Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Saturday 26 November 2016

Coelcerth yn gwrthod diffodd

Diolch i BBC Cymru Fyw am y darn hynod ddiddorol yma.

Dyw e ddim yn bwnc mae pobl yn ei chael hi'n hawdd siarad amdano, ond bellach mae yna adnodd newydd yn y Gymraeg ar y we i helpu pobl i rannu eu profiadau o afiechyd meddwl. 

Bwriad meddwl.org yw dod â'r holl wybodaeth sydd ar gael yn Gymraeg ynghyd i un lle. Mae'r wefan hefyd yn cynnwys adran 'Myfyrdodau', sydd yn gyfle i bobl rannu eu profiadau yn Gymraeg a fydd gobeithio o ddefnydd i eraill. Mae yna hefyd fforwm drafod.

Un sy'n croesawu'r adnodd newydd yw Mathew Rhys o Landysul. Mae wedi cael tri phwl o iselder yn ystod ei fywyd, ond y cyfnod tywyllaf oedd degawd yn ôl, pan oedd yn 21 oed ac yn y brifysgol. Bu'n rhannu ei stori bersonol gyda Cymru Fyw:

Gor-wneud hi

"Roedd hi'n gyfnod anodd o or-wneud hi drwy weithio tair swydd rhan amser yn ogystal â gwaith coleg," meddai Mathew Rhys.

"Yn y pen draw, fe symudais adref at deulu a threulio bron i dri mis yn y gwely yn gorffwys ac adfer."

Mae hi'n dal i fod yn anodd i roi bys ar ei deimladau, meddai.

"Ro'n i'n meddwl am bopeth a dim byd ar yr un pryd. Roedd fel petai bod gwybodaeth yn rhuthro trwy fy mhen ar 500mya."

Roedd e hefyd yn tueddu o fynd yn ôl dros bethau oedd wedi ei gorddi [=cynhyrfu], mae'n cyfaddef. Pethau oedd e wedi eu dweud, neu ddim eu dweud.

"L'esprit d'escalier yw'r term Ffrengig am y peth - ail-fyw sefyllfaoedd brawychus drosodd a throsodd gan ddymuno eich bod wedi gweithredu'n wahanol," meddai.

Bywyd yn ymdrech

Aeth pethau'n ddu arno, ac er iddo drio bod yn gryf, aeth pethau yn drech nag e. [=yn gryfach nag e]

"Pan rydych chi'n isel, dydych chi ddim yn gallu gweld allan. Mae'r byd i gyd yn arafu ac rydych yn colli rheolaeth lwyr ar gadw amser, bwyta ac ymolchi. Mae iselder yn eich parlysu."

Ar ddechrau'r tymor academaidd hwnnw, fe gymerodd hi bythefnos iddo adael ei ystafell.

"Swnio'n eithafol, yndyw e? Ond doeddwn i ddim yn gallu camu i'r byd tu allan. Dw i'n cofio gwneud yr ymdrech un bore i baratoi i fynd i mewn i'r ddarlith, ond fe dreuliais i ddwy awr yn y gawod. Yn araf bach, fe ddes i allan o fy nghragen a mentro i'r coleg.

"Mae disgrifio iselder fel disgrifio lliw. Mae'n amhosib. Ond mae iselder yn cael effeithiau gwahanol ar wahanol bobl. Yr agosaf allaf ddod at ddisgrifio'r peth yw coelcerth yn eich pen sy'n gwrthod diffodd," meddai.

Y Gymraeg...

Un o'r rhesymau pam brofodd Mathew Rhys iselder difrifol ddeng mlynedd yn ôl oedd ei ddwyieithrwydd, meddai.

"Dw i wastad wedi credu bod gan bobl ddwyieithog ddwy bersonoliaeth, sy'n anochel os rydych chi'n meddwl am y peth. Mae iaith yn fyd arall, ac ro'n i'n teimlo fel fy mod i'n byw mewn dau fyd ac roedd y berthynas rhwng y ddau fyd yn fy rhwygo.

"Mae'r Gymraeg yn iaith gynnil a diriaethol [=concrete] a chanddi ei meddylfryd [= mindset] ei hun. Dw i'n gweld y Saesneg yn fwy 'rhydd', oeraidd a mynegiannol [= expressive] mewn ffordd arall. Ond sut ddiawl wyt ti'n esbonio dy deimladau dyfnion Cymraeg i rywun uniaith Saesneg?"

Ar ôl ymweld â'r meddyg, bu'n rhaid aros chwech wythnos am apwyntiad gyda chwnselydd ar yr NHS a hynny drwy gyfrwng y Saesneg.

"Er iddi helpu ychydig bach, ro'n i'n teimlo mor ddiymadferth [= helpless] a doedd dim modd esbonio dyfnderoedd yr hyn ro'n i'n ei deimlo yn fy ail iaith.

"Yn anffodus, mae chwech wythnos yn ddigon o amser i rai pobl sy'n teimlo'n isel i gymryd eu bywydau," meddai Mathew Rhys.

Goresgyn [= defeat]

Does dim dihangfa hawdd o'r pwll du, meddai, mae'r broses yn cymryd amser maith.

"Mae angen dyfalbarhad [= persistence], amynedd, ac amser. Mae nifer o arbenigwyr yn awgrymu ei bod hi'n cymryd dwy flynedd i ddod dros gyfnod o iselder, a dyna faint wnaeth hi gymryd i mi.

"Dwi'n well, yn sicr. Mae pawb yn cael diwrnodau gwael ac isel, ond dw i'n adnabod yr arwyddion ac wedi dysgu sut i osgoi i fynd nôl i'r lle hwnnw.

"Ro'n i'n lwcus iawn i gael teulu a ffrindiau cariadus, ond dw i'n sylweddoli nad yw pobl eraill mor ffodus.

"Dyna pam dw i'n croesawu gwefan meddwl.org yn fawr," meddai Mathew Rhys. "Mae'n hollbwysig fod gan bobl gyrchfan [=destination] penodedig ar gyfer materion iechyd yn y Gymraeg.

"Mae cyfathrebu, hyd yn oed yn ddi-enw, ar fforwm yn gam enfawr ymlaen. Mae'n braf gweld bod y sgwrs am iechyd meddwl yng Nghymru wedi ei normaleiddio. Ond mae dal angen mwy o wasanaethau iechyd meddwl cyfrwng Cymraeg ac mae hwn yn gam yn y cyfeiriad cywir."

Cyngor Mathew Rhys i eraill sy'n dioddef iselder ydy i fynnu [= insist on] cymorth, o bob cyfeiriad.

"Ond yn anffodus mae'n rhaid i chi fynd drwy hyn eich hunan. Mae yna obaith, ac mi ddewch chi drwyddi'n berson cryfach.

"Efallai bod hyn yn swnio'n od, ond mewn ffordd, iselder yw un o'r pethau gorau a ddigwyddodd i fi erioed.

"Yn amlwg, dydych chi ddim yn gallu gweld hynny ar y pryd, ond yn bendant, rydych chi'n dod i nabod eich hunan ac yn profi pob eithaf o'ch enaid. Mae'r graith dal yna, a dw i'n gweld y peth fel stribyn o dduwch yn cael ei ychwanegu at enfys - mae jyst yn rhan o bwy ydw i erbyn hyn."

Stori: Llinos Dafydd






Holi'n dwll - Rhodri Gomer Davies


Diolch i BBC Cymru Fyw am yr erthygl hon.

Y cyflwynydd a chyn-chwaraewr rygbi Rhodri Gomer Davies sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma wedi iddo gael ei enwebu gan Emyr Penlan yr wythnos diwethaf.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Diwrnod cneifio yn Troed y Bryn, a'r bois yn bygwth tocio gwallt fy mrawd (a'r wledd amser cinio wedi ei pharatoi gan Mamgu).

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Louise Redknapp. Wow!

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Gwisgo siorts rygbi gwyn i'r gala nofio yn ysgol Llambed, ond sylweddoli wedi i mi orffen y ras eu bod nhw'n dangos popeth (ac roedd y dŵr yn oer… iawn!)

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Ddydd Sadwrn diwethaf, yn angladd Eifion Gwynne, ffrind i mi a fu farw yn llawer rhy ifanc.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

McDonald's!

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Dyffryn Tywi. Y tirwedd, y bobl a'r cyfoeth o bethau sy' gan yr ardal i'w chynnig. 'Sdim unman yn cymharu â gartref!

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Noson fy mhriodas yng Ngwesty'r Vale. Dathlu achlysur arbennig iawn gyda theulu, ffrindiau a pheints!

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Gwyn fy myd!

Beth yw dy hoff lyfr?

Boo-a-bog yn y Parc gan Lucy a Rhodri Owen (mae'r arian i gyd yn mynd at apel Arch Noa felly anrheg Nadolig gwych i'r plant!)

Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?

Wellingtons. Joio bod y tu fas!

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?

Me Before You. Mae'r stori yn seiliedig ar ffrind i mi, Dan James o Brifysgol Loughborough.

Mewn ffilm o dy fywyd pa actor fydda'n chwarae dy ran di?

Michael Sheen. Actor o fri, a llanc o foi!

Dy hoff albwm?

Ar y funud, O Groth y Ddaear gan Gwilym Bowen Rhys, ond goreuon Plethyn yw'r ffefryn!

Cwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin - pa un ydi dy ffefryn a be fyddai'r dewis?

Gan bo' fi'n lico llond plat, 'sen i'n mynd am brif gwrs, a shanc o gig oen a sglodion fyddai'r dewis bob tro.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Y cyflwynydd Alun Williams (dwlen i wybod be' sy'n mynd mlaen yn ei ben!)

Sunday 20 November 2016

Titrwm tatrwm

Titrwm, tatrwm,
Gwen lliw'r wyn,
Lliw'r meillion mwyn rwy'n curo,
Mae'r gwynt yn oer oddi ar y llyn
O flodyn y dyffryn deffro.
 
Chwyth y tân, mi gynnith toc,
Mae hi'n ddrycinog heno.                   [drycinog - stormus]
 
Os ymhell o'm gwlad yr af
Pa beth a wnaf a'm geneth?
Pa un ai mynd a hi efo mi
Ai gadael hi mewn hiraeth?
 
Hed fy nghalon o bob man
I fryniau a phantiau y Pentraeth.      [Pentraeth - pentref ar Ynys Môn]
 
Rwyf weithiau yn Llundain, ac weithiau yng Nghaer
Yn gweithio'n daer amdani,                                                [taer - dwys, dyfal]
Weithiau rwy'n gwasgu fy hun mewn cell
Ac weithiau ymhell oddi wrthi
Mi gofleidiwn flodau'r rhos
Pe bawn i yn agos ati.
 
Dyma ddwy fersiwn gan Merêd a'r Gentle Good.

Bwlio

Diolch i BBC Radio Cymru am y darnau emosiynol hyn.

Darlledodd Radio Cymru sawl cyfraniad i'r wythnos yn erbyn bwlio'r wythnos diwethaf. Gall bwlio effeithio ar bawb beth bynnag eich oedran, ac mi wnaeth Anette Edwards a Robert John Roberts siarad am y  broblem - y naill fel rhywun fwliodd merch fach yn yr ysgol, a'r llall fel dyn sy'n hen gyfarwydd â bwlio fel dioddefwr.

Annette Edwards

"Dwi'n cofio hogan yn dod i'r ysgol, Saesneg o'dd hi, pwt bach, ac oeddan nhw'n dlawd ofnadwy y teulu 'ma ac yn anffodus oedd 'na ogla arni hi ac oedd hi'n edrych yn reit flêr," meddai.

"Doeddan ni ddim yn ffeind iawn efo hi. O'n i a dwy ffrind - a dwi'n siŵr o'dd pobl erill hefyd - yn ofnadwy o gas efo hi, a bwlio hi... ofnadwy.

"O'n i a dau ffrind yn chwilio amdani hi pan oedd y gloch yn mynd am amsar chwara' a o'dd y peth bach yn cuddiad. Dwi'n cofio ei gwynab hi fel cwningan mewn headlight. O'dd 'na nunlla iddi fynd, oeddan ni wedi ei surroundio hi a deud 'ti isio mynd i toilet does?!'

"Dyma ni'n cau drws a deud 'dos i toilet rŵan!', a wedyn dyma ni'n cael gafael arni, tynnu'i nicyrs hi i lawr, a [gwneud iddi] isda ar y toilet. O'dd hi methu mynd, o'dd hi wedi dychryn gymaint.

"Pan oedd hi'n codi o'r toilet dwi'n cofio oeddan ni'n slapio hi ar ei phen ôl a wedyn codi'i nicyr hi a deud 'cer!' O'dd hi'n rhedag i ffwr' a oeddan ni'n chwerthin. Gen i gywilydd o edrych 'nôl."



Robert John Roberts

Saturday 19 November 2016

Adar Brith Cymru

Diolch i BBC Cymru Fyw am yr erthygl ddifyr yma.

Gwlad beirdd a chantorion.. ac ambell i droseddwr lliwgar. Do, mae Cymru wedi cynhyrchu ambell i dderyn brith dros y blynyddoedd. Dyma gipolwg ar ambell i droseddwr chwedlonol a lliwgar sydd â chysylltiadau Cymreig.

Murray the Hump

Llewelyn Morris Humphreys, neu 'Murray the Hump' oedd un o gangsters mwyaf dylanwadol Chicago yn y '20au a'r '30au ac roedd o'n cydweithio'n agos gyda Al Capone.

Roedd ei rieni, Bryan Humphreys ac Ann Wigley yn Gymry Cymraeg a oedd yn byw yng Ngharno yng nghanolbarth Cymru. Mi wnaethon nhw ymfudo i America cyn i'w mab chwedlonol gael ei eni.

Yn 1929, gyda Jack "Machine Gun" McGurn, mae'n debyg mai Murray the Hump drefnodd y Gyflafan Sant Ffolant (Saint Valentine's Day Massacre) yn Chicago. Y targed y diwrnod hwnnw oedd aelodau o gang eu prif elyn, Bugs Moran.

Twm Siôn Cati

Roedd Twm Siôn Cati yn leidr a dihiryn adnabyddus yn yr unfed ganrif ar bymtheg. Cafodd Thomas Jones ei fagu ym Mhorth y Ffynnon, Tregaron.

Er fod yr awdurdodau yn awyddus i'w ddal cafodd bardwn gan y Frenhines Elizabeth I fel rhan o amnest cyffredinol yn ail flwyddyn ei theyrnasiad.

Wedi hynny bu Twm yn byw bywyd cymharol barchus tan ei farwolaeth yn 1609.

Ond mae amryw yn gweld Twm Sion Cati fel arwr, oherwydd roedd yn brwydro dros hawliau y Cymry cyffredin yn erbyn yr uchelwyr Seisnig.

Syr Harri Morgan

Cafodd Harri Morgan ei eni yn 1635 yn Llanrhymni ger Caerdydd, ond mae'n adnabyddus ledled y byd fel Henry Morgan.

Roedd yn fôr-leidr enwog a oedd yn hwylio ar hyd arfordir Mecsico, Cuba a Phanama - o dan arweinyddiaeth capten arall i ddechrau ac yna fel capten ei hun - gan ymosod a chipio trefi oedd o dan reolaeth Sbaen.

Dechreuodd ymgyrch enwog Harri ar Ddinas Panama yn 1670. Ar y pryd hon oedd dinas cyfoethocaf India'r Gorllewin.

Hwyliodd yno gyda 36 llong, ond roedd rhaid iddyn nhw gerdded dros y mynyddoedd a thrwy'r jyngl er mwyn cyrraedd y ddinas a oedd ar arfordir y Cefnfor Tawel. Cipiodd y dref a'i llosgi gan ddwyn aur, arian a gemau yn ogystal â chipio cannoedd o gaethweision.

Wedi i Sbaen a Lloegr arwyddo cytundeb heddwch cafodd Harri ei arestio yn 1672 am ymosod ar Ddinas Panama. Wedi iddo gael ei ryddhau yn 1674 cafodd ei urddo yn farchog.

Dychwelodd i'r Caribî i fod yn Is-Lywodraethwr Jamaica, lle y bu farw ar 25 Awst, 1688.

Bartholomew Roberts (Barti Ddu)

Un arall wnaeth enw ei hun trwy ei orchestion ar y môr oedd John Roberts o Gasnewydd Bach yn Sir Benfro. Roedd yn cael ei 'nabod yn ddiweddarach fel Bartholomew Roberts. Ond mae'r rhan fwyaf ohonom ni yn gwybod amdano fel 'Barti Ddu', y llysenw gafodd o ar ôl ei farwolaeth.

Roedd yn fôr-leidr hynod lwyddiannus yn y Caribî ac yng Nghorllewin Affrica rhwng 1719 a 1722. 

Mae hanes ei fod wedi cipio 470 o longau yn ystod ei fywyd, gyda llawer yn honni mai fo yw'r môr-leidr mwyaf llwyddiannus erioed.

Coch Bach Y Bala

Ganwyd John Jones, y lleidr chwedlonol, yn 1854, ond mae'n fwy adnabyddus fel Coch Bach Y Bala. Roedd hefyd yn cael ei alw yn The Little Welsh Terror a The Little Turpin. Roedd yn enwog am allu dianc o garchardai, a daeth yn fath o arwr gwerin.

Yn 1913, dihangodd o garchar Rhuthun, ond yn fuan wedyn cafodd ei saethu gan dirfeddiannwrger Llanfair Dyffryn Clwyd, a gwaedodd i farwolaeth yno. Roedd 'na ymateb ffyrnig i hyn ymhlith y trigolion lleol.



Howard Marks

Mae'n siŵr mai'r smyglwr mwyaf adnabyddus o Gymru yw Dennis Howard Marks, neu 'Mr. Nice'. Cafodd ei fagu ar aelwyd Gymraeg ym Mynydd Cynffig. Roedd yn fyfyriwr disglair ac aeth i Brifysgol Rhydychen cyn arbenigo mewn ffiseg.

Yn ystod y cyfnod hwn y dechreuodd gefnu ar ei atsudiaethau academaidd a sylwi bod arian mawr i'w wneud o werthu cyffuriau. Datblygodd rwydweithiau rhyngwladol ac roedd ganddo gysylltiadau gyda grwpiau fel yr IRA, a'r Mafia.

Cafodd ei garcharu yn rhai o garchardai enwocaf Prydain a'r Unol Daleithiau.

Wedi iddo gael ei ryddhau o'r carchar fe gyhoeddodd Marks ei hunangofiant, 'Mr Nice' (1996). Cafodd ffilm o'r un enw ei rhyddhau gyda ei gyfaill Rhys Ifans yn chwarae ei ran.

Bu farw Howard Marks o ganser ym mis Ebrill 2016.

Charles Salvador

Michael Gordon Peterson yw ei enw bedydd, ond mae'n fwy adnabyddus fel Charles Bronson ar ôl iddo fabwysiadu enw'r actor enwog.

Mae rhai yn dweud iddo gael ei eni yn Aberystwyth lle y daw teulu ei fam, Eira Peterson. Roedd ei ewythr yn faer ar Aberystwyth yn yr 1960au a'r 1970au.

Mae o wedi treulio'r rhan fwyaf o'i oes dan glo ac ar un adeg roedd rhannau o'r wasg yn cyfeirio ato fel 'carcharor peryclaf Prydain'.

Cafodd ei garcharu yn wreiddiol am ladrad arfog ond mae'r awdurdodau wedi ei gadw yn y carchar oherwydd sawl digwyddiad tra'i fod dan glo.

Mae bellach yn cael ei adnabod fel Charles Salvador, mewn teyrnged i'w hoff arlunydd, Salvador Dalí.
Dros y degawdau yn y carchar mae wedi rhyddhau llyfr ffitrwydd ac wedi ennill gwobrau am ei waith celf.







Friday 11 November 2016

Beirniadu diffyg buddsoddiad mewn ffilmiau Cymraeg

Diolch i Golwg360 am y stori hon.



Tachwedd 7, 2016 08:32 Diweddarwyd Tachwedd 8, 2016 07:21

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi beirniadu Llywodraeth Cymru yn hallt am beidio buddsoddi digon mewn cynyrchiadau ffilm yn y Gymraeg.

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi canfod fod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £40,000 yn unig mewn ffilmiau Cymraeg ers 2011 tra’n gwario £7 miliwn ar ffilmiau Saesneg, sy’n gyfystyr ag ychydig dan 1% o’r cyfanswm.  [cyfystyr = o'r un ystyr, tantamount]

Yn 2014, sefydlwyd cyllideb ‘Buddsoddi yn y Cyfryngau’ gwerth £30 miliwn dros gyfnod o bum mlynedd gan Weinidogion Cymru.

Mewn ymateb i gais Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, meddai’r Llywodraeth mai dim ond 0.57% o arian sydd wedi ei fuddsoddi mewn ffilmiau Cymraeg, “Yn 2013/14, darparwyd £40,000 i gefnogi ffilmiau cyfrwng Cymraeg a £452,009 ar gyfer ffilmiau cyfrwng Saesneg. Yn 2014/15, darparwyd £3,852,784 ar gyfer ffilmiau cyfrwng Saesneg ac yn 2015/16 darparwyd £2,704,516 i gefnogi ffilmiau cyfrwng Saesneg.”

Mewn llythyr at y Gweinidog sy’n gyfrifol am y gronfa, Ken Skates, dywedodd Carl Morris, cadeirydd grŵp digidol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, “Mae’n fater o gryn siomedigaeth bod ein Llywodraeth ni, sy’n rhannol gyfrifol am hybu’r Gymraeg, yn gallu ffafrio’r Saesneg i’r fath raddau, yn enwedig gan ystyried y dalent a gallu i greu ffilmiau Cymraeg o’r safon uchaf yn y Gymraeg.”

Yn ôl Carl Morris, “Mae buddsoddiad o £7 miliwn dros 3 blynedd yn y Saesneg yn sylweddol iawn, ac mae’r £40,000 yn wir yn slap yn y wyneb i’r rheini sydd eisiau cynhyrchu ffilmiau yn Gymraeg, y diwydiant ffilm a theledu Cymraeg a chefnogwyr y Gymraeg yn fwy cyffredinol. Ni ellid tanamcangyfrif pwysigrwydd y cyfrwng ffilm fel ffordd o hybu diwylliannau, yn enwedig diwylliannau lleiafrifedig fel rhai cyfrwng Cymraeg.

[tanamcangyfrif - under-estimate]

Unioni’r sefyllfa

[unioni -  rectify, put right]

Mae Carl Morris yn galw ar Lywodraeth Cymru i newid y sefyllfa, “Gofynnwn ni i chi ddatgan nad ydych chi’n fodlon â’r ffigurau hyn ac eich bod yn mynd i gymryd camau er mwyn unioni’r sefyllfa yma dros y blynyddoedd nesaf.  Awgrymwn eich bod yn clustnodi o leiaf 50% o’r gyllideb “Buddsoddi yn y Cyfryngau”, fel rhan o gynllun ar wahân, ar gyfer prosiectau Cymraeg eu hiaith.”

Mae Carl Morris hefyd yn annog Llywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn prosiectau i fuddsoddi yn y Gymraeg,  “Dim ond un enghraifft ymhlith nifer o’r anffafriaeth i’r Gymraeg o fewn cyllidebau prif-ffrwd y Llywodraeth yw hon, a galwn arnoch chi i ystyried eich holl gyllideb a chymryd camau pendant i fuddsoddi mwy ym mhrosiectau sy’n cael effaith positif ar y Gymraeg.”

[anffafriaeth - discrimination]

‘Cefnogaeth sylweddol’

Ond mae  llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wedi wfftio honiadau Cymdeithas yr Iaith.

“Mae’r datganiad i’r wasg gan Gymdeithas yr Iaith yn ystyried cyllid ar gyfer ffilmiau yn unig, ac nid yw’n cydnabod y gefnogaeth sylweddol a roddir gan Lywodraeth Cymru i brosiectau Iaith Gymraeg sy’n cael eu darlledu drwy gyfryngau eraill megis teledu a llwyfannau ar-lein.”

Ychwanegodd: “Mae cefnogaeth neu fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru ar gael ar gyfer prosiectau ffilm a theledu yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae ein cefnogaeth yn dibynnu ar nifer o feini prawf yn cael eu bodloni, gan gynnwys yr angen i ddangos marchnad ryngwladol, o leiaf 50% o’r saethu yn cael ei wneud yng Nghymru a chryfder y budd economaidd tebygol i Gymru.

[meini prawf -criteria]

“Ar y sail honno, yr ydym wedi cefnogi cynyrchiadau llwyddiannus yn rhyngwladol fel Y Syrcas, Dan Y Wenallt a tri thymor Y Gwyll ac rydym yn parhau i gefnogi cyfryngau sain a gweledol Cymraeg o’r radd flaenaf trwy ein cwmnïau cynhenid megis Boom Cymru.”
 

Monday 7 November 2016

Papurau bro a'r Atom

Mabon ap Gwynfor:

Yn ôl yr adroddiad yma gan Lywodraeth Cymru mae cylchrediad ein Papurau Bro yn 66 mil, bron ddwy-waith maint chylchrediad y Western Mail a'r Daily Post gyda'u gilydd, ac nid yw'r ffigyrau yn dangos cylchrediad pob papur bro chwaith, megis Y Bedol ac Y Gadlas (er fod ffigwr Y Fan a'r Lle i'w weld braidd yn amheus).

Wrth feddwl am ddiffygion y wasg Gymraeg, ydy'r ateb yn syllu yn syth atom yma?!




Yr Atom

Yn dilyn cais llwyddiannus i’r gronfa gyllid cyfalaf Canolfannau Iaith a Gofodau Dysgu, derbyniodd Prifysgol Drindod Dewi Sant grant o £355,000 tuag at sefydlu Canolfan Iaith yng nghalon tref Caerfyrddin. Agorwyd Yr Atom yn swyddogol gan y Prif Weinidog Hydref 2015.
 
Yn ogystal a’r caffi sydd bellach wedi ennill ei le ar restr Wales Online o’r llefydd gorau i fwyta yn Sir Gâr,   mae’r Ganolfan yn gartref i Gylch Meithrin Myrddin, stiwdio radio Cymru FM a swyddfa Menter Iaith  Gorllewin Sir Gâr.
 
Ers agor, mae Yr Atom wedi gwreiddio ei hun ym mhob rhan o fywyd y dref gan sicrhau fod cymdeithasau a sefydliadau sy’n ymwneud a hyrwyddo’r Gymraeg yn lleol yn cydweithio a chydgynllunio er budd y Gymraeg. Yn arbennig felly, mae’r Ganolfan yn rhoi’r cyfle i ddarparwyr  rhaglenni addysgol Cymraeg yn yr ardal i gydgynllunio rhaglenni sydd wedi eu teilwra’n    benodol at anghenion pobl tref Caerfyrddin a’r ardaloedd cyfagos megis:
 
  • Trosglwyddo’r iaith a’r defnydd o’r Gymraeg o fewn y teulu
  • Darparu gwasanaethau addysg
  • Creu bwrlwm cymdeithasol a diwylliannol
  • Dwyieithogi busnesau tref Caerfyrddin cyn dyfodiad Canolfan S4C, Yr Egin yn 2018.