Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Tuesday 14 July 2015

Cael y maen i'r wal

Diolch i John Matthews am y gerdd hon sy'n cynnwys nifer o idiomau. Ai darpar brifardd yw'r boi yma?

___________________

Nid tynnu nyth cacwn i lawr am eich pen
Yw bwriad yr athro sy’n dysgu bob rheng.
Er dan din yn ei ddull y mae hyd yn hyn,
Peidiwch llyncu mul, fydd e ddim yn rhy llym.

Ati fel lladd nadroedd y bûm trwy’r dydd,
Nid tan dri yr oeddwn yn rhydd.
Gobeithio o ddifrif yr ydym erbyn hyn,
Cyn diwedd yr wythnos y daw haul ar ein bryn.

Y rhagenwau  a’r geirynnau yn eu lle,
Y maen bron i’r wal yn nawr, ontefe?
Ymdrechu yn daer i gau pen y mwdwl
“Pobl glyfar yw nhw”, mae pawb nawr yn meddwl.

I lygad y ffynnon daeth y ferch o’r T.V.
Barn y gwylwyr sy’n bwysig iddi hi.
Mêl ar ein bysedd, y profiad yn wych,
Er bod bisgedi Richard braidd yn sych.

O’r cychwyn roedd rhaid i ni golli y “chi”
Well ganddo wastad defnyddio y “ti”.
Anghofiwch y “chi” ac hefyd y “ti”,
Gyda’n gilydd, fel ffrindiau, yn nawr rydym “ni”.



Fel lladd nadroedd

Dyma ddarn gan Graham Evans. Faint o idiomau y gallwch chi eu canfod yn ei stori?

________________

Cerddodd Dai’n araf tuag at y dafarn, Y Llew Du. Roedd e’n meddwl am eiriau ei wraig Bethan:

“Paid a mynd i’r blydi tafarn heno Dai g’boi, neu ti’n mynd i dynnu nyth cawn am dy ben di. Does dim digon o arian ‘da ni i dalu’r rhent.”

Wel, ta beth, aeth Dai i mewn, mewn modd dan dîn…….trwy’r drws cefn.

Wedyn, ar ol iddo fe yfed gormod o gwrw, aeth e adre, yn feddw caib.

Gwylltiodd Bethan wrth gwrs, ond cysgodd Dai fel twrch yn ei gadair esmwyth o flaen y teledu gan chwyrnu’n uchel.

Drannoeth, heb fwyta brecwast, roedd Dai yn eistedd o hyd yn ei gadair, pan ofynnodd Bethan:
“ Be’ dan ni’n mynd i neud nawr Dai ‘te?”

“ Jiw Jiw. Paid a phoeni fenyw, deith rhywbeth mewn pryd. Daw eto haul a’r bryn!”

Penderfynodd Bethan gael hyd i  waith ychwanegol iddo ar fferm ei brawd Idris, felly dros y penwythnos aeth Dai i’r fferm.

Dywedodd Idris wrtho, “ Drycha draw fan’na Dai, mae pentwr o dom da, dwy dunnell ohoni , bydd rhaid i ti ei symud hi mewn i’r silo mewn dwy awr, cyn i’r lori gyrraedd i’w chludo hi bant.”

Felly, aeth Dai ati fel lladd nadroedd.

Ond, ar ôl awr a hanner, dim ond hanner y pentwr oedd wedi cael ei symud, a daeth Idris yn ôl i annog Dai i weithio’n galetach, gan ddweud:

“ O Dai, be’ ti’n neud ! Chwpli di byth y jobyn . Bydd rhaid i ti weithio yn gyflymach, felly dere ‘mlan a chau pen y mwdwl.”

“ Dw i’n gweithio cyn galeted â phosib Idris,” meddai, “bydd angen tipyn o help arnaf i os dyn ni am gael y maen i’r wal”

Felly daeth Idris â dau ddyn arall i’w helpu, ac wedyn gorffennon nhw’r  jobyn.

Roedd Dai wedi blino’n lan a dweud y gwir, ond ennillodd e, dros y penwythnos, digon o arian i dalu’r rhent 

Ar ôl iddo gyrraedd adre gyda’r arian nos Sul, roedd Bethan yn hapus dros ben.

“ Ware teg i ti Dai “ meddai, “ti wedi cael y ddysgl yn wastad, ac mae digon o arian ‘da ni nawr, ond bydd yn ofalus yn y dyfodol. Os codi di bwys arna i unwaith eto, nid symud dom a wnei di – mi fyddi di ynddi hi!”





Cau pen y mwdwl

Diolch i bawb ddaeth i Ysgol Haf yn Hwlffordd yr wythnos diwethaf. Un o dasgau'r grŵp Graenus oedd ysgrifennu stori fer gan ddefnyddio rhai o'r idiomau a drafodwyd yn y dosbarth.

Dyma gyfraniad Tony Stewart. Sawl idiom y gallwch gael hyd iddynt yn y darn yma?

________________



Be’ ydy hwnna? Nefi blw!  Bu bron i mi neidio allan o ‘nghroen a dychrynais am fy mywyd. Chlywais i mo’r wraig, cyn ddistawed â’r bedd roedd hi pan ddaeth hi mewn.

Unwaith eto ond yn uwch y tro hwn, mi ddaeth y cwestiwn, “Be’ s’gynnoch chi fan ‘na, gad i mi weld o!”  

“Be’, hwn?”

“ Ie, hwnna, fel dychi’n gwybod yn iawn.”

“O, dim ond I-Pad ydy o, ch’mod.”  Llyncu fy mhoer braidd yr oeddwn erbyn hyn.

“I-pad? I-Pad Be’ ar wyneb y ddaear ydych chi’n mynd i wneud â hwnna? A chyda law, faint gostiodd o?”

“O dim llawer, ch’mod.”

“Dim llawer!” bloeddiodd. “Dyma ni’n methu cael deupen llinyn ynhgŷd a dyna chi’n  gwastraffu arian prin ar declynau o’r math. Ai yn eich iawn bwyll yr ydych?”

Ddechreuais lyncu mul erbyn hyn. 

“O, a ble ddaethoch chi ar ei ddraws o, dwedwch?” meddai.

“Oh lwc mul oedd hi”, meddwn, “dyn yn y Llew oedd yn eu gwerthu nhw amser ginio hanner pris. Bargen. “

“Fargen wir? Cwmpodd oddi ar gefn lori mwy na thebyg,” meddai yn ddirmygus.

“Rŵan”, meddai, “dwedwch wrthyf os ydych chi mor garedig, be’ sy ar y gweill ‘da chi ynglŷn â’r teclyn hwnna?”

Cyrhaeddod ei llais eu nodau uchaf erbyn hyn.

“Wel, ch’mod, trydar, gwneud tudalen weplyfr, pethau cymdeithasol gyda’m ffrindiau, ch’mod,” meddwn yn amddiffynnol. 

“Oh wir!” bloeddiodd, wedi colli ei lympyn yn gyfan gwbl erbyn hyn. “Wel,” meddai, yr wyf yn gallu rhagweld bod chi’n mynd i dynnu nyth cacwn ar eich pen chi, a hynny cyn fer o dro.”

Caeodd y drws yn glep ar ei hôl hi, wedyn daeth distarwydd byddarol am sbel. 

Ar y foment hon yr oeddwn yn falch o gael ei chefn. Wedyn cyn hir daeth teimlad o anesmwythder arnaf. Clywais sŵn annaearol o’r gegin. Gwyddwn yn iawn mai sŵn fy ngwraig yn chwerthin am fy mhen i ydoedd. Sylwais o’r tinc yn ei chwerthin ei bod hi ar gefn ei cheffyl hefyd.

Wel, yr oeddwn yn gwisgo fy nhîn ar fy nhalcen fy hun erbyn hyn, ch’mod. A oedd hi’n meddwl nad oeddwn yn llawn llathen? Yr un peth â hi yr oedd bob amser, anodd iawn dal pen rheswm â hi, a hithau’n trio tynnu blewyn o fy nhrwyn drwy’r amser a chynhyrfu’r dyfroedd rhyngddom; y pethau arferol yn tŷ ni, wsti?

Fe fyddai mêl ar ei bysedd yn ’ngweld i mewn trafferth gyda pethau technolegol. Yn fy marn i, yr wyf yn eitha sicr ei bod hi’n meddwl ‘mod i’n llo cors. A dyna asgwrn y gynnen arall rhyngddom y gallwn sôn amdano, ond nid yma ar hyn o bryd.

Penderfynais nag oeddwn am fynd o gwmpas gyda fy mhen yn fy mhlu. Breudwydd gwrach ar ei rhan hithau y byddai hyn y tro hwn. Sef, oeddwn yn mynd i fethu ymdopi gyda theclyn mor syml â’r I-Pad? Wel Duw a’n gwaredu rhag y fath nonsens!

Dwedais wrth fy hun beth allai fynd yn chwith? Dim ond gwthio’r botwm a dyna fe, mynd amdani fel dwedodd y boi yn y dafarn. Symyl!

Rŵan ‘te, ble roedd y llawlyfr? 
Ah dyna fo, rŵan ‘te - gwthio botwm gwyn.

O dipyn o beth daeth neges Saesneg i’r golwg.

“This I-Pad has been designed, constructed and languaged exclusively for the Chinese Market. It is not modifiable in any way for use in the UK.”

Wel, deallais yn iawn ymhen y rhawg y byddai’n fain arna i. Ym mêr fy esgyrn gwyddwn yn iawn y byddai’r byd yn syrthio am fy mhen fel arfer ac unwaith eto.

Gwn i sicrwydd na ddaw’r haul a’r fryn i mi byth eto.