Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Sunday 12 April 2015

Lecshwns Pontgam



Ym merw* ymgyrchu yr Etholiad Cyffredinol dydi etholiad arall sy'n cael ei gynnal yn mis Mai ddim wedi cael llawer o sylw - tan rwan.

*[berw - bwrlwm a chyffro sy’n debyg i ddŵr yn berwi]

Lle bach tawel ydi Pontgam, rywle yng Ngogledd Cymru, rhwng y graig a'i chysgod. Rhwng y ddafad a'i bref. Anwybyddwch y priffyrdd. Ewch ar hyd unrhyw un o ffyrdd culion, troellog y fro hon, a ble bynnag yr ewch chi, mi fydd Pontgam jesd rownd y tro nesaf.

A pha ochr bynnag o'r map edrychwch chi arno, mae Pontgam ar yr ochr arall. Un ffordd sydd yna i gyrraedd y pentref - tros y bont gam. Un ffordd i adael hefyd - tros y bont gam unwaith eto, ond yn wynebu y ffordd arall.

Mae'r clwy etholiadol presennol wedi cyrraedd Pontgam. Nid y paldaruo [=siarad lol] dwl a'r addewidion gwag sydd yn nodwedd mor amlwg o'r etholiad fawr.

Na na, mae'r etholiad fach lleol sydd ar fin digwydd ym Mhontgam lawer pwysicach na hynny. Daw yn sgil ffrae ofnadwy yn y Cyngor Bach.

Ffrae all rwygo cymdeithas y cwm yn waeth hyd yn oed na wnaeth ymgais anffodus Idris Dol yr Hydd a Wil Mwd i ffracio gyda 'Semtex' llynedd. Ymgais sydd wedi gadael pump o fustuch Dol yr Hydd ar Ynys Manaw yn gwrthod dod adre.

Bydd hanes y ffrae a'r ymgyrch etholiadol i'w glywed mewn cyfres o bump rhaglen ar Radio Cymru o ddydd Gwener, 10 Ebrill tan 8 Mai am hanner awr wedi hanner dydd.

Ac os byddwch chi'n methu credu'ch clustiau ar ôl clywed y darllediadau yna, bydd pob rhaglen yn cael ei hail-ddarlledu ar y Sadyrnau dilynol, tua hanner dydd.

Dyma i chi gyflwyniadau byrion i rai o brif bersonoliaethau'r fro:

TOMOS OWAIN JONES, neu 'Ymbo' i bawb yn y fro. Os gofynnwch chi iddo fo pam y llysenw, ei ateb gonest fydd, "Ymbo." Postman a chownslar ydi Ymbo. Postman trwy alwedigaeth, a chownslar trwy orfodaeth.

Mae o a Christabel Paloma Paletti ('Crisi') ei gariad yn byw gyda'i fam yn Rhif Un, Tai Ucha. Ymbo sydd yn ein tywys o amgylch Pontgam. Ma'i fam o'n cadw Bed an' Brecwasd, 'tae chi'n chwilio am le i aros.

JOHN HUWS 'John Sgarrog Fawr'. Cadeirydd y Cyngor Bach. Swydd mae o wedi etifeddu ar ôl ei dad - oedd wedi ei hetifeddu ar ôl ei dad yntau.

Yn wir, mae yna John Huws wedi cadeirio y cyngor byth ers i Hen Hen Hen John Huws brynu gwn dau faril i saethu brain ac ennill lecshiwns.

Ryw how-ffarmio Sgarrog Fawr mae John Huws neu, yn hytrach, cadw golwg barcud ar Mrs Huws druan, tra mae hi yn godro, carthu, cneifio, sgythru a phopeth arall. Popeth ond dreifio'r tractor. Job i ddyn ydi honno, yn ôl John Huws.

HUW BACH CEIR Perchennog y garej lleol. Cyfaill i Ymbo, a chyd-gynghorydd.

Fuodd yna fawr o Gymraeg rhwng Huw Bach Ceir a'i wraig o'r "Ai dŵ" hyd y dydd heddiw. Ac mae hynny wedi arwain at ddeng mlynedd ar hugain o fudandod bendigedig, yn ôl Huw Bach.

Mae egwyddorion gwleidyddol cadarn Huw Bach Ceir yn seiliedig ar ei gred nad oes "fiw i ti bechu yn erbyn dy gwsmeriaid 'sti, 'rhen fêt", ac ar y ddamcaniaeth fod pob hen *shiandri rhydlyd "yn brojecd i rhywun, 'rhen fêt".

*[shiandri neu siandri: hen gar sydd yn crafu fynd]

JOSEPH JOSEPH Perchennog 'Joseph Joseph & Joseph, Ymgymerwyr While you Wait' ydi 'Jo Deth'.

Mae ganddo fo ryw hen gast [cast: arferiad drwg] go annifyr o droi i fyny ar stepan drws yr ymadawedig, yn byseddu y tâp mesur sydd ganddo rownd ei wddw yn annwyl a phwrpasol, a hynny cyn bod yr ymadawedig wedi gneud unrhyw gynlluniau i... wel, i ymadael.

Ond ymadael ma' nhw yn fuan iawn wedyn, pob tro. Gall hyn fod yn dipyn o broblem i Jo Deth pan ddaw hi'n amser canfasio.

BITRIS MAIR Yn wreiddiol o Dudweiliog, mae Bitris yn byw yn Pen Drain Ucha gyda'i chyfneither, Lisi Puw. Mae ganddyn nhw ddwy afr, a chlagwydd [yma: ceffyl] o'r enw Jeniffyr. Mae'r ddwy yn gneud canhwyllau a gweu sanna pen-glin o hen deiars.

Ac wedi cychwyn ar lein newydd yn ddiweddar hefyd - yn gweu sanna o hen balets (ond, da chi, watsiwch gael sblintars hefo'r rheiny).

Er nad ydi hi'n fawr o beth i gyd - a deud y gwir, mae hi mor fyr mae hi'n gorfod sefyll ar flaena'i thraed i bigo'i thrwyn - mae Bitris Mair wedi bod yn bencampwraig reslo teirw yn Sioe Nefyn dair blynedd yn olynol - a hi ydi'r ffefryn i fynd â'r wobr eto eleni, os ffeindith rhywun darw digon dwl i fentro i'r Gorlan Golbio [colbio: curo, ‘thrash’] hefo hi.

Ffrae fawr rhwng Bitris a John Huws sydd yn arwain at yr etholiad leol ym Mhontgam.
Mae yna un creadur arall y dylir ei grybwyll.

IFOR SIOP IFOR Mae Ifor Siop Ifor wedi bod yn cadw Siop Ifor am gymaint o flynyddoedd, does neb yn cofio'i enw llawn o. Cradur. Dyn bach tawel, di-ymhongar ydi Ifor ar y wyneb. Ac un sydd mor awyddus i blesio'i gwsmeriaid a Huw Bach Ceir.

Dyn llwyd - yr un lliw a'i 'roset'. Ond ma'i galon wleidyddol o rywle i'r dde o un Heinrich Himmler gynt. Mae 'na ryw gred yn y fro fod Ifor Siop Ifor wedi bod yn filwr yn ei ieuenctid, yn yr SAS efallai, neu yn yr... wel, pwy a ŵyr 'de. Fo ydi ysgrifennydd y cyngor, a reit-hand-man John Huws.


Saturday 11 April 2015

Blwyddyn Betsan

Erthygl wreiddiol yma.

Mae 'na flwyddyn wedi mynd heibio bellach ers y newidiadau i amserlen BBC Radio Cymru. Wedi'ch plesio? Wedi'ch siomi? 

Golygydd yr orsaf, Betsan Powys, sy'n bwrw golwg yn ôl ar y deuddeg mis diwetha' a rhai o'r heriau sy'n wynebu'r gwasanaeth cenedlaethol:

Denu ymateb

Wel, falle ga i faddeuant am ganolbwyntio gyntaf ar ochr hapusa'r dafol [tafol = scale]- yr ochr honno lle dwi'n rhoi'r pleser o weld rhaglenni a'u cyflwynwyr yn datblygu, syniadau creadigol yn egino, a dod yn radio sy'n denu ymateb.

Mae hi wedi bod yn flwyddyn o anelu'n uchel, o fynd allan cyn amled â phosib i ganol y rheiny sy'n gwrando, o gerddoriaeth fyw fendigedig o bob math ac o drio llwyth o bethau newydd - a gwrando ar yr ymateb.

Blwyddyn o lythyrau meddylgar a diddorol, o drydar gwerthfawrogol weithiau, blin ddychrynllyd bryd arall. Mae cnwd [cnwd = crop] da yn mynd ar y wal i'w darllen a'u trafod bob hyn a hyn.

'Ddim digon da'

Ar ochr arall y dafol? Y gair 'na sy'n dechrau gydag 'ff' ac sy'n arwydd clir bod 'na ffordd bell iawn i fynd cyn gallu codi gwên ar bawb sy'n gwrando ar Radio Cymru - y gair 'ffigyrau.' Dydy'r ffigyrau gwrando ddim eto'n ddigon da. Waeth heb dadlau am y ffordd maen nhw'n cael eu cywain [=gather].

Dyma'r ffigyrau sy'n cael eu cyhoeddi a'u trafod bob tri mis, a gwnaf, mi wna i ac fe wnaiff y criw i gyd ddal ati i weithio'n galed i'w codi nhw o'r 106,000 lle roedden nhw ar y cyfrif diwethaf.



Fe allwn ni naill ai obeithio bod yr hen wraig yng nghartŵn Huw Aaron y mis yma'n llenwi wyth o ddyddiaduron RAJAR, yn ogystal â gwrando ar wyth set radio - neu, fe alla i wynebu'r her, a chynnig mwy o ffigyrau i chi sydd hefyd yn rhan o stori'r orsaf genedlaethol dros y flwyddyn ddiwetha'.

12 Bardd preswyl. Wel, 13 erbyn hyn wrth i ni fynd ar ein pennau [head into] i'r ail flwyddyn. Yn addas iawn Llŷr Gwyn Lewis a Dafydd Pritchard oedd beirdd rhif 1 ac 13, gan mai dros baned gyda nhw y ganed y syniad.

11 Y trothwy [threshold] nesaf i bodlediad mwyaf poblogaidd Radio Cymru o bell ffordd yw 11,000. Y podlediad hwnnw? Beti a'i Phobol. Yn y mis diwethaf i'w gyfrif, cafodd y podlediad ei lawrlwytho 10,336 o weithiau.

10 Y 10ed mis, Hydref, oedd y prysuraf o ran lawrlwytho a gwrando eto. Fe aethoch chi ati i wrando ar ein rhaglenni a'n clipiau ni 47,780 o weithiau mewn un mis.

9 Canllaw golygyddol rhif 9 y BBC yw na ddylid camarwain y gynulleidfa fyth. Er mawr chwilio, sgen i ddim ffigwr i gyd-fynd â'r rhif '9' felly yn lle twyllo, ymlaen â ni.

8 O'r gynulleidfa sy'n dewis gwrando ar-lein, 84% sy'n g'neud hynny yn y Deyrnas Gyfunol. Mae'r 16% arall yn gwrando ar raglenni a chlipiau Radio Cymru o bellafion byd. Dim ond y rheiny sy'n gwrando ar y radio yn fyw sy'n treiglo i ffigyrau RAJAR.

7 o ddisgyblion yn Ysgol y Moelwyn ym mis Ionawr ddaeth i'r gweithdy roc... 150 yn y gig yn y p'nawn - a chyfanswm aruthrol o 2,747 o ddisgyblion wedi bod mewn cysylltiad â chriw Taith Ysgolion Radio Cymru yn ystod y flwyddyn.

6 Nifer y siopau llyfrau mae rhaglenni Bore Cothi a Tudur Owen wedi ymweld â nhw flwyddyn diwetha'.

5 521 o ganeuon Cymraeg yn cael pleidlais yn Siart Fawr yr Haf gyda Richard Rees a Lisa Gwilym - pob dim o'r 'Border Bach' gan Jac a Wil, i 'Merched Mwmbai' gan Bromas. Dyma raglen fwyaf poblogiadd y flwyddyn o ran ail-wrando. Gyda llaw 55% o'r rheiny sy'n gwrando ar-lein sy'n gwrando ar gyfrifiadur, tra bo…

4 45% erbyn hyn yn gwrando drwy ffôn symudol neu dabled... Lisa Gwilyn yn cael ei henwi'n gyflwynydd y flwyddyn gwobrau Selar am y 4ydd tro o'r bron… a'r cyntaf o 42 o Straeon Tic Toc i blant bach ar nos Sul yn cael ei ddarlledu.

3 38 cân sydd yng nghategori 'diweddar' cerddoriaeth ddyddiol Radio Cymru - caneuon sydd wedi cael eu rhyddhau yn y 3 mis diwetha' ac sy'n cael eu clywed yn ystod y dydd.

2 foment dorcalonnus y flwyddyn: agor yr e-bost yn adrodd ffigyrau gwrando o 105,000, a cholofnydd yn dechrau brawddeg gyda'r geiriau 'Druan â Betsan Powys'.

Dwi ddim yn cwyno o gwbwl, jest cyfaddef bod tosturi [=pity] fel'na yn swmp [yma 'lump'] yn stumog dyn. Ambell ffaith brafiach felly.

Diolch i dwf mawr yn y flwyddyn ddiwetha', bellach mae Radio Cymru yn cynnig 22 o bodlediadau, a'r defnydd yn gyson gynyddu. Un arall: mae Radio Cymru wedi comisiynu 'sgwennu creadigol i'r orsaf gan 25 o awduron yn ystod y flwyddyn ddiwetha'...

1… a 10 arall wedi addasu nofelau i'w darllen fel Llyfr Bob Wythnos. 1 Meuryn yn ennill cadair steddfod Llanelli… ac mae 'na 1,833 o ganeuon yn y cawg [= bowlen, dysgl] mawr cyfrifiadurol sy'n cael eu chwarae ar raglenni'r dydd ar Radio Cymru.


Ychwanegwch gannoedd eto i restrau C2 a'r penwythnos. Clip unigol mwyaf poblogaidd y flwyddyn? Enillwyr Brwydr y Bandiau C2, Y Trwbz, yn canu 'I Estyn am y Gwn'. Fe wrandawoch chi arno 1,080 o weithiau.

Ac un ffigwr arall i gloi: o Fawrth 2014 i Fawrth 2015, mae 488,280 cais wedi bod i wrando ar raglenni a chlipiau Radio Cymru ar y we - ddim ymhell o hanner miliwn.

I olygydd Radio Cymru, mae ffigwr felly'n awgrymu bod rhaid parhau i warchod y gynulleidfa gwbwl deyrngar [=ffyddlon] honno sy'n dewis troi aton ni drwy'r radio ar fwrdd y gegin, a'r car.

Ond y byddwn i'n wirion i beidio edrych i fyw llygaid y ffigyrau, a sylweddoli eich bod chi'r gynulleidfa hefyd yn newid ac yn fodlon chwilio am Radio Cymru, a gwrando arni, drwy lwyfannau newydd, sydd eto, yn newid bob blwyddyn.

Her arall? Ie - ond cyfle hefyd.