Ydych chi wedi meddwl rywdro i ble mae’r
rhan fwyaf o’r llygryddion sy’n cael eu harllwys i’r afonydd yn
mynd? Yr ateb yw’r môr. Y môr yw tanc septig mwyaf dyn
ac mae’n ddigon posib bod rhywfaint o’ch gwastraff chi’n cyrraedd
yno nawr.
[arllwys - pour]
Llygredd y môr – yr achosion
Mae llygryddion yn deillio o lawer o ffynonellau amrywiol – o orsafoedd trydan sy’n llosgi glo ac yn rhyddhau tunelli o fetelau trwm, i ffermydd ieir sy’n rhyddhau llawer iawn o amonia.[deillio - cychwyn, llifo allan, tarddu]
Mae llygredd yn digwydd hefyd oherwydd y ffordd rydym yn defnyddio’r môr ei hun – yr enghraifft amlycaf yw cludo tanwydd a cholli olew i’r môr.
Gwyddom yn awr fod y carbon deuocsid a ryddheir gan ein ceir a’n tanau’n newid cyfansoddiad cemegol y moroedd, gan eu gwneud yn fwy asidaidd dros gyfnod o amser. Gallai hyn gael effaith aruthrol ar ecosystem y môr.
[aruthrol - anferth, syfrdanol]
Mae llygryddion soled, fel poteli plastig, yn cyrraedd y môr yn aml hefyd ac yn cael eu cludo o don i don cyn cael eu golchi i’r lan. Yn ôl un astudiaeth ddiweddar go brin bod traeth yn unman yn y byd heb ddarn o blastig wedi’i gynhyrchu gan ddyn arno. Yn y dyfodol pell, pan fydd y dyddodion traeth hyn wedi’u troi’n greigiau, efallai y bydd rhyw ddaearegwr yn adnabod y rhain fel y gorwel plastig/ hydrocarbon, pan ddefnyddiodd dyn mewn llai na mil o flynyddoedd holl hydrocarbonau’r ddaear.
[ dyddodion - dyddodyn - deposit(s)]
Effeithiau
Mae rhai cemegolion, er enghraifft, yn faetholion hanfodol, ond os yw eu crynodiadau’n cynyddu i fod yn llawer mwy na’u gwerthoedd naturiol, gallant droi’n llygryddion niweidiol.[maetholion - maetholyn - nutrient(s)]
[crynodiad - concentration]
Mae nitrad, er enghraifft, yn faetholyn naturiol pwysig sy’n sail i fywyd gwyllt y môr. Fodd bynnag, mae gormod o nitrad yn golygu bod rhai planhigion yn tyfu’n gynt ac yn mynd yn gryfach na’i gilydd gan newid y cydbwysedd ecolegol.
Mae rhai systemau morol yn naturiol isel mewn maetholion ac mae angen inni eu rheoli er mwyn cynnal y cyflwr hwnnw.
Mae cemegolion eraill yn crynhoi yng nghyrff anifeiliaid dros gyfnod o amser a gallant effeithio ar eu gallu i fagu’n llwyddiannus. Mae’n dealltwriaeth ni heddiw o beryglon cemegolion unigol yn llawer mwy nag yr oedd yn y gorffennol, ond ni allwn fyth ddod i wybod am yr holl ffyrdd cymhleth y mae cemegolion yn rhyngweithio gydag amgylchedd y môr. Mae’n bwysig, felly, ein bod yn monitro’r ysglyfaethwyr sydd ar ben y gadwyn fwyd er mwyn cael rhybudd cynnar o’r posibilrwydd bod cemegolion niweidiol yn crynhoi.
[ysglyfaethwr - predator]
Ymateb/addasu
Ers trychineb y Sea Empress yn 1996, pan lifodd olew i’r môr yn agos iawn at y glannau, mae llawer iawn o sylw wedi’i roi i lygredd olew yng Nghymru. Yn wahanol i’r rhan fwyaf o’r llygryddion eraill, mae olew’n hawdd i’w weld a’i arogli. O ganlyniad, rydym yn llawer mwy parod yn awr i ymateb yn fuan ac yn effeithiol i achosion o lygredd olew. Mae’r Llywodraeth wedi datblygu Cynllun Wrth Gefn Cenedlaethol, ac rydym ninnau yn y Cyngor Cefn Gwlad wedi defnyddio’r Cynllun hwn er mwyn datblygu’n systemau ymateb ein hunain a sicrhau ein bod ninnau’n gallu chwarae ein rhan.Fodd bynnag, yng nghyd-destun llygredd y môr, canolbwyntir yn bennaf ar atal yn hytrach nag ymateb. Ein nod yw atal mesur niweidiol o lygryddion rhag mynd i’r amgylchedd. Mae’r rheolyddion wedi gwella’n fawr yn y cyswllt hwn, ac mae’r sylw bellach yn cael ei roi nid yn gymaint i effeithiau angheuol, ond i effeithiau ar agweddau eraill, fel ffrwythlondeb.
[angheuol - yn achosi marwolaeth]
Pwerau Newydd
Daeth Cyfarwyddeb Atebolrwydd Amgylcheddol yr Undeb Ewropeaidd i rym yn Ebrill 2007. Bydd yn darparu mecanwaith er mwyn adfer cynefinoedd dynodedig sydd wedi’u difrodi gan lygredd a gall gosbi os oes esgeulustod neu fethiant i ddilyn trefniadau rheoli llygredd priodol mewn achosion o’r fath.