Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Wednesday 25 February 2015

Cariad cyntaf - Meredydd Evans




Mae prydferthwch ail i Eden
Yn dy fynwes gynnes, feinwen,                [meinwen = cariadferch, gair barddonol]
Fwyn gariadus liwus lawen.                        [lliwus - teg yr olwg]
Seren syw, clyw di’r claf.                             [syw = llawen, siriol]


Addo’th gariad i mi heno,
Gwnawn amodau cyn ymado                      [amodau: yma 'vows']
I ymrwymo, doed a ddelo;
Rho dy gred, a dwed y doi.


Liwus lonnach, serch fy mynwes,
Wiwdeg orau ‘rioed a gerais                         [gwiwdeg orau = harddaf]
Mi’th gymeraf yn gymhares;                        [cymhares = partneres]
Rho dy gred, a d’wed y doi.


Yn dy lygaid caf wirionedd
Yn serennu gras a rhinwedd,                      
Mae dy weld i mi’n orfoledd:                        [gorfoledd = llawenydd mawr]  
Seren syw, clyw di’r claf.






Wednesday 18 February 2015

Dr John Davies: Statws y Gymraeg yn y 50au a'r 60au cynnar





Mae’r hanesydd, y darlithydd a’r darlledwr Dr John Davies wedi marw yn 76 oed.

Ei waith enwocaf a phwysicaf oedd Hanes Cymru sy’n cael ei gydnabod fel y gwaith pwysicaf ar hanes y wlad.

Cafodd ei eni yn y Rhondda yn 1938 ond symudodd y teulu i bentref Bwlchllan ger Llanbedr Pont Steffan pan oedd yn saith oed ac roedd yn cael ei adnabod gan lawer fel John Bwlchllan.

Cafodd ei addysg ym Mhrifysgol Cymru, Caerdydd a Choleg y Drindod, Caergrawnt cyn ymuno ag adran hanes Prifysgol Cymru, Aberystwyth.

Roedd hefyd yn warden neuadd breswyl Pantycelyn am nifer o flynyddoedd.  Symudodd i Gaerdydd wedi iddo ymddeol.

Angerdd heintus’

Wrth dalu teyrnged iddo, dywedodd Cyfarwyddwr BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies:

“Fel darlledwr ac academydd, roedd Dr John Davies yn hanesydd eithriadol.

“Llwyddodd nid yn unig i ddod â hanes Cymru a’i phobol yn fyw – fe wnaeth hynny yn ei ffordd liwgar ei hun. Ac roedd ei angerdd heintus yn cyffwrdd a chyfoethogi bywydau cymaint o bobol.

“I unrhyw un sydd o ddifrif eisiau deall y grymoedd sydd wedi llunio – ac sy’n parhau i lunio – ein cenedl, mae ei waith yn cynnig etifeddiaeth anhepgor.”


‘Ysbrydoli cenhedlaeth newydd o ymgyrchwyr iaith’
 
John Davies oedd ysgrifennydd cyntaf Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, ac fe drefnodd brotest gyntaf y mudiad ar bont Trefechan ym 1963.

Dywedodd Sel Jones, Is-gadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:  ”Bu cyfraniad John Davies i’n hiaith, a’r mudiad cenedlaethol yn gyffredinol, yn amhrisiadwy. Athrylith, ysgolhaig, cofnodydd hanes ei bobl oedd a’i draed ar y ddaear. Bydd colled enbyd ar ei ôl.

“Fel ein hysgrifennydd cyntaf, fe oedd yn gyfrifol am sefydlu ein mudiad; ond, yn bwysicach na hynny, fe ysbrydolodd e genhedlaeth newydd o ymgyrchwyr iaith. Pobl sydd wedi llwyddo i gadw’n hiaith yn fyw.  Mae’n cydymdeimlad gyda’i deulu a’i gyfeillion heddiw, ond bydd ein dyled i John Davies – fel ymgyrchwyr iaith ac fel pobl - yn para am byth.”

Diolch i Golwg360. Gweler y stori lawn yma.