Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Friday 27 January 2017

Tridiau - trydar

Diolch i Geiriadur Prifysgol Cymru, Ein Cymraeg a BBC Cymru Fyw am y darn hwn.

Tridiau’r deryn du a dau lygad Ebrill (= tridiau olaf Mawrth a deuddydd cyntaf Ebrill) yw’r amser gorau i hau ceirch yn ôl yr hen ffermwyr!

__________________



Ydych chi'n 'nabod eich adar?

Os oes ganddoch chi awr i sbario y penwythnos yma Ionawr 28-30 mae Cymdeithas Gwarchod Adar RSPB Cymru isho'ch help chi.

Pa un o'r rhain yw Melyn yr Eithin?

 
Fel rhan o'u hymgyrch Gwylio Adar yr Ardd, mae'r elusen yn gofyn i chi dreulio awr bore Sadwrn neu fore Sul i weld pa adar sydd yn eich gerddi.

Y nod ydy helpu RSPB Cymru ddeall beth sy'n digwydd i hoff adar gerddi Cymru yn y gaeaf.

Cyn i chi ymestyn am y sbiendrych ac agor y drws cefn, beth am brofi'ch gwybodaeth o'n ffrindiau pluog?

Diogelu enwau lleol hanesyddol



(Diolch i BBC Cymru Fyw am yr erthygl hon)

Gweler hefyd gwefan Dai Lloyd AC yma.

Mae ACau wedi cymryd rhan mewn pleidlais ar hap i ddatblygu syniad yn fesur Cynulliad, gyda chynnig Dai Lloyd i ddiogelu enwau lleoedd hanesyddol wedi'i ddewis.

Roedd gan aelodau Cynulliad y gwrthbleidiau a mainc ôl Llafur y cyfle i gynnig cyfraith newydd ddydd Mercher.

Fe wnaeth cyfanswm o 29 AC gymryd rhan, ac roedd un syniad yn cael ei ddewis ar hap i gael ei ddatblygu yn fesur Cynulliad.

Cynnig Mr Lloyd oedd ar gyfer deddf newydd i ddiogelu enwau lleoedd hanesyddol yng Nghymru.
Mae Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws wedi galw yn y gorffennol i'w gwneud yn anghyfreithlon i newid enwau lleoedd hanesyddol yng Nghymru.

Daw'r cynnig yn dilyn cyfres o ddadleuon dros newid enwau dros y blynyddoedd, gan gynnwys ffrae dros Blas Glynllifon ger Caernarfon, oedd yn cael ei alw'n 'Wynnborn Mansion' mewn deunydd marchnata.

Beth yw'r broses?

Mae ganddo 25 diwrnod gwaith i ofyn i'r Cynulliad bleidleisio os y dylai'r mesur gael ei gyflwyno.

Bydd ganddo 13 mis i ddatblygu ei syniad a'i gyflwyno i'r aelodau cyn iddyn nhw gael y cyfle i graffu arno a'i ddiwygio.

Pe byddai'r mesur wedyn yn derbyn cefnogaeth gan y mwyafrif o ACau, byddai'n dod yn gyfraith.

Yn y pedwerydd Cynulliad, cafodd mesurau ar lefelau staffio nyrsys a chartrefi symudol preswyl - gafodd eu cynnig yn y modd yma - eu gwneud yn gyfraith.

Friday 20 January 2017

Daw eto haul ar fryn

Er maint sydd yn y cwmwl tew
O law a rhew a rhyndod,
 Fe ddaw eto haul ar fryn,
 Nid ydyw hyn ond cawod! 


(Hen bennill - diolch i Ein Cymraeg)

Trysorau coll y Cymry

Diolch i BBC Cymru Fyw am yr erthygl hon.

Mi fydd un o drysorau hynafol Cymru yn ymddangos ar stamp newydd. 

Bydd Mantell Aur Yr Wyddgrug yn un o'r creiriau [crair - creiriau: treasure/relic] , neu leoliadau, fydd i'w gweld ar gasgliad o stampiau sy'n nodi'r cyfnod cynhanesyddol yn Ynysoedd Prydain.



Er bod y Fantell ymhlith cyfoeth o drysorau hanesyddol Cymru, dyw hi na nifer o drysorau pwysig eraill ddim yn cael eu cadw yma. A ddylen nhw ddod nôl adref? Dyma i chi hanes y Fantell a nifer o greiriau eraill sydd wedi hen adael ffiniau Cymru:

Mantell Aur yr Wyddgrug yw'r dystiolaeth orau yn Ewrop o waith celf yr Oes Efydd [bronze], meddai archaeolegwyr ac mae'n unigryw drwy'r byd.

Daeth gweithwyr oedd yn cloddio mewn chwarel gerrig ar Fryn-yr-Ellyllon yn nhref yr Wyddgrug o hyd i'r fantell mewn bedd yn 1833. Mae hi dros 3,500 oed.

Wedi ei gwneud o aur pur a'i haddurno gyda rhesi patrymog mae'r clogyn [cape/cloak] wedi bod ym meddiant yr Amgueddfa Brydeinig yn Llundain ers y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Llythyr Pennal

Talp [chunk/lump] arall o hanes Cymru mae haneswyr wedi galw am iddo ddod nôl ydy Llythyr Pennal - un o lythyrau Owain Glyndŵr sy'n cael ei gadw yn Archifdy Cenedlaethol Ffrainc.

Apêl sydd yn y llythyr gan Owain Glyndŵr at Frenin Ffrainc, Siarl VI yn gofyn am gymorth i ymladd Brenin Lloegr ac yn dweud y byddai'n ffyddlon i Bab Avignon.

Wedi ei sgwennu mewn Lladin, mae'n sôn am ei gynlluniau i greu Cymru gref ac annibynnol drwy sefydlu eglwys annibynnol, dwy brifysgol a sefydliadau eraill angenrheidiol i wireddu ei weledigaeth. Mae'n cynnwys llofnod a sêl swyddogol Glyndŵr.

Er bod chwe chopi o'r llythyr ar gael yng Nghymru bellach, gan gynnwys un yn Llyfrgell Genedlaethol Aberystwyth, mae nifer o Gymry eisiau i Ffrainc ddychwelyd y copi gwreiddiol.

Llyfr Coch Hergest

Mae'r llyfr hynafol hwn yn cael ei gyfrif yn un o lawysgrifau canoloesol pwysicaf yr iaith Gymraeg.
Yn dyddio nôl i 1382, mae'n cynnwys straeon o'r Mabinogi a barddoniaeth y Gogynfeirdd. *

Ar ôl bod ym meddiant rhai o deuluoedd bonedd Cymru am ganrifoedd cafodd y llawysgrif ei rhoi i Goleg yr Iesu yn Rhydychen ac yno, yn Llyfrgell Bodleian, mae'n cael ei chadw.

Mae 'na sôn bod yr awdur JRR Tolkien wedi astudio Llyfr Coch Hergest a'i fod wedi dylanwadu ar ei gampwaith 'The Lord of The Rings'.

[*  I bob pwrpas mae'r term yn golygu Beirdd y Tywysogion, sef y beirdd a ganai yn Oes y Tywysogion, rhwng hanner cyntaf y 11g a cholli annibyniaeth Cymru yn 1282.]

Coron Brenin Enlli

Dros y ffin mewn cas gwydr yn Amgueddfa Forwrol Lerpwl mae Coron Brenin Ynys Enlli yn cael ei chadw yn barhaol ers 1986, er ei bod hi ar fenthyg ar hyn o bryd i Storiel, Amgueddfa Bangor. Coron wedi ei gwneud o dun ac efydd ar gyfer 'Brenin Enlli' oedd hon.

Roedd hi'n draddodiad i'r 'brenin' neu'r 'frenhines' gael eu dewis o blith trigolion yr ynys gyda chefnogaeth ei pherchennog, Arglwydd Niwbwrch.

Ar ymweliad â thref Pwllheli unwaith, cafodd y Brenin Love Pritchard ei groesawu gan y Prif Weinidog David Lloyd George fel "brenin o dramor."

Love Pritchard, a fu farw yn 1927, oedd 'brenin' olaf yr Ynys.




Llyfr Teilo

Mae Llyfr Teilo (sydd hefyd yn cael ei adnabod fel Llyfr Sant Chad) yn cael ei gadw yng Nghadeirlan [eglwys gadeiriol] Caerlwytgoed (Lichfield) yng nghanolbarth Lloegr.

Cafodd ei sgwennu yn hanner gyntaf yr 8fed ganrif, ac mae'n cynnwys Efengylau Matthew a Marc a rhan o Efengyl Luc. Mae'r llawysgrif wedi'i haddurno'n gain [fine] yn yr arddull Geltaidd tebyg i Lyfr Lindisfarne.

Mae sawl cofnod Hen Gymraeg yn y llyfr sy'n trafod materion cyfreithiol yr oes.

Yn ôl i Gymru?

Er bod yna ymdrechion gwleidddyol a diwylliannol wedi bod yn y gorffennol i geisio dod â'r creiriau yma nôl yn barhaol i Gymru, mae yna broblemau ymarferol i'w hwynebu. Bu'r Dr John Davies, hanesydd a daearegydd o Landysul yn ymddiddori yn y trysorau yma:

"Mae ein trysorau ni yn hollbwysig i ni fel cenedl ac yn tynnu bobl at ei gilydd. Maen nhw'n helpu pobl i ddychmygu'r cyfnod, ac yn siapio sut mae pobl yn teimlo am eu hardal. Mae pethau fel hen llawysgrifau yn taflu golau ar y math o gymunedau a'r bobl yn y casgliadau," meddai.

"Mae'n grefft i gadw'r hen ddogfennau mewn cyflwr da, ac mae'n costio lot o arian. Mae'n cymryd arbenigedd i stopio tamprwydd a chemegolion rhag difrodi dogfennau.

"Weithiau dydy'r arbenigedd ddim yma yng Nghymru (tu allan i'r canolfanau mawr), felly mae rhaid gofyn sut mae delio gyda hynny petai'r trysorau yn dod nôl gartref.

"Mae'r we yn arf pwysig y dyddiau hyn i geisio denu pobl i ymweld â'r trysorau hyn. Y peth pwysig yw bod yna ddigon yn cael ei wneud i'w diogelu i genhedlaethau a ddêl."






Tuesday 17 January 2017

Blwyddyn chwedlau

Diolch i Golwg360 am y stori yma.
 
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi mai Cerys Matthews ac Iwan Rheon fydd cenhadon [ambassadors] ‘Blwyddyn Chwedlau’ Cymru, sy’n ymgyrch i geisio denu twristiaid yn 2017.
Fe fydd y gantores a’r actor o gyfres y Game of Thrones yn dangos eu cefnogaeth i’r ymgyrch “fydd yn dod â gorffennol Cymru’n fyw,” sy’n defnyddio hanes a chwedlau Cymru i farchnata’r wlad i dwristiaid.
“Mae chwedlau a mythau Cymru wedi bod yn ysbrydoliaeth anferth i greadigrwydd o bob math – ym myd cerdd, celf a llên,” meddai Cerys Matthews, cyn gantores y band Catatonia a sylfaenydd [founder] y ‘Good Life Experience Festival’.

“Trwy roi gwedd fodern i’n straeon, gallwn greu profiadau chwedlonol ac ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol.”

Dangos mai “i’r gorffennol y mae’r Gymraeg yn perthyn”

Yn Golwg yr wythnos hon, mae’r ysgolhaig Simon Brooks wedi codi cwestiynau ynghylch thema’r ymgyrch, gyda phryderon y gallai ddangos mai “i’r gorffennol y mae’r Gymraeg yn perthyn” o’r rhestr o ‘chwedlau’ sydd wedi’u cynnwys.

“Ar yr wyneb, mae’n ymddangos yn iawn ein bod ni’n creu rhyw fath o dwristiaeth ddiwylliannol yng Nghymru,” meddai Simon Brooks. “Ond y cwestiwn ydi – diwylliant pwy?”

“Yr hyn dy’n ni’n ei gael ydi naill ai llenorion o Saeson fel Tolkein, neu bobol sydd wedi dod yn enwog am eu bod nhw’n boblogaidd ymysg Saeson yn cael eu dathlu ar draul ein diwylliant cynhenid [native].”

Ac mae’r hanesydd Elin Jones wedi codi amheuon am gysylltu chwedlau gyda hanes go iawn.

‘Creu chwedlau newydd’

Mae Llywodraeth Cymru wedi amddiffyn yr ymgyrch ac yn y datganiad diweddara’, dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, fod yr ymgyrch yn gwneud mwy nag “edrych tua’r gorffennol”.

“Bydd Blwyddyn y Chwedlau’n dod â’r gorffennol yn fyw mewn ffordd cwbl newydd ac arloesol [innovative],” meddai. “Y bwriad yw creu a dathlu chwedlau, cymeriadau, cynnyrch a digwyddiadau newydd, cyfoes a modern sy’n cael eu gwneud yng Nghymru neu sy’n cael eu cyfoethogi o fod yma.”

Dyma’r ail flwyddyn i’r ymgyrch i ddenu twristiaid yng Nghymru gael ei selio ar thema benodol, y llynedd roedd hi’n ‘Flwyddyn Antur’ ac yn 2018, ‘Blwyddyn y Môr’ fydd hi.

Mae Llywodraeth Cymru wedi clodfori ffigurau diweddar, sy’n dangos bod ymwelwyr undydd â Chymru wedi gwario dros 40% yn fwy a bod nifer y twristiaid rhyngwladol wedi cynyddu 15% yn ystod chwe mis cynta’ 2016.

Tuesday 3 January 2017

Iaith 'Madog' wedi marw

Diolch i Golwg360 am y stori hon.

Mae siaradwr brodorol ola’ iaith yr ‘Indiaid Cymraeg’ wedi marw.
Fe gafodd gwylnos ei chynnal o amgylch arch Edward Benson yn nhref Twin Buttes ar warchodfa Fort Berthold yng Ngogledd Dakota ynghynt y mis yma.

Gyda dim ond ychydig ddysgwyr yn gallu siarad ychydig ohoni, mae gweddillion llwyth y Mandaniaid yn poeni fod iaith arall wedi diflannu am byth.

Honno hefyd yw’r iaith a gynhaliodd y chwedl mai’r Tywysog Madog o Gymru a ‘ddaeth o hyd’ i America ac a ysbrydolodd Gymro ifanc i deithio miloedd o filltiroedd 225 o flynyddoedd yn ôl i chwilio am ‘Indiaid Cymraeg’.

‘Y byd yn crebachu’

“Mae’r byd yr ydyn ni’n byw ynddo’n crebachu. Yr iaith yw’r ffordd y mae’r Mandan yn gweld y byd,” meddai Cory Spotted Bear, un o’r Tri Llwyth sy’n cynnwys y Mandaniaid ac un sydd wedi dysgu rhywfaint o’r iaith ac yn ceisio cadw cofnod ohoni.

Ac fe ddywedodd wrth y papur lleol, Rapid City Journal, mai ar hap y daeth y ffarmwr cyffredin yn llefarydd ar ran ei ddiwylliant, gan ennill gradd doethuriaeth er anrhydedd am ei waith.

“Wnaeth e erioed ofyn i fod yn athro’r iaith; cael ei alw wnaeth e. Ffarmwr syml oedd e yn y bôn.”

‘Tristwch yn y llygaid’

Roedd y newyddiadurwr, Dylan Iorwerth, wedi cyfarfod ag Edward Benson wrth ffilmio un o raglenni’r gyfres Dylan ar Daith i S4C ac mae’n cofio’r tristwch yn llygaid yr hen ŵr wrth gofio fel yr oedd diwylliant ei lwyth wedi ei ddinistrio.

Rai blynyddoedd ar ôl i John Evans o Waunfawr dreulio amser gyda’r Mandaniaid yn 1792 – a phenderfynu nad oedden nhw o dras Cymraeg – fe fu mwyafrif y llwyth farw oherwydd y frech wen a ddaeth gyda’r dynion gwyn.

Ganol y ganrif ddiwetha’ fe gafodd gweddillion y llwyth eu clirio o’u tiroedd brodorol er mwyn gwneud lle i lyn – eu Tryweryn anferth nhw – ac fe wasgarodd siaradwyr yr iaith, gan adael Edward Benson.

“Erbyn i ni ei weld, roedd yn byw gyda’i deulu mewn bynglo ar y warchodfa,” meddai Dylan Iorwerth. “Ychydig iawn o olion yr hen fywyd traddodiadol oedd ar ôl – teledu anferth oedd y dodrefnyn mwya’ yn y tŷ.”

Neb ar ôl

“Doedd neb o’i blant yn siarad iaith y Mandaniaid – Nu’eta,” meddai Dylan Iorwerth. “Yn ôl ei ferched, gan fod eu tad yn siarad un iaith frodorol a’u mam un arall, roedden nhw wedi penderfynu bod siarad Saesneg yn haws.

“Ond, yn y bynglo anramantus hwnnw yn ‘Badlands’ Gogledd Dakota, wna i’ fyth anghofio’r olwg yn llygaid Edward Benson na’r tristwch yn ei lais wrth iddo fo ddisgrifio fel yr oedd ei lwyth a’i ddiwylliant wedi cael ei chwalu.

“A dw i’n cofio un sylw yn glir, ac yntau’n sôn am yr unigrwydd o fod yn siaradwr ola’r iaith … heb neb i sgwrsio â nhw ynddi na neb i rannu atgofion.”

Fe ddywedodd ei ferch, Heidi Hernandez, wrth y papur lleol fod ei thad yn y diwedd wedi diffygio.
“Fe ddywedodd ei fod wedi gwneud digon nawr a’i fod wedi blino,” meddai. “Mae’r iaith hon, a wnaeth Dad yn adnabyddus iawn ar draws y byd, dw i’n ofni ei bod wedi mynd.”