Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Saturday 28 June 2014

Celwyddau mae rhieni'n eu dweud wrth eu plant....

Diolch unwaith eto i Ffrwti am hyn.

Dyn ni i gyd wedi profi'r amheuaeth 'na pan fydd rhiant yn dweud wrthon ni bod rhywbeth penodol yn mynd i ddigwydd oni bai ein bod ni, y plentyn, yn bihafio neu'n gwneud fel mae'n rhieni ni'n ei ddweud.

Yn fan hyn, dw i wedi casglu rhai o'r celwyddau dw i wedi'u clywed mewn hanesion gan ffrindiau, teulu ac eraill.

 
"Rhaid i ti fihafio neu fydd Siôn Corn ddim yn dod."
Dyma glasur. Dw i'n siŵr bod y frawddeg hon wedi codi ofn ar gannoedd o blant ledled y byd.



"Paid a llyncu'r gwm cnoi 'na, neu fydd e'n sownd ynddot ti am byth."
Dyna ddeud wrth Mr. Wrigley felly 'te? Mae 'na amrywiadau lu ar y celwydd hwn. Un o fy hoff rai i ydy ei fod y gwm cnoi yn ffurfio gwe yn y stumog sy'n rhwystro bwyd rhag cael ei dreulio.






"Bwyta dy grystia' i ti gael gwallt cyrls."
Dw i ddim yn gwybod o le daw'r resymeg tu ôl i hwn. Hyd y gwn i does 'na ddim tystiolaeth sy'n awgrymu bod crystiau yn gwneud gwallt y sawl sy'n eu bwyta nhw'n gyrliog.



 "Os nad wyt ti a dy frawd/chwaer yn bihafio bydda' i'n eich anfon chi i ysgol breswyl ar y môr."
Oes 'na ffasiwn le yn bodoli? Y cyfan dw i'n gwybod yw bod y frawddeg hon yn codi mwy o ofn arna i na wnaeth bygwth bod Siôn Corn yn mynd i anghofio amdana' i erioed!





"Watsia di, os ti'n tynnu stumia fel 'na neith e sticio rhyw ddydd."

Eto, mi oedd 'na amrywiadau lu ar y celwydd hwn hefyd, un yn cynnwys bod yr anffawd hwn yn taro plentyn pe bai'r gwynt yn newid cyfeiriad ar y pryd.



"Na, pan mae'r miwsig yn chwarae mae'n golygu eu bod nhw wedi rhedeg allan o hufen iâ."
Bechod, cafodd y plant a lyncodd y celwydd hwn gam hufen ia-aidd. Dim 99 na Screwball ar bnawn heulog ar ôl 'rysgol - achos eu bod nhw wedi rhedeg allan o hufen ia. Siom.




"Os byddi di'n pi-pi yn y pwll nofio bydd y dŵr yn troi'n goch."
Sbardun paranoia plentyn sydd â phledren wan. Byddai'n rhaid cymryd trip i'r tŷ bach bob deg munud jyst i sicrhau nad oedd 'drips' yn dod allan.



Un o'r gwersi cyntaf mae rhieni'n ei dysgu i blant yw i beidio â dweud celwydd. Eironig.

Mae'n rhaid codi ein het i rieni yn gyffredinol am fod mor ddyfeisgar gyda'u celwyddau. Er gwaethaf eu celwydd a'u gallu i ddistyllu ofn mae'n nhw wedi ei dweud nhw "er ein lles ni".

Duwcs, dyn ni ddim wedi troi ma's yn rhy ddrwg.

Friday 27 June 2014

Geiriadur Prifysgol Cymru ar lein

Mae cynnwys Geiriadur Prifysgol Cymru bellach i’w gael ar y we (cliciwch yma).

Mae’r fersiwn ddigidol yn cynnwys bron i wyth miliwn o eiriau, gyda geiriau newydd fel ‘cyfrifiadur’, ‘cymuned’ a ‘chyfathrebu’ wedi eu hychwanegu, gan nad oedden nhw’n ymddangos yn y fersiwn brint.

Geiriadur Prifysgol Cymru yw’r geiriadur Cymraeg hanesyddol safonol cyntaf ac fe gafodd ei sefydlu yn 1921 gan Fwrdd Gwybodau Celtaidd Prifysgol Cymru. Gellir ei gymharu’n fras o ran ei ddull â’r Oxford English Dictionary, ond o ran ei fformat mae hanner ffordd rhwng y geiriadur hwnnw a’r Shorter Oxford English Dictionary.



Wednesday 25 June 2014

Mehefin

Canol haf yw ystyr Mehefin. Yr un ma(i) "hanner, canol" sy yn dimai (hanner ceiniog) a Meifod (trigfan ganol). Mae Gorffen-haf ar ei ffordd!

trigfan = preswylfa, lle i fyw

(Diolch i EinCymraeg)

Tuesday 24 June 2014

Tra bo dau


Tra bo dau



Mae’r hon a gâr fy ’nghalon i,                      [a gâr - who loves]
Ymhell oddi yma’n byw
A hiraeth am ei gweled hi
A’m gwnaeth yn llwyd fy lliw.

CYTGAN

Cyfoeth nid yw ond oferedd                          [oferedd - vanity]
Glendid nid yw yn parhau;                            [glendid - beauty]
Ond cariad pur sydd fel y dur,
Yn para tra, tra bo dau

O’r dewis hardd ddewisais i
Oedd dewis lodes lân;                                     [lodes - merch]
A chyn bydd ’difar gennyf fi                            ['difar - edifar - regret]
O rhewi wnaiff y tân.
Cytgan

Mae f’annwyl Rhian dros y lli,-
Gobeithio’i bod hi’n iach-
Rwy’n caru’r tir lle cerdda hi
Dan wraidd fy nghalon fach.

Annibyniaeth i'r Alban?

Gwion Lewis - Rhaglen am yr Alban ac annibyniaeth o bersbectif Cymreig ar Radio Cymru (cliciwch yma).

"Yn groes i'r disgwyl, nid dadl ynglŷn â'r "hunaniaeth" Albanaidd, a sut orau i hyrwyddo "diwylliant" yr Alban a'i phobl, sydd i'w chael yma eleni. Rwy'n cael yr argraff bellach y byddai'r Albanwyr yn gweld y pwyslais hwnnw'n rhyfedd gan nad oes teimlad yma fod y diwylliant cynhenid dan fygythiad. Yma, yn wahanol i Gymru, rhywbeth ar ymylon yr hunaniaeth genedlaethol yw'r iaith frodorol: un paragraff yn unig ym maniffesto refferendwm yr SNP sy'n trafod statws yr Aeleg mewn Alban annibynnol.

hunaniaeth - identity
hyrwyddo - promote
cynhenid - native
ar ymylon - on (the) fringes

"Tybed ai'r rheswm pam nad ydyn ni, eto, yn trafod 'annibyniaeth' yn soffistigedig yng Nghymru yw rhyw duedd i'w weld fel prosiect "diwylliannol" gan leiafrif pitw sy'n obsesiynol ynglŷn ag "achub yr iaith"? Fel y daeth i'r amlwg pan wnes i holi fy nhad fy hun ar gyfer rhaglen gyntaf y gyfres, rhywbeth emosiynol yw "annibyniaeth" i nifer yn y Gymru Gymraeg: ffordd o unioni "cam" y mae'r Cymry Cymraeg, ac yn benodol, yr iaith Gymraeg, wedi ei gael ers canrifoedd o dan "orthrwm" Lloegr.

tuedd - tendency
unioni - put right, rectify
gorthrwm - oppression

"Ond beth pe tasen ni'n tynnu'r iaith a'r diwylliant o'r darlun? Pe bai 'annibyniaeth' yn cael ei gyflwyno yng Nghymru hefyd nid fel ymateb i "erledigaeth", ond cydnabyddiaeth nad yw gwleidyddion un wlad yn fwy medrus, yn eu hanfod, na gwleidyddion gwlad arall, oni fyddai'n trafodaeth genedlaethol ninnau yn fwy aeddfed?"

erledigaeth - persecution
yn eu hanfod - in (their) essence
aeddfed - mature


Carwyn Jones

Tachwedd 2013

Mae Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones wedi galw ar Albanwyr i wrthod annibyniaeth er mwyn aros mewn "Teyrnas Unedig gryf".

Mewn araith yng Nghaeredin nos Fercher, amddiffynodd Mr Jones yr Undeb gan ei ddisgrifio fel y "dewis positif" o'r ddau opsiwn fydd ar gael i Albanwyr yn y refferendwm y flwyddyn nesaf.

araith - speech

Ei gred yw mai "setliad datganoli fydd yn para" yw'r ffordd orau ymlaen.

[setliad - settlement]

Mehefin 2014

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi rhybuddio y gallai annibyniaeth i'r Alban arwain at ansefydlogi gweddill y Deyrnas Unedig - gan arwain at y "perygl mawr" y gallai Lloegr adael Cymru a Gogledd Iwerddon.

Leanne Wood

Mai 2014

Mi fyddai Alban annibynnol yn rhoi hwb i obeithion Cymru o allu llywodraethu ei hun mewn modd ystyrlon, yn ôl arweinydd Plaid Cymru.

ystyrlon - meaningful

Yn ôl Leanne Wood byddai hefyd yn arwain at ragolygon gwell ar gyfer yr economi yng Nghymru ac yn rhoi cyfle i greu amgylchedd cymdeithasol mwy blaengar.

rhagolygon - prospects
blaengar - progressive

 "Mae pobl yn yr Alban gyda chyfle arbennig i benderfynu eu dyfodol eu hunain.

"Mae cyfle go iawn i Gymru fanteisio ar y cyfle yna i wella ein heconomi ac ein gwleidyddiaeth ni.

"Mae'r Ceidwadwyr a Llafur yn gweithio gyda'i gilydd yn erbyn yr Alban ac mae peryg eu bod yn gwneud yr un peth i Gymru er mwyn diogelu pŵer Llundain.

"Cymru'n cefnogi annibyniaeth"

Tuesday 17 June 2014

Deg peth sy'n mynd ar nerfau pobl Gymraeg


Diolch i Ffrwti am hyn!

Mae erthygl Lois Ffrwti hon wedi mynd mwy feiral rownd siaradwyr Cymraeg na mymps yn maes-b. Gwneud be ma'n deud ar y tun.

Ac eithrio'r pethau amlwg fel diffyg parch at yr iaith a chyfieithu gwael, mae 'na sawl peth dw i'n siŵr sy'n mynd ar nerfau'r rhan fwyaf o bobl Gymraeg. Mae'r rhestr hon yn cynnwys deg o'r pethau a ddaeth i fy meddwl i.

1. Rhestr fel hon, sy'n cyffredinoli pethau am Gymru a phethau "Cymreig".

2. Pobl yn gofyn i chi ddweud Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch. Tro nesa, dywedwch wrthyn nhw "Jyst ewch ar youtube de!"

3. Cymryd yn ganiataol mai eich hoff ganwr neu fand yw un o'r canlynol: Tom Jones, Sterephonics neu Manic Street Preachers. Efallai y cewch chi gynnig Catatonia hefyd - os byddwch chi'n lwcus.

4. Y cysyniad fod gan bawb Cymraeg yr un diddordebau.
 

5. Wrth gwrs, os 'da chi'n Gymraeg ac o'r Gogledd eich cyfenw chi ydy Jones, shŵrli. O'r de? Mae'n debygol iawn mai Jenkins ydach chi felly.

6. Y gred gyffredin ymhlith pobl o du hwnt i glawdd Offa mai un acen yn unig sydd yng Nghymru - un cymoedd y De.

7. Y frawddeg...





8. Mae'n debyg bod pob person Cymraeg yn casáu pob person a ddaeth o Loegr ERIOED.
 
9. Mae pob person Cymraeg yn deall ac yn mwynhau rygbi. FFAITH.
 
10. 'The Call Centre' a 'The Valleys' sy'n ein cynrychioli ni ar deledu rhyngwladol. (Diolch i'r nef am Y Gwyll!)

 Mae 'na lawer iawn mwy, dw i'n siŵr. Efallai y cawn ni rownd tŵ yn y dyfodol.






Monday 9 June 2014

I neu u?

I neu u ar ddiwedd geiriau?

• Os oes o/oe yng nghanol berfenw, > i ar y diwedd, e.e. colli; hollti; oeri; poeri
• Os oes a yng nghanol berfenw > u ar y diwedd, e.e. canu; galaru
• Os oes y neu w yng nghanol berfenw > u ar y diwedd, e.e. ffynnu; pydru; cysgu
• Os oes e yng nghanol berfenw > u ar y diwedd, e.e. credu; methu; pechu**
• Os oes w yn agos at ddiwedd berfenw > i sy’n ei ddilyn, e.e. berwi; chwerwi
• Gyda geiriau tebyg eu sain, mae berfenwau fel arfer yn gorffen gydag u, ac
enwau lluosog yn gorffen gydag i, e.e. rhestru (to list), rhestri (lists)

**OND mae eithriadau, e.e.:
peri; geni; mynegi; rhegi; pesgi; medi

Ymarfer

Cywirwch y geiriau mewn print italig os oes angen.

1. Mae nifer o ddiwinyddion blaenllaw wedi trafod araith hanesyddol Martin Luther King a gafodd ei thraddodi ar 28 Awst 1963.
2. Gellir gwneud cais am gymorth i arianni mentrau sy’n cyflawni blaenoriaethau’r llywodraeth.

3. Roeddent yn mynegu pryder y gallai cynifer o ymgeiswyr ‘annibynnol’ holltu’r bleidlais adain chwith yn yr etholiad hwnnw.
4. Mae llawer wedi gwrthwynebu’r cynlluniau diweddar i dylli am nwy yn yr ardal leol.
5. Ers sefydli’r Cynulliad, mae meysydd megis addysg ac iechyd wedi eu datganoli.
6. Y gobaith oedd y byddai’r strategaeth newydd yn lleihau rhestru aros am driniaethau llawfeddygol.

Diolch i Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg