Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Monday 26 June 2017

Radio Cymru 2

Mae'r BBC yn bwriadu sefydlu ail orsaf radio genedlaethol yn Gymraeg. 

Fe fydd Radio Cymru 2 yn darlledu o 7:00 tan 10:00 bob bore'r wythnos ar radio digidol, teledu digidol a BBC iPlayer Radio. 

Cymysgedd o gerddoriaeth ac adloniant fydd ar y gwasanaeth newydd, tra bydd Radio Cymru yn parhau i ddarlledu'r Post Cyntaf. 

Dywedodd golygydd Radio Cymru, Betsan Powys, ei bod yn ddatblygiad "hanesyddol".

'Cynnig dewis'

Daw'r cyhoeddiad ar ôl i'r BBC arbrofi gyda gorsaf dros dro, Radio Cymru Mwy y llynedd . 

Dywedodd Betsan Powys: "Does dim dwywaith fod hwn yn un o'r datblygiadau mwyaf hanesyddol a phwysig yn natblygiad yr orsaf ers ei sefydlu yn 1977. 

"Mae gwrandawyr Radio Cymru gyda'r gwrandawyr radio mwya' ffyddlon yng Nghymru ac mae gallu cynnig dewis iddyn nhw ac i wrandawyr newydd yn hynod gyffrous."
Mae tîm golygyddol Radio Cymru yn bwriadu lansio'r gwasanaeth newydd cyn diwedd y flwyddyn. 

Wrth ymateb i'r newyddion dywedodd Carl Morris, llefarydd darlledu Cymdeithas yr Iaith: "Ry'n ni'n croesawu'r newyddion yma - mae'n ddatblygiad addawol iawn gan fod dybryd angen rhagor o gynnwys digidol amrywiol yn y Gymraeg. 

"Gall un orsaf ddim bod yn bopeth i bawb, felly gobeithio bydd y gwasanaeth newydd yma yn golygu y bydd rhagor o amrywiaeth."

Radio Wales yn ehangu

Mewn cyhoeddiad arall, fe ddywedodd y BBC y bydd gorsaf Radio Wales yn ehangu ar FM i gyrraedd 330,000 o bobl ychwanegol. 

O ganlyniad bydd yr orsaf yn cyrraedd hyd at 91% o'r boblogaeth ar FM, o'i gymharu â 79% ar hyn o bryd. 

Gwrandawyr yn y gogledd ddwyrain a'r canolbarth yn benodol fydd yn elwa ar y cynnydd yn argaeledd Radio Wales ar FM. 

Bydd yr orsaf yn defnyddio tonfeddi FM sydd yn darlledu BBC Radio 3.

No comments:

Post a Comment