Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Sunday 18 June 2017

Blasu: Adolygiad Gwales

Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.

Yn ail nofel Manon Steffan Ros i oedolion cawn lu o gymeriadau difyr, stori afaelgar, lleoliad hudolus Bro Dysynni a sensitifrwydd sgwennu’r awdures ifanc, ddawnus hon. A phetai hynny ddim yn ddigon, cyfres o rysetiau diddorol a'r cyfan am £8.95 – bargen!

Ar ei phen blwydd yn bedwar ugain oed, mae Jonathan, mab ieuengaf Pegi, yn rhoi llyfr arbennig i'w fam ac yn gofyn iddi hi gofnodi ei hatgofion ynddo. Ond nid atgofion gaiff eu hysgrifennu yn y llyfr ond cyfres o rysetiau gwahanol fwydydd a phrydau a fu'n bwysig iawn i Pegi, ynghyd ag enwau’r rhai fu’n gysylltiedig â hwy. Y bobl hynny gaiff eu henwi sy’n adrodd stori Pegi fesul pennod, a phob un hanes wedi'i saernïo'n grefftus. Bron nad ydi pob pennod yn stori fer, er bod llinyn storïol gref yn plethu drwy'r cyfan yn hynod o rwydd a chelfydd.

Mae hanes plentyndod cynnar Pegi yn ingol o drist, yn arbennig hanes ei pherthynas â'i mam, ac mae'r disgrifiadau o broblemau seicolegol a salwch meddwl ei mam yn ein cyffwrdd i'r byw. Caiff Pegi flynyddoedd dedwydd ar aelwyd ei nain a’i thaid, cyn priodi Frances, grosar lleol, magu dau o blant a threulio blynyddoedd yng nghanol bwrlwm synau ac arogleuon amrywiol y siop.

Cronicl moel o fywyd llawn Pegi yw'r uchod ond mae yna bris i’w dalu am y dedwyddwch ymddangosiadol, ac mae hwnnw yn gysgod cyson ar ei bywyd. Mae’r cysgod ar ei fwyaf amlwg yn ei pherthynas â bwyd. Mae hi’n byw yn ei ganol, wrth gwrs, ac yn cael blas ar fwydo’i theulu, cyfeillion agos a chwsmeriaid ei chaffi yn Nhywyn am un tymor. Ond mae perthynas Pegi â bwyd yn llawer mwy cymhleth na hynny a gwelwn yn fuan fod y 'pleser' ymddangosiadol a gaiff hi wrth fwyta yn ymylu ar salwch meddwl neu fwlimia ar adegau anodd. Ceisia Pegi ddigoni'i hun yn gorfforol ac yn emosiynol, ond methu a wna'n aml.

Yn gefndir i’r nofel hon mae cariad amlwg yr awdures at fro ei chyndeidiau, ac mae ei disgrifiadau o’r ardal yn codi awydd go iawn ar y darllenydd i fynd yno i weld drosto’i hun. Bron nad ydy rhywun yn disgwyl cyrraedd Llanegryn a throi i mewn i gaffi Jonathan am espresso a darn o gacen sinsir neu affogato. Bron na ellid dweud mai molawd o gariad awdur, nid yn unig at ardal sydd yma, ond at ffordd o fyw. Mae pobl yn adnabod ei gilydd ac yn cefnogi’i gilydd yn y fro hon. Un ffordd o ddangos y gefnogaeth ydy coginio a rhannu bwyd, ac edrychir ymlaen yn Blasu at ddyfodiad caffi Jonathan ond mae yna hiraeth hefyd am hen ffordd o fyw yr ardal hyfryd hon.

Rysáit bara ydy’r olaf yn y nofel ac fe gymer oes gyfan i Pegi feistroli’r grefft o wneud torth dda. Ond mae hi’n llwyddo yn y diwedd, a'r gamp fach honno'n adlewyrchu ei llwyddiant hi i fod yn hi’i hun, ar waethaf y tebygrwydd i’w mam, a'r arwyddion o salwch meddwl a fu'n gysgod dros y ddwy ohonynt.


Roedd y profiad o ddarllen Blasu yn un chwerw-felys. Mae i'r gyfrol ei themâu tywyll ac ysgytwol yn ogystal â llawenydd a phrofiadau melys. Mae arddull gryno ac iaith liwgar a chyfoethog yr awdur wedi sicrhau fod hon yn stori fydd yn aros yn hir yng nghof y darllenydd. Cefais flas anghyffredin ar ddarllen hon – mwyhewch!

Janet Roberts

No comments:

Post a Comment