Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Tuesday 9 February 2016

Sunday 7 February 2016

Draig i guddio Jac yr Undeb



 Trwydded


(Diolch i BBC Cymru Fyw am y stori hon)

Roedd yna gryn aniddigrwydd [discontent] yr adeg yma'r llynedd ar ôl i lywodraeth y DU gyhoeddi bwriad i osod baner Jac yr Undeb ar drwyddedau gyrru newydd fyddai'n cael eu prosesu. 

Er bod nifer o yrwyr Cymru wedi ymgyrchu yn erbyn y syniad, daeth y trwyddedau newydd i fodolaeth ar 6 Gorffennaf 2015. Mae'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr yn dweud bod ychwanegu'r faner yn "cryfhau'r teimlad o undod cenedlaethol".

Ond rŵan mae gwasg Y Lolfa wedi penderfynu mynd â'r brotest gam ymhellach trwy gyhoeddi sticeri'r Ddraig Goch i yrwyr eu gosod ar eu trwyddedau newydd i guddio Jac yr Undeb.

Meddai Fflur Arwel, y pennaeth marchnata: "Ry'n yn credu ei fod yn hollol annheg fod Prydeindod yn cael ei orfodi arnom yn y ffordd hyn. Does gan bobl ddim dewis i ddatgan eu cenedligrwydd na dangos eu balchder o fod yn Gymry."

Mae'n bwnc sy'n hollti barn. Hon oedd y drafodaeth ar Cymru Fyw pan gafodd deiseb yn erbyn y faner ei chyflwyno i'r Cynulliad ym mis Ionawr 2015:

YN ERBYN

Gwenith Owen oedd trefnydd y ddeiseb yn gwrthwynebu'r cynlluniau. Roedd dros 3,000 wedi ei llofnodi. Yma mae hi'n egluro pam ei bod hi'n gwrthwynebu'r datblygiad:

'Ym mol y morfil'

Roedd gan John Bwlchllan stori dda am Jona a'r morfil. Wrth i'r morfil lyncu Jona mae'n dweud wrtho, "Bellach y' ni'n un. A myfi yw'r un." Dyna yw Prydeindod. Nid partneriaeth mohono ond ewyllys un wlad a orfodwyd trwy drais ar dair arall.
Nid yw Prydeindod wedi bod o fudd i Gymru. Ry' ni'n dioddef o salwch meddwl erbyn hyn, salwch sy'n codi arnom ofn bod yn weledig ac ofn cael ein gadael.

Mae ofn gweithredu arnom ac ofn sefyll ar ein traed ein hunain gan i ni gredu'r hen ystrydeb, ein bod yn rhy fach ac yn rhy dlawd.

Prydeiniwyd oddi wrthym ein hadnoddau a'n gadael i fyw ar gardod [alms, charity] gwlad. Credwn fod ein hiaith yn dda i ddim a'n diwylliant ond yn werth rhywbeth os yw'n efelychu'r hon a berthyn i'n meistri ymerodrol.
Yn y pen draw, mae'r sawl sy'n gwrthod hunaniaeth Brydeinig yn gwrthod gorthrwm [oppression] cenedlaetholdeb Prydeinig. Mae'n gwrthod antur wladychol [colonialist] y bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r hiliaeth oedd yn sail iddo.

Mae'n gwrthod ffawd y sawl a gafodd ei wladychu, sef gwasanaethu gweledigaeth ei ormeswr, a gormesu [oppress, tyrannise] eraill yn eu tro.

Mae 'na honiadau fod Jac yr Undeb yn uno pawb. Yma yng Nghymru fe all baner Cymru wneud yr un gwaith. Gallwch fod yn Gymro neu'n Gymraes beth bynnag eich iaith, lliw a chredo.

Nid oes yn rhaid wrth faner y Jac er mwyn bod yn gyfaill i'r lleill o wledydd Prydain nac i wledydd eraill y byd. Ni all Prydain neilltuo [reserve] iddi hi ei hun werthoedd yr ydym i gyd yn gobeithio eu coleddu [cherish]chwaith.

Achos plwyfol yw hwn yn y pen draw, ymdrech gan y Ceidwadwyr i apelio at bleidleiswyr de-ddwyrain Lloegr, ac i atal y llif tuag at UKIP. Mae gosod y faner ar ein trwyddedi yn un weithred ymysg y cant a'r mil sy'n ein bychanu.

Nid oes yna na ddu nac aur na gwyrdd na thafod na chwt ar faner Jac yr Undeb. Cred yw Prydeindod ac mae'n bryd i ni droi'n anghredinwyr. Rwy'n benderfynol o gael y morfil 'na i'n 'hwdu ni'n 'ôl.

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: Cerrig Milltir




Dr John Davies yn sôn am statws y Gymraeg yn y 50au a'r 60au.

  
Chwefror 1962: 

Darlith Radio Saunders Lewis 'Tynged yr Iaith'

"Nid dim llai na chwyldroad yw adfer yr iaith Gymraeg yng Nghymru. Trwy ddulliau chwyldro yn unig y mae llwyddo."


Awst 1962: Sefydlwyd Cymdeithas yr Iaith ym Mhontarddulais

1963:

Chwefror: Protest Pont Trefechan.

Mudiad Amddiffyn Cymru yn ffrwydro bom ar safle argae Tryweryn.

Mai – Mabwysiadu cyfansoddiad y Gymdeithas (fel canlyniad y 18fed o Fai 1963 yw pen-blwydd swyddogol y Gymdeithas).

Sefydlu Pwyllgor Hughes Parry oedd yn edrych i statws y Gymraeg.

1964:
Rhieni yn gwrthod cofrestru eu plant yn Saesneg

1965:
Boddi Capel Celyn (Tryweryn)

Meddiannu swyddfeydd Post – Dolgellau, Llanbedr Pont Steffan a Machynlleth.
Cyhoeddi Adroddiad Hughes Parry yn awgrymu Dilysrwydd Cyfartal i'r Gymraeg.

1966:
Carcharu Gwyneth Wiliam, Hywel ap Dafydd, Gareth Miles a Geraint Jones - Ymgyrch Treth Car

Gwynfor Evans yn cipio Caerfyrddin mewn is-etholiad. Aelod Seneddol cyntaf Plaid Cymru.

Aberfan 

1967. Pasio Deddf yr Iaith Gymraeg.

1968 -69: Ymgyrch wrth-Arwisgo
“Wylit, wylit Lywelyn. Wylit waed pe gwelit hyn. Ein calon gan estron ŵr, ein coron gan goncwerwr.”

1969: Ymgyrch peintio arwyddion ffyrdd uniaith Saesneg.

1970:
Dechrau Ymgyrch dor cyfraith dros Sianel Gymraeg.
Torri ar Draws yr Uchel Lys yn Llundain.

1971:
Yr Achos Cynllwyn Cyntaf yn erbyn y Gymdeithas (arwyddion ffyrdd).
Ail ymgyrch yn erbyn y Swyddfa Bost.
Hawl i gofrestru priodas yn ddwyieithog.
Dringo Mastiau Teledu – ymgyrch S4C

1972:
Cyhoeddi maniffesto cyntaf y Gymdeithas.
Adroddiad Bowen yn argymell arwyddion ffyrdd dwyieithog.
Ynadon yn dangos cefnogaeth i brotestwyr iaith trwy beidio eu cosbi yn y llysoedd.
Hailsham yr Arglwydd Ganghellor yn dod i Fangor i ddweud y drefn wrth yr Ynadon.

1973:
Sefydlu Cyngor yr Iaith Gymraeg.
Noson Tafodau Tân yng Nghorwen. Meddiannu Tai Haf.

1974.
Gwrthwynebu Stadau Tai Diangen.
Mudiad Adfer yn gwahanu oddi wrth y Gymdeithas.

1975:
Malu arwyddion ffyrdd dros flaenoriaeth y Gymraeg

1976:
Cwmni Boots yn addo polisi dwyieithog.

1977:
Difrod i Drosglwyddydd Blaenplwyf yn ymgyrch y Sianel.
Ymgyrch yn erbyn Arwerthwyr Tai.

1978:
Dal i ymgyrchu dros arwyddion dwyieithog a Sianel Gymraeg.
Tesco yn addo polisi dwyieithog.
Cynghorau yn ystyried statws cynllunio i'r Gymraeg.
Carcharu Wynfford James a Rhodri Williams am gynllwyn Blaenplwyf. (Roedd hwn yn achos mawr ar y pryd – cafodd Cadeirydd ac Is-Gadeirydd y Gymdeithas eu harestio a'u carcharu am gynllwynio i wneud difrod i fast)

1979:
Llywodraeth yn addo Sianel Gymraeg yn 1983.
W H Smith yn addo polisi dwyieithog.
Ymgyrch Cymreigio Banciau yn dechrau.
Twrw Tanllyd (gig Cymdeithas yr Iaith) yn dod i'r Steddfod.
Gweithredu yn erbyn tai diangen yn Gaerwen.
Pleidlais NA yn y refferendwm ar ddatganoli.
Etholwyd Margaret Thatcher yn Brif Weinidog.

1980:
Gwynfor Evans yn bygwth ymprydio ar fater y Sianel a'r llywodraeth yn newid meddwl.

1981:
Ymgyrch Siarter Iaith a chynllunio yng Nghlwyd.
Cyngor Sir Powys yn erlyn Wayne Williams.

1982:
Protest genedlaethol dros Wayne Williams.
Gweithredu yn erbyn Awdurdod Iechyd Gwynedd.
Cynhadledd gynllunio yng Nghlwyd.
Gwrthwynebu Marina Pwllheli.
Rhoi llawer o gefnogaeth i CND.
Cyhoeddi ymgyrch Deddf Iaith ac un dros Gorff Datblygu Addysg Gymraeg.

1983:
Gwrthwynebu Gwŷl y Cestyll – Y bwriad oedd dathlu fod 700 mlynedd wedi mynd heibio ers eu codi. Ond teimlai'r Gymdeithas mai yr hyn a wnaem oedd dathlu ein darostyngiad.
Taith dros Gorff Datblygu Addysg Gymraeg.
Meddiannu Colegau Addysg Bellach.

1984:
Cefnogi Streic y Glowyr a ffermwyr llaeth Dyfed.
Ymgyrch cownter Cymraeg Swyddfa Bost Caerdydd.
Difrodi pencadlys y Torïaid yng Nghaerdydd fel rhan o'r ymgyrch dros Gorff Datblygu addysg Gymraeg.

1985:
Fel rhan o'r ymgyrch dros Gorff Datblygu Addysg Gymraeg difrodwyd uned y Swyddfa Gymreig ar Faes yr Eisteddfod. (Ni ddaeth y Swyddfa Gymreig i'r Eisteddfod wedyn tan 1997).
Ymgyrch Cymreigio Banciau.
Cefnogi'r Mudiad Gwrth Apartheid.
Dirprwyaeth i Belfast ar wahoddiad Sinn Fein i drafod adfywiad y Wyddeleg.

1986:
Cychwyn deiseb Genedlaethol dros Ddeddf Iaith. Gwilym Prys Davies a Wigley yn cyhoeddi Mesur Iaith drafft.
Sefydlu Pwyllgor Datblygu Addysg Gymraeg.

1987:
Ymgyrch 'Nid yw Cymru ar Werth'.

1988.
Ymgyrch Dor Cyfraith 'Nid ywCymru ar Werth'.
Galw am wasanaeth radio Cymraeg i ieuenctid.
Sefydlu Bwrdd yr Iaith Gymraeg.

1988/89:
Peintiwyd Slogan Deddf Iaith ar fur y Swyddfa Gymreig gan nifer o Gymry amlwg yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd. Peintiwyd slogan yn yr un fan yn fisol am
gyfnod o flwyddyn. Arestiwyd dros 40 o bobl.
                  

1991 Carcharu Branwen Niclas ac Alun Llwyd gan Lys Ynadon Yr Wyddgrug am dorri i mewn i adeiladau'r Swyddfa Gymreig yn Llandrillo yn Rhos fel rhan o'r ymgyrch dros Ddeddf Eiddo. Arwain at brotestiadau a charchariadau (John Pritchard, Richard Wyn Jones a Jane Aaron).

Rhagfyr 1991:
Gig Rhyw Ddydd Un Dydd ym Mhontrhydfendigaid i groesawu Alun a Branwen o garchar.

1992:
Protest Deddf Iaith yn Llundain (yn dilyn cyfnod o gasglu tystiolaeth a nifer o brotestiadau lleol yng Nghymru).

1993:
Deddf yr Iaith Gymraeg yn dod i rym.
Sefydlu Bwrdd yr Iaith Gymraeg Statudol

1994 -97:
Ymgyrch Weithredol 'Trefn Deg' dros System Addysg annibynnol i Gymru -'Rhyddid i Gymru Mewn Addysg” Grwpiau o 10 (athro rhiant, myfyrwyr, llywodraethwyr etc.)
yn torri i mewn i adeiladau'r llywodraeth.

1997:
Ymgyrchu yn y Refferendwm. Trefnu taith gerdded trwy Gymru 'Ie a mwy...'

1998:
Ron Davies, Ysgrifennydd Cymru yn siarad mewn cyfarfod cyhoeddus ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhen-y-bont ar Ogwr oedd wedi ei drefnu gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg.

1997 – 98:
Pwyso ar y darpar Gynulliad i roi statws llawn i'r Gymraeg. Cyhoeddi Agenda ar Gyfer
Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Awst '98), Dwyieithrwydd Gweithredol (Mai 1999) Argraffiad newydd o Lawlyfr Deddf Eiddo (1999)

2000:
Ymgyrch dros Ddeddf Iaith newydd yn cychwyn
                  
2002:
Cyflwyno Tystiolaeth i Arolwg Iaith y Llywodraeth

2003:
Taith trwy Gymru tros Ddyfodol ein Cymunedau. Arwain at Lobi yn Nhy'r Cyffredin, cyfarfod Edwina Hart yn y Cynulliad a derbyn cefnogaeth 130 o Gynghorau Cymuned twy
Gymru i egwyddorion Deddf Eiddo.
Y Llywodraeth yn Cyhoeddi Iaith Pawb (yn dilyn eu harolwg) - cynllun cenedlaethol ar gyfer adfywio y Gymraeg.

2004:
Arestio 14 aelod o'r Gymdeithas am brotestio yn erbyn cwmni Orange, yn ddiweddarach yn y flwyddyn arestiwyd 7 arall yn y pencadlys ym Mryste.
Cyflwyno tystiolaeth i Gomisiwn Richard yn galw am i'r cyfrifoldeb dros ddeddfu ar y Gymraeg gael ei drosglwyddo i'r Cynulliad Cenedlaethol
Ymgyrch dros Goleg Ffederal Cymraeg ar daith tan arweiniad Catrin Dafydd.
Cychwyn ymgyrch yn erbyn Seisnigrwydd Radio Carmarthenshire.

2005:
Fforwm Genedlaethol i drafod yr angen am Ddeddf Iaith Newydd.
5 aelod yn cael eu rhyddhau yn amodol am achosi difrod troseddol yn Radio Carmarthenshire.
Cyhoeddi papur Trafod Ymgynghorol ar Ddeddf iaith.
Cyngor Sir Caerdydd yn gofyn i'r Gymdeithas ymatal rhag 'difwyno' arwyddion ffyrdd.
Yn yr Eisteddfod Genedlaethol y Gymdeithas yn dilyn y Prif Weinidog Rhodri Morgan rownd y Maes yn galw am Ddeddf Iaith newydd.
Arestio 10 o aelodau'r Gymdeithas am beintio sloganau yn galw am Ddeddf Iaith ar furiau adeilad
llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays.
Wyth aelod yn torri ar draws sesiwn yn y Cynulliad fel rhan o’r ymgyrch dros Ddeddf Iaith newydd

2006:
Carcharu Gwenno Teifi am dridiau am wrthod talu dirwy yn deillio o'r protestiadau yn erbyn Radio Carmarthenshire.
Cyhoeddi Mesur Iaith y Gymdeithas mewn lansiad yn y Cynulliad Cenedlaethol

2007:
Gorymdeithio trwy Belfast dros Ddeddf Iaith Wyddeleg.
Pum diwrnod o garchar i Gwenno Teifi am ei rhan yn yr ymgyrch Deddf Iaith
Galw ar i Gyngor Sir Gwynedd beidio dilyn polisi o gau ysgolion gwledig. Hyn yn arwain at flynyddoedd o ymgyrchu yn arbennig yn y Parc ger y Bala.
Cannoedd yn protestio ym Morrisons Bangor
Thomas Cook yn gwahardd staff rhag siarad Cymraeg yn y gwaith

2008:
Cwmni Focus yn datgan fod y Gymraeg yn iaith 'estron' yng Nghymru.
Llywodraeth Cymru yn torri addewid i sefydlu papur dyddiol Cymraeg.
Cyhoeddi cyfrol Gwion Lewis 'Hawl i'r Gymraeg'.
Cyhoeddi'r Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol ar yr Iaith Gymraeg i alluogi Llywodraeth Cymru i ddeddfu ym maes y Gymraeg

2009:
Y Gymdeithas yn rhoi tystiolaeth i'r Pwyllgor Deddfwriaethol ar yr Iaith Gymraeg.
David Jones, gweithiwr yn Morrisons Caergybi yn cael ei rwystro rhag siarad Cymraeg yn y gweithle
Carcharu Ffred Ffransis am wrthod talu dirwy osodwyd arno wyth mlynedd ynghynt. Dywedodd nad oedd sefyllfa'r Gymraeg wedi newid dim yn y cyfnod hwnnw.
Pwyllgor Materion Cymreig San Steffan yn cyhoeddi mai y Cynulliad Cenedlaethol ddylai ddeddfu ar fater yr iaith.
Osian Jones yn derbyn dedfryd 28 diwrnod am achosi difrod i gwmnïau preifat fel rhan o'r ymgyrch
dros Ddeddf Iaith

2010:
Traddodi a darlledu darlith Tynged yr Iaith 2 yn fyw ar-lein gan Gymdeithas yr Iaith. Darlith
sydd yn cyhoeddi gweledigaeth y Gymdeithas am adfer y Gymraeg yn ein cymunedau.
Ralïau mawrion dros ddyfodol S4C yng Nghaerdydd, Caernarfon a Chaerfyrddin sy’n arwain at fisoedd o ymgyrchu ac anufudd-dod sifil.
Penodi Cadeirydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

2011:
Mesur y Gymraeg (Cymru) yn dod yn gyfraith - mae gan y Gymraeg statws swyddogol am y tro cyntaf yn ei hanes
Lansiad swyddogol Coleg Ffederal Cymraeg (Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol)
Grwp Hawliau’r Gymdeithas yn dechrau ymgyrch i adfer Cofnod Cymraeg yn y Cynulliad Cenedlaethol.
Galw am ddatganoli y cyfrifoldeb dros ddarlledu i Gymru
Ymgyrch i sicrhau dyfodol y sianel yn parhau, carcharwyd Jamie Bevan am dridiau am ddifrodi swyddfa’r Ceidwadwyr yng Nghaerdydd.

2012:
Ail-sefydlu Cofnod Cymraeg yn y Cynulliad Cenedlaethol a chyhoeddi Bil Ieithoedd Swyddogol
Penodi Meri Huws yn Gomisiynydd y Gymraeg, Cymdeithas yr Iaith yn Cyflwyno Llyfr Du sy'n nodi diffygion gwasanaethau Cymraeg iddi.
Taith Tynged yr Iaith – Taith drwy Gymru
Gŵyl HannerCant ym Mhontrhydfendigaid i ddathlu hanner canmlwyddiant y Gymdeithas.
Carcharu Jamie Bevan am bythefnos am wrthod talu dirwy.
Sefydlu Cynghrair Cymunedau Cymru – Cynghrair annibynnol i dynnu cymunedau at ei gilydd i gyd- lobio ac ymgyrchu.

2015:

Y Bil Cynllunio - pwyso ar Lywodraeth Cymru i sicrhau ystyriaeth deg i’r Gymraeg yn y drefn gynllunio. Ar ôl tro pedol derbyniodd Llywodraeth Cymru welliant i'r Bil Cynllunio sy'n golygu bod y Gymraeg yn ystyriaeth berthnasol statudol. Gall cynghorwyr ganiatáu neu wrthod datblygiadau ar sail eu heffaith ieithyddol.



2016 

Llywodraeth leol: Y Gymdeithas yn pwyso ar Gyngor Sir Caerfyrddin i ddechrau gweithio yn Gymraeg.

Addysg: Ymgyrch sy'n galw ar Lywodraeth Cymru i ddileu Cymraeg Ail Iaith fel pwnc: "Addysg Gymraeg i Bawb".