Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Sunday 6 August 2017

Swyddog Maes y Gogledd - Cymdeithas yr Iaith

Mewn cyfnod gwleidyddol cyffrous, dyma eich cyfle chi i wneud gwahaniaeth go iawn drwy weithio i Gymdeithas yr Iaith Gymraeg. Cewch roi eich brwdfrydedd a’ch sgiliau trefnu ar waith i alluogi ymgyrchoedd a fydd yn cryfhau’r Gymraeg a chymunedau yng ngogledd Cymru.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio gyda’r nod o dynnu aelodau i mewn i’n hymgyrchoedd ac yn cynorthwyo swyddogion eraill i gyflawni’r nod hwn. Bydd yn gyfrifol am hybu ymgyrchoedd lleol y Gymdeithas, lledaenu ein neges a chynyddu aelodaeth ar hyd y rhanbarth, gan annog aelodau i sefydlu a chynorthwyo celloedd lleol (sef canghennau lleol y mudiad) a grwpiau ymgyrch, gan gynnwys ysgolion a phrifysgolion.

Byddwch yn gweithio am gyfnod o ddwy flynedd o dan arweiniad Cadeirydd y Rhanbarth a’r Swyddog Cyfathrebu a Chyswllt y Cynulliad Cenedlaethol, gyda golwg ar ymestyn y cytundeb maes o law yn ddibynnol ar y sefyllfa ariannol. Bydd cyfnod prawf o chwe mis.


 Y cyflog llawn amser fydd £20,500 y flwyddyn gyda chyfraniad ychwanegol gwerth 5% o’r cyflog ar gyfer cynllun pensiwn. Cynhelir adolygiad o gyflogau swyddogion cyflogedig ar hyn o bryd gyda golwg ar sicrhau eu bod yn parhau i fod yn gystadleuol ac yn cynnig rhagor o gyfleoedd datblygu.
Croesawn geisiadau i weithio’n rhan amser neu’n llawn amser (37.5 awr yr wythnos). Croesawn geisiadau i weithio oriau hyblyg neu i rannu swydd yn ogystal. Disgwylir y bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio gyda’r nos ac ar benwythnosau ar gyfer rhai cyfarfodydd a digwyddiadau.
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn gwerthfawrogi amrywiaeth ac rydym yn ymrwymedig at gydraddoldeb fel mudiad a chyflogwr. Rydym yn awyddus i ddenu ymgeiswyr o wahanol gefndiroedd a chaiff pob cais ei asesu’n deg.

Lleolir y swydd yn swyddfa’r Gymdeithas yng Nghaernarfon, ond ystyrir ceisiadau i weithio o gartref neu o leoliadau eraill yn y Gogledd.

Er mwyn gwneud cais, anfonwch lythyr a CV cyfredol, gan ddangos sut rydych yn cwrdd â gofynion a chyfrifoldebau’r swydd, at: post@cymdeithas.cymru; neu Swyddfa Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Ystafell 5, Y Cambria, Rhodfa’r Môr, Aberystwyth, SY23 2AZ

Dyddiad cau: 6pm, Dydd Llun, 14eg Awst 2017

Cynhelir cyfweliadau yn ein swyddfa yng Nghaernarfon ar 24ain Awst

Am ragor o wybodaeth, gweler isod.
Rhif ffôn am fwy o wybodaeth
01970 624501
Gwefan am fwy o wybodaeth
cymdeithas.cymru/swydd
Dyddiad cau i ymgeiswyr
14 Awst 2017
Cofiwch sôn am adran swyddi Golwg360 wrth ymateb i’r hysbyseb hwn.

No comments:

Post a Comment