Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Monday 28 April 2014

Geiriau rhyfedd

Embedded image permalinkSwsog   eb  ll  -od

Nid un sy'n swsio, ond gwraig sy'n gwerthu treip. Gwraig sy'n gwerthu treip neu ddarnau o gig wedi eu piclo, hefyd yn ddifrïol (derogatory).

Diolch i Y Geiriadur (Geiriadur Prifysgol Cymru).

Sunday 27 April 2014

Colli Iaith gan Harri Webb

Colli iaith a cholli urddas,                            [urddas - dignity]
Colli awen, colli barddas;                            [celfyddyd cyfansoddi barddoniaeth]
Colli coron aur cymdeithas
Ac yn eu lle cael bratiaith fas.                      [bas - heb fod yn ddwfn]

Colli'r hen alawon persain,                          [persain - pêr ei sain, melodaidd]
Colli'r corau'n diasbedain                            [diasbedain - atseinio, resound]
Colli tannau'r delyn gywrain;                        [cywrain - yn dangos medr arbennig]
Ac yn eu lle cael clebar brain.

Colli crefydd, colli enaid,                            [enaid - rhan ysbrydol unigolyn]
Colli ffydd yr hen wroniaid;                         [gwron -iaid:  pobl ddewr]
Colli popeth glân a thelaid                           [telaid - teg, hardd, rhagorol]
Ac yn eu lle cael baw a llaid.                       [llaid - baw, mwd]

Colli tir a cholli tyddyn,
Colli Elan a Thryweryn;
Colli Claerwen a Llanwddyn                        [cronfeydd dŵr}
A'r wlad i gyd dan ddŵr llyn.

Cael yn ôl o borth marwolaeth
Gân a ffydd a bri yr heniaith;
Cael yn ôl yr hen dreftadaeth                        [etifeddiaeth]
A Chymru'n cychwyn ar ei hymdaith.




Harri Webb (1920-1994) - Bardd Eingl-Gymreig, gweriniaethwr, a chenedlaetholwr.

Ni welai Harri Webb ddim gwahanaieth rhwng swyddogaeth gwleidyddiaeth a llenyddiaeth. Ysgrifennai yn bennaf yn Saesneg ond daeth ei gerdd Colli Iaith a ganwyd gyntaf gan Heather Jones yn rhan o'r gynhysgaeth [=etifeddiaeth] Gymraeg.

Ysgrifennwyd y gerdd toc ar ôl buddigoliaeth Gwynfor Evans yn is-etholiad Caerfyrddin ym 1966.

Heather Jones

Heather Jones


Daeth Heather i amlygrwydd gyntaf a hithau’n ferch ysgol yng Nghaerdydd yn niwedd y 60au. Prin iawn oedd ei Chymraeg bryd hynny ond roedd ei brwdfrydedd dros ganu Cymraeg yn amlwg. Dros y blynyddoedd daeth Heather yn berfformwraig o safon yn y Gymraeg a’r Saesneg ac mae ei recordiau cynnar yn dal eu tir hyd heddiw. Mae ôl dylanwad ei gwr cyntaf, Geraint Jarman a’r athrylith [athyrlith - gallu cynhenid arbennig - genius] o Solfach, ei chyfaill Meic Stevens ar ei chasgliadau, a bu’r tri am gyfnod yn canu fel grwp ‘bwrlesg’ Y Bara Menyn. Mae dawn Heather fel cyfansoddwraig a’i gallu i gyfleu profiadau ei bywyd mewn ffordd onest a dirdynnol [poenus ofnadwy - harrowing] yn rhan fawr o’r gyfrinach dros ei hirhoedledd fel cantores.

(Diolch i Sain

_____________________

Bywgraffiad Heather Jones (BBC Cymru)

Cyn aelod o'r grŵp Bara Menyn a chantores unigol sy'n dal i berfformio. Derbyniodd wobr Cyfraniad Oes BBC Radio Cymru.

Ganed yng Nghaerdydd yn 1949 ar aelwyd ddi-Gymraeg. Mynychodd ysgol gynradd yng Nghaerdydd ac Ysgol Uwchradd Cathays, lle cyfarfu [cyfarfod - gorffennol] â Geraint Jarman



Ymaelododd â'r Urdd tra yr oedd yn yr ysgol, a rhoddodd hyn hyder iddi ddechrau canu yn y Gymraeg. Daeth i sylw Meredydd Evans, pennaeth adloniant ysgafn y BBC ar y pryd, pan enillodd y gystadleuaeth gân bop yn Eisteddfod yr Urdd, Caerfyrddin yn 1967.

Cyn bo hir, roedd yn ymddangos ar gyfresi teledu fel Disc a Dawn a Pinaclau, a bu ganddi gyfres deledu ei hun, Heather, yn y 1990au.

Cyfarfu â Meic Stevens (yn ôl y chwedl) mewn siop sglodion yn y Drenewydd, a gydag ef a Geraint Jarman, ffurfiodd y grŵp Bara Menyn. Bwriad y grŵp oedd cael hwyl am ben grwpiau nosweithiau llawen ddiwedd y 1960au, ond cyn bo hir roedd y band wedi dod yn boblogaidd ledled Cymru ac roedd galw mawr ar iddynt ymddangos ar lwyfannau nosweithiau llawen! Ar bwy oedd y jôc, tybed?!

Ym 1971, rhyddhwyd yr EP 'Colli Iaith' ar label Sain, ei dehongliad iasol [rhywbeth sy'n peri gwefr o ofn neu oerfel] hi o'r gân hon a gysylltir â hi fwyaf. Roedd y 1970au yn ddegawd gynhyrchiol iawn, cyhoeddwyd 'Cwm Hiraeth' (1972), y record hir 'Mae'r Olwyn yn Troi' (1974) a 'Jiawl' (1976.)

Fe'i dewiswyd i chwarae rhan Nia yn yr opera roc Nia Ben Aur, ond erbyn canol y 1970au, blinodd ar ei delwedd fel cantores werin a gyfeiliai [cyfeilio - amherffaith]  i'w hun ar gitâr acwstig.

Symudodd yn fwy at gerddoriaeth roc trwm yn arddull [style] Janis Joplin, ac mae caneuon fel 'Jiawl', 'Cân Janis' a 'Bachgen' yn adlewyrchu'r newid delwedd hwnnw. Serch hynny, nid oedd yn gwbwl gyffyrddus efo'r ddelwedd.

Ar ôl i'w phriodas gyda Geraint Jarman ddod i ben, bu'n canu yn Saesneg mewn clybiau yng Nghymru, ond nid oedd ei chalon yn y gwaith, ac roedd yn well ganddi ganu'n Gymraeg (er iddi recordio rhywfaint o ddeunydd Saesneg i label Decca ddiwedd y 1960au).

Ym 1980 sefydlodd grŵp o'r enw Hin [hin = tywydd] Deg gyda Mike Lease (o'r grŵp Hwntws) a Jane Ridout yn canu caneuon traddodiadol gan berfformio yn yr Unol Daleithau, Ffrainc a Sbaen. Rhyddhawyd CD gan Hin Deg o'r enw 'Lisa Lân' sy'n parhau i fod yn boblogaidd hyd heddiw.


Bellach mae ei phwysigrwydd fel arloeswr yn y byd roc Cymraeg yn ddiogel.

Gyda'i llais cyn gliried â chloch ag erioed, mae Heather yn parhau i fyw yng Nghaerdydd a pherfformio ledled Cymru.

Wednesday 16 April 2014

Bara planc

Embedded image permalinkDiolch i EinCymraeg

Bara llechwan, bara maen, bara prwmlid (Morgannwg),neu fara planc (Cered.) - dyma gyfarwyddiadau gan Minwel Tibbot:

 Embedded image permalink

Sunday 13 April 2014

Wythnos Werin S4C

Mae S4C am ddathlu’r adfywiad cyffrous yn y byd gwerin Cymraeg trwy gynnal Wythnos Werin rhwng dydd Llun, 14 Ebrill a dydd Sul, 20 Ebrill.

Fe fydd yr wythnos o raglenni yn rhoi llwyfan i lond gwlad o berfformwyr cyfoes sy’n tynnu sylw rhyngwladol at gyfoeth cerddorol Cymru.

Bydd Wythnos Werin S4C yn cynnwys y rhaglen gyntaf mewn cyfres bwysig newydd Y Goeden Faled [baled - ballad] sy’n dechrau nos Fawrth, 15 Ebrill pan fydd y gantores Cerys Matthews yn mynd â’r gwylwyr ar daith wrth iddi hel achau [trace the ancestry] rhai o ganeuon gwerin hynaf Cymru. 

Bydd geiriau ac alawon y caneuon yn agor y drws ar hanes a straeon di-ri, ac yn mynd â’r gwylwyr y tu hwnt i ffiniau Cymru a hynny i lefydd tra annisgwyl. 

Mae’r uchafbwyntiau eraill yn cynnwys Noson yng Nghwmni Al Lewis nos Sadwrn, 19 Ebrill lle mae’r cyfansoddwr o Bwllheli, aeth ar daith gyda Jools Holland y llynedd yn perfformio rhai o’i hoff ganeuon.

Ac fe fydd cyngerdd acwstig go arbennig nos Iau, 17 Ebrill pan fydd yr athrylith gerddorol Meic Stevens yn perfformio rhai o’i ganeuon gorau.



Gallwn hefyd fwynhau taith gerddorol a gweledol yn edrych ar y cyfoeth o gerddoriaeth a cherddorion traddodiadol yng Nghymru yn y gyfres ddwy ran newydd Y Ffwrnes Gerdd nos Wener a nos Sadwrn, 18 a 19 Ebrill.

Bydd yr wythnos yn dechrau nos Lun, 14 Ebrill gyda rhaglen o’r 1980au yn dilyn y band gwerin Ar Log ar eu taith o gwmpas America. Nos Fawrth, 15 Ebrill mewn rhaglen o 1986, cawn fwynhau perfformiad o’r Majestic, Caernarfon gan y band Runrig o’r Alban sydd eleni yn dathlu eu pen-blwydd yn 40 oed.

Bydd cyfle arall i ddilyn yr artist eiconig Catrin Finch, wrth iddi olrhain hanes ein hofferyn cenedlaethol, y delyn nos Fercher, 16 Ebrill. Yr un noson, bydd cyfle arall i weld rhaglen deyrnged i’r diweddar Elfed Lewys, y pregethwr, canwr a’r cyfansoddwr a oedd yn un o sefydlwyr Gŵyl Werin y Cnapan.

Yn y rhaglen Gwerin o’r Stiwdio Gefn nos Sul, 20 Ebrill, cawn uchafbwyntiau rhai o berfformiadau gwerin y gyfres Y Stiwdio Gefn.

Wednesday 2 April 2014

Tri lemon

Blog Glyn Adda - Terfyn llwyddiannus

Ddydd Mawrth yr wythnos hon bu’r hen G.A. mewn lle go ddiarth iddo, Llys y Goron,  Caernarfon.
Do, mi eisteddais trwy’r dydd fel aelod o’r cyhoedd yn gwrando ar achos arwyddocaol dros ben. Allwn i ddim bod yno fore Mercher i glywed y diweddglo [finale] llwyddiannus, hanesyddol, ond cefais y newydd da yn fuan wedyn. Newydd da o lawenydd [hapusrwydd, balchder] mawr iawn.

Rhyw fath o achos iaith oedd hwn. Rhyw fath. Ond achos gwahanol i’r cannoedd o achosion a aeth trwy’r llysoedd yn ystod yr hanner canmlwydd diwethaf. Nid oedd a wnelo â thor-cyfraith bwriadol, nac â phrotest o unrhyw fath. Nid oedd a wnelo â dim un o’r mudiadau iaith.  Hyd yma (pnawn Gwener) beth bynnag, nid oes yr un o’r cyfryngau wedi gweld ei arwyddocâd.
                                                              §
Rwy’n siŵr y bydd rhai o’m darllenwyr yn gyfarwydd â golygfeydd bach fel y tair sy’n dilyn, neu wedi bod â rhan mewn ambell un.

CYMERIADAU:    A: cwsmer neu aelod o’r cyhoedd.   B: rhywun mewn siop neu swyddfa.
GOLYGFA 1.
A:   ’Dach chi’n o lew?
B:    I’m sorrey.
A:    Oes gynnoch chi sgidia fatha rhain? (Dangos ei draed.)
B:    I’m English.
A:    (Petruso [bod yn araf yn penderfynu] am funud.  Methu gweld y cysylltiad rhwng yr ateb a’r  cwestiwn. Efallai nad oes cysylltiad.)  Chwilio am bâr o sgidia duon, tebyg i’r rhain.   (Pwyntio at ei draed  eto. Helpu.)
B:     English.
A:     Sgidia.  (Bod yn amyneddgar. Helpu.)
B:     I’m sorrey but I’m English.
A:     Iawn, ia, chwilio am bâr o sgidia …
B:     You have to speak English.
A:     O wel, dyna ni.  (Ei draed, yn yr hen esgidiau,  yn mynd ohonyn eu hunain i  siop arall.)

GOLYGFA 2.
A:      Bore da.
B:      Can I help you?
A:      Galw i weld Mr. Hwn-a-hwn.
B:      English.
A:      Ydi Mr. Hwn-a-hwn i mewn?
B:      Don’t speak Welsh.
A:      (Yn ildio tir, ond trio bod yn glyfar.  Ei Saesneg crandiaf.)  Now is that the indicative or the imperative, would you say?
B:       I’m English.
A:      (Trio gweld rhyw gysylltiad rhwng y cwestiwn a’r ateb. Methu.  Symleiddio wedyn.)   Is that a statement or a command?
B:       You can’t speak Welsh.
A:      (Myfyrio [meddwl yn ddwys] uwchben ystyr y gosodiad.)   How d’you mean, “can’t”?
B:       I’m English.
A:       Hwyl ichi rŵan.  (Mynd allan.)
B:       (Dechrau gwawrio.)   Excuse me … !
A:       (Meddwl.)  Rhy hwyr, ’mechan i.  A stwffio Mr. Hwn-a-hwn hefyd am gyflogi’r fath jolpan.  Digon o dwrneiod [cyfreithwyr] / penseiri / cyfrifyddion / contractwyr  (dewiser) eraill yn y dre ’ma …

GOLYGFA 3.
A:       Gymera’ i dri lemon.
B:       (Dallt dim.)   English.
A:       (Araf. Clir.)   Tri. Lemon.
B:       (Yn y niwl.)    Don’t speak Welsh.
A:       (Amyneddgar.  Positif.  Helpu Dysgwyr.  Dangos â thri bys.)  Tri. Tri. (Dangos eto.) Lemon.
B:       No Welsh.
A:       Wyddost ti be ydi lemon?  (Meddwl, ond ddim yn dweud: Peth ’run  fath â chdi.)
B:       Speak English.  (Mynd i sterics.)
(A. yn mynd i siop arall.)
                                                                                   §
Wel, rhyw olygfa debyg i’r rheina oedd cefndir yr achos.  Ffars, ac eto sobor [difrifol, dwys] o drist.

Bu Richard T. Jones, ffermwr o ardal Pen-y-groes, Arfon, yn fwy cyson a mwy llwyddiannus na’r rhan fwyaf ohonom yn siarad Cymraeg â phawb ac ym mhob math o sefyllfa.  Mae Richard wedi meddwl llawer am y mater, ac wedi astudio’r math o gyflwr meddwl sydd y tu ôl i olygfeydd fel yr uchod.  Efallai bod y darllenwyr yn cofio ambell lythyr ganddo yn y wasg ar agweddau o fywyd Cymru heddiw.
Yn Hydref 2012 aeth Richard ag ychydig nwyddau i siop elusen yn ei ardal, a chyn mynd oddi  yno yr oedd yn barod i brynu dau neu dri o lyfrau hefyd.  Y cyfan i gefnogi’r achos.  Dim math o fwriad i dorri cyfraith na phrotestio mewn unrhyw fodd.  Prin yr oedd wedi gallu cyfarch y rheolwraig na orchmynnodd [gorchymyn - mynnu] hi ef i siarad Saesneg. Aeth Richard ymlaen yn Gymraeg, gan ofyn iddi gadw’r llyfrau ar ei gyfer. Yr un oedd yr ymateb drwy’r ymweliad:  rhaid siarad Saesneg yn y siop hon. Wedi ei droi allan, daeth Richard yn ôl a rhoi  sticeri ar ffenest y siop, yn dweud wrth y cyhoedd beth oedd y polisi iaith. Aeth yno’r eilwaith gydag ychydig roddion, yn barod i brynu gan yr elusen, ond â dyfais recordio.  Yr un ymateb eto.  Dweud ei bod hi am ei fwrw allan yn gorfforol.  Am alw’r heddlu. “Galwa nhw,” meddai Richard. Ymadawodd, ond â’r cyfan erbyn hyn ar dâp.
Yn nes ymlaen ar y dydd galwodd plisman yng nghartref Richard. Ei neges oedd fod y rheolwraig yn dwyn achos yn ei erbyn am aflonyddu [cythryblu - disturb] hiliol sarhaus ac am ei tharo.  Ond roedd y plisman wedi dod i gynnig bargen hefyd: dim ond i Richard arwyddo datganiad nad âi ef i’r siop byth eto, fe ollyngid [gollwng - would be dropped]  yr achos. Gwrthododd Richard ystyried y fargen. Y tâp yn rhedeg eto. Ychwanegwyd cyhuddiad ei fod ef wedi ymosod ar y plisman, a chyn diwedd y dydd arestiwyd ef gan ddau blisman arall.
Gan lusgo ymlaen am yn agos i flwyddyn a hanner, aeth yr achos drwy Lys Ynadon Caernarfon.  Dewis Richard oedd mynd i Lys y Goron, yn gwbl hyderus fod y ddau recordiad yn dangos y gwirionedd.
A thorri’r stori’n fyr, dyna hefyd oedd dyfarniad [barn] y rheithgor ar ôl diwrnod o wrandawiad gofalus, yn cynnwys gwrando fwy nag unwaith ar y tapiau.  Yr oedd y rheolwraig yn meddwl, ac yn dal i gredu, ei bod wedi clywed pethau sarhaus a hiliol. Nid oedd dim arlliw [ôl, arwydd] o hynny yn y recordiad cyntaf, dim ond Richard yn ateb yn ôl yn ddigon teg, ac yn Gymraeg o hyd. Ac yn yr ail recordiad nid oedd dim i awgrymu ymosodiad ar y plisman. Holwyd y rheolwraig a’r plisman gan yr Erlyniad [prosecution] a’r Amddiffyniad:  methwyd â sefydlu unrhyw brawf fod y cyhuddiadau’n wir. Felly: Cyhuddiad 1: Dieuog.  Cyhuddiad 2: Dieuog.  Cyhuddiad 3: Dieuog.
Gobeithio nad yw hyn allan o le nac yn torri unrhyw gôd ymarfer, ond rhaid rhoi’r clod uchaf, yn ogystal ag i Richard ei hun am ansawdd ei dystiolaeth, i gwmni Parry, Davies, Clwyd-Jones a Lloyd, am y modd y trefnwyd yr amddiffyniad, ac i’r bargyfreithiwr Siôn ap Mihangel (gŵr ifanc a chanddo wreiddiau yn ardal Pen-y-groes) am eglurder a rhesymolder ei gyflwyniad.  Llwyddiant nodedig iawn.
Dyma achos, a dyma ganlyniad, y bydd gofyn ystyriaeth fanwl iddo gan:   (1) Y Comisiynydd Iaith, a (2) Comisiynydd Heddlu Gogledd Cymru.  Trueni hefyd nad oes gennym wasg a chyfryngau i ddangos arwyddocâd achos fel hwn yn glir i gyhoedd eang.
Dim ond gobeithio yr â’r neges ar led rywsut neu’i gilydd, ac y cawn yn y dyfodol lai o olygfeydd tebyg i:

A:    Tri lemon.
B:     English.