Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Friday 26 August 2016

Bywyd wedi ei ddatgymalu: Parch yn ôl ar S4C

Diolch i'r Cymro am yr erthygl hon. Roedd y gyfres gyntaf yn boblogaidd yn ein dosbarth sgwrsio.

Mae’r gyfres ddrama Parch yn dychwelyd i S4C ac yn ôl Carys Eleri sy'n portreadu'r prif gymeriad Myfanwy; mae bywyd y ficer wedi ei thrawsnewid.

Bydd y gyfres, sydd wedi ei hysgrifennu gan yr awdur Fflur Dafydd, yn dechrau nos Sul 4 Medi, gyda Huw Davies, Wanda Opalinska, Rhys Ap Hywel, Ifan Huw Dafydd, Aled Pedrick a Lowri Steffan yn serennu hefyd yn y ddrama boblogaidd.

"Mae bywyd Myfanwy wedi ei ddatgymalu," [ = dislocate] meddai Carys sy'n wreiddiol o'r Tymbl ger Caerfyrddin, ond sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd.

"Dyw hi ddim yn byw mewn ficerdy gyda Terwyn ei gŵr rhagor, mae eu bywydau nhw wedi symud ymlaen, ac mae hi'n byw ar ei phen ei hun.

"Mae e fel pe bai rhywun wedi agor suitcase ac mae'r dillad wedi syrthio mas, ac wedi mynd i bobman. Mae ei bywyd hi ar chwâl."

Ac wrth i Myfanwy ddod i amgyffred â'i bywyd newydd [= dod i ddeall ei bywyd newydd], bydd digwyddiadau doniol a sefyllfaoedd lletchwith yn difyrru gwylwyr gartref.

Gorffennodd y gyfres ddiwethaf gyda Myfanwy ar groesffordd yn ei bywyd, roedd hi rhwng byw a marw wedi iddi hi gael triniaeth ar ei hymennydd.

Ond roedd hi'n wynebu newid arall hefyd, wrth i'w theimladau tuag at Eirug (Rhys ap Hywel) ddod i'r wyneb, gan adael ei pherthynas â Terwyn (Huw Davies) ei gŵr yn rhacs.

"Dwi'n credu'n gryf yn stori Myfanwy, yn enwedig gan fod rhai o fy ffrindiau wedi cael llawdriniaeth ar eu hymennydd.

"Mae hynny'n effeithio arnyn nhw am weddill eu hoes.

"Dyw popeth ddim yn hollol negatif, ond maen nhw'n meddwl mewn ffordd hollol wahanol wedi'r salwch," meddai am ei chymeriad yn y ddrama a gynhyrchwyd gan Paul Jones o stabl cwmni cynhyrchu Boom Cymru.

Roedd Eirug hefyd yn wynebu brwydr rhwng byw a marw, wedi iddo fod mewn gwrthdrawiad. Ond bydd rhaid i wylwyr S4C aros i weld beth fydd ei dynged e'.

Ond mae sefyllfa deuluol Myfanwy wedi newid cryn dipyn ers y gyfres ddiwethaf: "Mae Terwyn a Myfanwy yn dal yn briod, ac mae modrwy briodas Myfanwy yn dal 'mlaen, ond maen nhw mewn limbo. Dyw'r plant ddim gyda hi, mae'r plant gyda fe, ac mae hi'n teimlo'n euog ei bod hi wedi gadael y plant.

"Mae e'n yffach o beth i fod heb ei phlant, ond ar ôl triniaeth mor fawr, mae hi angen amser i feddwl. A ddim ar chwarae bach mae hi wedi gwneud y penderfyniad 'ma i fyw ar ben ei hun."

Mae ganddi hi swydd newydd hefyd nawr: "Mae hi'n gaplan yn y gymuned. Mae e'n rôl hollol wahanol, ac eitha' digyswllt oddi wrth bawb. Mae e'n hollol wahanol chwarae caplan i chwarae ficer mewn eglwys.

"Fel ficer maen nhw moyn dod atat ti i'r addoldy 'ma, fel caplan mae Myfanwy yn ymweld â'r siop, y caffi - ond does neb moyn gwrando arni hi. Mae e'n gyfnod unig iddi hi i ddweud y gwir."

Yn ei rôl newydd fel caplan y gymuned mae Myfanwy'n helpu cyn garcharor i ddychwelyd i gymdeithas. Ond mae sgil effeithiau i'w pherthynas a'i chymwynas â charcharor. 

"Mae Gethin wedi cael ei garcharu 15 mlynedd am droseddau eitha' difrifol… Mae'r stori yn troi'n  dywyll iawn. Ac yn y diwedd dych chi ddim yn gwybod os yw e'n euog neu'n ddieuog am beth wnaeth e."
Ond sut fydd Myfanwy yn ymdopi â'i amgylchiadau newydd? Gwyliwch Parch am y diweddglo perffaith i'ch penwythnos.
 
Parch
Nos Sul 4 Medi 9.00, S4C