Ar gyfer heddiw'r bore 'n faban bach, faban bach, Y ganwyd gwreiddyn Iesse 'n faban bach; Y Cadarn ddaeth o Bosra, Y Deddfwr gynt ar Seina, Yr Iawn gaed ar Galfaria 'n faban bach, faban bach, Yn sugno bron Maria 'n faban bach. Caed bywiol ddŵfr Eseciel ar lin Mair, ar lin Mair, A gwir Feseia Daniel ar lin Mair; Caed bachgen doeth Eseia, 'R addewid roed i Adda, Yr Alffa a'r Omega ar lin Mair, ar lin Mair; Mewn côr ym Meth'lem Jiwda, ar lin Mair. Diosgodd Crist o'i goron, o'i wirfodd, o'i wirfodd, Er mwyn coroni Seion, o'i wirfodd; I blygu'i ben dihalog O dan y goron ddreiniog I ddioddef dirmyg llidiog, o'i wirfodd, o'i wirfodd, Er codi pen yr euog, o'i wirfodd. Am hyn, bechadur, brysia, fel yr wyt, fel yr wyt, I 'mofyn am dy Noddfa, fel yr wyt I ti'r agorwyd ffynnon A ylch dy glwyfau duon Fel eira gwyn yn Salmon, fel yr wyt, fel yr wyt, Gan hynny, tyrd yn brydlon, fel yr wyt.
Croeso!
Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.
Tuesday 10 December 2013
Ar gyfer heddiw'r bore
Labels:
cân,
cerddoriaeth
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment