Diolch i Golwg360 am yr adolygiad hwn.
“Roedd y blas yn dal yn fyw ar fy nhafod a daeth atgofion eraill yn ôl ata i’n sydyn, pob un yn gysylltiedig â blas (…)”
Un peth am lenyddiaeth na fydd unrhyw ffilm 3D yn gallu
rhagori arno byth yw y modd y gall drawsgludo pob math o ymdeimladau
trwy ddefnydd dim ond geiriau. Nid yn unig delweddau ac emosiynau, ond
hefyd synau, aroglau … a blasau, fel mae nofel ddiweddaraf Manon Steffan
Ros yn profi.
Blas yr atgofion
Bwyd a’i harchwaeth sy’n chwarae rôl hanfodol ym mywyd prif gymeriad Blasu,
Pegi Glanrafon. Rydym yn dod i’w nabod wrth iddi ddathlu ei phedwar
ugeinfed pen-blwydd gyda’i theulu cariadus a chylch o ffrindiau. Ond er
gwaethaf yr holl gariad a pharch sy’n ei hamgylchu, ni all Pegi anghofio
am y gorffennol a digwyddiadau dramatig ei hieuenctid …
Er bod dechreuad y nofel yn awgrymu mai Pegi ei hun a fydd yn
siarad am hanes ei bywyd, mae’r awdures yn defnyddio techneg fwy
diddorol: caiff pob pennod ei hadrodd gan berson gwahanol o blith y
rhai a groesodd lwybr bywyd Pegi. Byddai ambell un o’r penodau yn
llwyddiannus fel stori fer annibynnol – oherwydd bod gan bob un ei naws
arbennig, yn ymwneud â rhyw flas sy’n aros yn atgofion y prif gymeriad.
A gwell fyth, mae’n bosib i ddarllenwyr cael blas go iawn o’r
prydau hyn diolch i ryseitiau sy’n agor pob stori (ac mae rhai yn tynnu
dŵr o ddannedd, wir!).
Bwyd a bywyd
Ar wahân i reoli strwythur y nofel, mae bwyd yn elfen bwysig ym mhlot Blasu.
Yn yr ail bennod, er enghraifft, cyflwyna’r awdures un o brif bynciau’r
nofel – gwallgofrwydd mam Pegi – trwy episod eithaf dychrynllyd, pan
wêl y ferch lygoden fawr yn y cawl a ddarparwyd gan ei mam.
Yn y storïau i ddod, mae darnau tywyll sy’n ymwneud â bwyd
hefyd – fel cyfnodau pan mae Pegi yn ddioddef o fwlimia, wrth iddi
geisio ymdopi â gwaddod salwch ei fam.
Ond, yn gyffredinol, mae’n amlwg bod yn nofelydd am
ganolbwyntio am rôl gadarnhaol bwyd. Ac felly gall darllenwyr ddisgwyl i
fwyd wneud ei waith yn holl uchafbwyntiau emosiynol y nofel: yn
cysuro, torri iâ rhwng pobol neu fynegi pob math o deimladau.
Ar yr un pryd, mae’r nofel hon yn cael effaith debyg ar y
darllenwyr, wrth godi math o nostalgia am y gorffennol a’r bywyd teulol
traddodiadol. Tybed faint o ddarllenwyr a fydd yn rhoi cynnig ar un o
ryseitiau o’r nofel ar ôl ei darllen, yn lle prynu pizza arall i’w
plant?
Diifyg amrywiaeth
Mae iaith Blasu yn gweddu i naws cyffredinol y
nofel – mae’n llyfn, yn gynnes a dymunol i’w darllen. Ar y llaw arall,
dyma darddiad gwendid mwyaf y nofel hefyd.
Gwnaeth yr awdures ymdrech uchelgeisiol i gyflwyno’r stori
trwy ddefnydd lleisiau nifer o gymeriadau o wahanol ryw, oedran, cefndir
a chenedl . Ond, yn anffodus, nid yw’r amrywiaeth hon yn cael ei chyfleu
rhwng un stori a llall o ran iaith a steil. Pob tro gellir clywed llais
unigryw’r awdures a’i safbwynt mwyn a chall. Ac oherwydd hynny mae
rhai cymeriadau yn ymddangos braidd yn annaturiol.
Ond nid ydy’r diffyg hwn yn ymyrryd â mwynhau Blasu – llyfr ysgafn a gafaelgar yw hwn ac, er bod y plot yn datblygu’n weddol araf, mae datblygiadau annisgwyl tan y diweddglo.
Ar y cyfan, roedd darllen y nofel yn brofiad
tebyg i gael cinio da gan nain, gyda blasau ardderchog ac awyrgylch
hwylus a theuluol. Weithiau, efallai, cawn ni ormod o bethau melys …
ond yn y diwedd codwn oddi wrth y bwrdd yn fodlon iawn.
No comments:
Post a Comment