanhau’r iaith, ond bod mudo gan Gymry Cymraeg ifanc i ddinasoedd fel
Caerdydd wedi cryfhau’r iaith mewn ardaloedd ble’r oedd hi’n wan.
Against the Odds. The Survival of Welsh
Identity , IWA, 150pp £9.99. (Llun:IWA)
No comments:
Post a Comment