Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Monday 16 December 2013

Stori'r Geni yn y Llyfrgell Genedlaethol

Nadolig llawen i chi i gyd!

Os ewch chi i Aberystwyth cyn y Nadolig, byddai'n werthchweil mynd i'r Llyfrgell Genedlaethol i weld arddangosfa arbennig (erthygl wreiddiol yma).

"A hithau ar drothwy’r Nadolig, mae modd i ymwelwyr â’r Llyfrgell Genedlaethol weld ymddangosiad cyntaf stori’r Geni yn yr iaith Gymraeg.
Llyfr Coch Talgarth
Llyfr Coch Talgarth

Ers mis Hydref, bu ymwelwyr ag Aberystwyth yn mwynhau’r cyfle prin i weld trysorau cynnar llawysgrifol y Gymraeg ochr-yn-ochr â’i gilydd am y tro cyntaf, a hynny yn arddangosfa’r 4 Llyfr: Eiconau Cymraeg Ynghyd. Seren y sioe yw Llyfr Coch Hergest, sydd ar fenthyg o Goleg Iesu Rhydychen, ac sy’n cynnwys trysorau llenyddol seciwlar y Gymraeg, gan gynnwys Canu Llywarch Hen a’r Mabinogi. Ysgrifennwyd rhannau helaeth o Lyfr Coch Hergest rhwng tua 1382 a 1410 gan ŵr o’r enw Hywel Fychan ap Hywel Goch o Fuellt, a hynny ar gyfer noddwr o’r enw Hopcyn ap Tomas ab Einion o Ynysforgan, ger Abertawe. Ond nid dyna’r unig Lyfr Coch sydd yn arddangosfa’r Llyfrgell Genedlaethol eleni.

Lluniwyd Llyfr Coch Talgarth yntau ar drothwy Gwrthryfel Glyndŵr, eto gan Hywel Fychan, ond y tro hwn ar gyfer Rhys ap Thomas ab Einion, brawd i noddwr Llyfr Coch Hergest. Testunau crefyddol a geir yn y gyfrol femrwn o Dalgarth, ac mae’n llai o faint na’i chyfnither fawreddog o Hengwrt. Ar gyfer arddangosfa’r 4 Llyfr, agorwyd Llyfr Coch Talgarth i ddangos cyfieithiad i’r Gymraeg o hanes ymweliad Gabriel â Mair, hanes a gofnodir ym mhennod gyntaf yr Efengyl yn ôl Luc. Credir mai dyma’r copi cynharaf a erys o hanes y Geni yn y Gymraeg, wedi ei ysgrifennu ymron i ddwy ganrif cyn cyhoeddi Testament Salesbury a Beibl William Morgan.

Gobaith y Llyfrgell yw y bydd ymwelwyr â’r arddangosfa yn ceisio darllen geiriau’r llawysgrif, ac i’w cynorthwyo i wneud hynny, cyhoeddir y testun isod (wedi ei ddiweddaru rhyw ychydig):
Rhybudd Gabriel i Fair
Rhybudd Gabriel i Fair

Rhybudd Gabriel at Fair, pan ddisgynnodd Iesu Grist yn ei bru:
Fe anfonwyd Gabriel angel, gan Dduw, i ddinas Galilea, yr hwn oedd ei enw Nazareth, at wyry briod i ŵr, yr hwn oedd ei enw Joseff o lwyth Dafydd (sef yw hynny o dylwyth Dafydd). Ac enw y forwyn oedd Mair. A myned i mewn a oruc [wnaeth] yr angel ati, a dywedyd wrthi,

“Henffych well Fair, gyflawn o ras, y mae yr Arglwydd gyda thi. Bendigedig wyt ti ymhlith y gwragedd …”

Maredudd ap Huw

Saturday 14 December 2013

Anerchiad - Cymraeg i Oedolion



Anerchiad i Rali Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

14 Rhagfyr 2013

 Embedded image permalink

Bore da Gyfeillion. Dw i wedi dod â llythyr agored at Mr Huw Lewis, Gweinidog Addysg sydd hefyd yn gyfrifol am Gymraeg i Oedolion.
Os ŷch chi’n meddwl am Gymraeg i Oedolion, mae’n debyg byddwch chi’n meddwl am rywbeth tebyg i’r Ddau Ffrank – pobl od sy’n mynd ati i ddysgu Cymraeg fel hobi – ond nid hobi yw e.

Y gwir amdani yw bod pob math o bobl yn gweithio'n galed iawn am flynddoedd mawr i wella eu sgiliau Cymraeg nhw.

Dyma i chi rai enghreifftiau, Mr Lewis.

Mae Andrea’n gweithio fel therapydd lleferydd ac iaith, ac mae’r rhan fwya o’i chleifion wedi cael strôc. Doedd dim lot fawr o Gymraeg ‘dag Andrea ar y dechrau, ond mae hi’n cofio dweud “Bore da, sut ŷch chi heddi Mrs Williams” i fenyw oedd wedi cael strôc mewn pentre yng ngogledd Sir Benfro. Dyna oedd y tro cynta wnaeth Andrea siarad Cymraeg tu fa’s i’r dosbarth. Llefain wnaeth Mrs Williams wrth glywed y geiriau bach ‘na. Anghofith Andrea byth y profiad 'ma.

Erbyn hyn, mae Andrea’n hollol rugl.

Mae Helen yn gweithio mewn cartref gofal gyda chanran uchel o bobl sy’n diodde o Alzheimers a demensia. Mae Helen yn deall pa mor bwysig yw gallu siarad â nhw yn eu hiaith eu hunain.

Mae Kirsty yn gweithio fel bydwraig, ac mae Rachel a Claire yn gweithio mewn ysgolion – maen nhw i gyd eisiau croesi’r bont a byw yn Gymraeg. 

Ife hobi yw Cymraeg i Oedolion 'te?

Diolch i’w dosbarthiadau Cymraeg, mi gaeth Sam waith mewn caffi lle mae’r rhan fwya o’r cwsmeriaid yn siarad Cymraeg.

Mae Gareth yn rhedeg busnes bach yng Nghrymych. Weldiwr yw e, ac erbyn hyn mae’n swnio fel Cardi go iawn. Ma’ fe mor falch o’r ffaith fod e’n gallu helpu ei blant a siarad â’i gwsmeriaid yn Gymraeg. Mae Gareth wedi cymathu a dod yn rhan o’i gymuned.

Mae ‘na ganoedd o rieni sy’n dysgu er mwyn helpu eu plant yn yr ysgol efo darllen, sgwennu a’r gwaith cartref. 

Ife hobi yw dysgu Cymraeg iddyn nhw?

Mae cant a mil o Gymry sydd â chryn dipyn o Gymraeg o dan yr wyneb. Saesneg oedd iaith yr aelwyd i’r rhan fwya, ond yn aml iawn diffyg hyder yw’r broblem fwyaf. Dw i’n cofio Jeff sy’n gweithio fel plismon. Un o Lanelli yw e gydag acen hyfryd Tre’r Sosban. Ar unwaith ar ôl ‘chydig o wersi dechreuodd Jeff siarad Cymraeg fel pwll y môr. Dim ond sbardun bach gaeth e.

Ie, mae cant a mil o bobl fel ‘na, ond yn ôl y Cyfrifiad dyn nhw ddim yn cyfri.

Mae pob un o’r dysgwyr ‘ma yn deall pwysigrwydd yr iaith Gymraeg, ac maen nhw i gyd eisiau dod yn siaradwyr Cymraeg. “W i moyn bod yn gobby yn Gymraeg” meddai rhywun wrtha i yn ddiweddar, a phob lwc iddi.

Tra bod Gwlad y Basg yn gwario £38 miliwn ar Fasgeg i Oedolion bob blwyddyn, mae Cymru yn gwario ond £12.6 miliwn ar Gymraeg i Oedolion, ac mae rhaglen Gwlad y Basg yn fwy uchelgeisiol o lawer.

Yn lle buddsoddi yn nyfodol iaith ein cymunedau, mae Mr Lewis wedi penderfynu gwneud toriadau o 8% i’r rhaglen Cymraeg i Oedolion flwyddyn nesa.

Dyma i chi ymateb ein llywodraeth ni i’r argyfwng sy’n wynebu’r iaith Gymraeg.

Pam bo' chi’n cloi pobol ma’s, Mr Lewis? Pam bo' chi’n neud hyn? 

Pam?

Tuesday 10 December 2013

Ar gyfer heddiw'r bore

 
 
 
Ar gyfer heddiw'r bore
  'n faban bach, faban bach,
Y ganwyd gwreiddyn Iesse
  'n faban bach;
Y Cadarn ddaeth o Bosra,
Y Deddfwr gynt ar Seina,
Yr Iawn gaed ar Galfaria
  'n faban bach, faban bach,
Yn sugno bron Maria
  'n faban bach.

Caed bywiol ddŵfr Eseciel
  ar lin Mair, ar lin Mair,
A gwir Feseia Daniel
  ar lin Mair;
Caed bachgen doeth Eseia,
'R addewid roed i Adda,
Yr Alffa a'r Omega
  ar lin Mair, ar lin Mair;
Mewn côr ym Meth'lem Jiwda,
  ar lin Mair.

Diosgodd Crist o'i goron,
  o'i wirfodd, o'i wirfodd,
Er mwyn coroni Seion,
  o'i wirfodd;
I blygu'i ben dihalog
O dan y goron ddreiniog
I ddioddef dirmyg llidiog,
  o'i wirfodd, o'i wirfodd,
Er codi pen yr euog,
  o'i wirfodd.

Am hyn, bechadur, brysia,
  fel yr wyt, fel yr wyt,
I 'mofyn am dy Noddfa,
  fel yr wyt
I ti'r agorwyd ffynnon
A ylch dy glwyfau duon
Fel eira gwyn yn Salmon,
  fel yr wyt, fel yr wyt,
Gan hynny, tyrd yn brydlon,
  fel yr wyt.

Canu Plygain

Erthygl wreiddiol ar wefan Amgueddfa Cymru yma.

Bore'r Nadolig

Mewn amryw rannau o Gymru, golygai'r Nadolig godi'n gynnar (neu aros i fyny dros nos) i fynd i'r gwasanaeth plygain yn eglwys y plwyf. Ymddengys i awr gychwyn y plygain amrywio rhwng tri a chwech y bore, a'r olaf o'r rhain yn dod yn fwy cyffredin gyda threigl amser.

I aros y gwasanaeth byddai pobl ifanc, yn enwedig, yn ceisio llenwi'r oriau mewn rhyw ffordd neu'i gilydd. Mewn ambell ardal gefn gwlad doent ynghyd mewn rhai ffermdai ar gyfer gwneud cyflaith {toffee} a threulio'r noson yn llawen, gan addurno'r tai â chelyn ac uchelwydd, fel ym Marford, sir Fflint, yn y 1830au. Yn ôl dyddiadur Mrs. Thrale o daith yn 1774 cynheuai trigolion Dyffryn Clwyd eu goleuadau am ddau y bore, a chanu a dawnsio i'r delyn tan y plygain.

Mewn mannau eraill, yn arbennig drefi gwledig, treulid yr amser yn chwarae ar hyd y strydoedd. Yn Ninbych-y-pysgod, sir Benfro, er enghraifft, ceid torfeydd yn cario ffaglau, bloeddio penillion a chwythu cyrn buchod, cyn terfynu drwy ffurfio gorymdaith ffaglau lle'r eid â'r rheithor o'i dy i'r eglwys gan wyr ifainc y dref. Cofnodwyd gorymdaith debyg yn Nhalacharn, sir Gaerfyrddin, a hefyd Lanfyllin, sir Drefaldwyn, lle y defnyddid canhwyllau yn lle ffaglau.

Canhwyllau Plygain

Yng nghefn gwlad mynychid plygain eglwys y plwyf gan bobl y ffermydd mwyaf anghysbell, hyd yn oed. Yn aml deuai pob unigolyn â'i gannwyll i gynorthwyo i oleuo'r eglwys - hyd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, anghyffredin oedd cynnal gwasanaethau nos, fel nad oedd unrhyw ddarpariaeth oleuo, fel arfer. Yr oedd y goleuni llachar a roddai canhwyllau'r plygeinwyr yn nodwedd bwysig ar yr wyl.

Yn Llanfyllin, ynghanol y ganrif o'r blaen, gwneid 'canhwyllau plygain' arbennig gan fasnachwyr lleol. Ar gyfer y gwasanaeth addurnid y tu mewn i'r eglwys â chanwyllerni crog yn dal canhwyllau lliw ac, yn Nolgellau, er enghraifft, wedi eu gwisgo â chelyn. Ym Maentwrog, sir Feirionnydd, yr oedd canhwyllau hefyd 'wedi eu gosod mewn tyllau ymhen polion neu byst ysgafn a sicrheid wrth gôr yma ac acw yn yr adeilad.' Yn Llanfyllin 'goleuid yr adeilad â rhai cannoedd o ganhwyllau, wedi eu 1leoli fodfeddi er wahân, o gwmpas y muriau y tu mewn, gan beri i'r adeilad ddisgleirio.' Ym Maentwrog, y 'carolwyr a ganai yn yr oriel fechan ym mhen-y-twr i'r eglwys' a deuent â'u canhwyllau eu hunain, gan ei bod yn rhy dywyll yn y rhan honno o'r adeilad i ddilyn y gwasanaeth yn y Llyfr Gweddi Cyffredin.

Er yn ddiau i'r arfer amrywio ychydig o blwyf i blwyf, ymddengys i oleuni llachar yr eglwys wneud argraff barhaol ar gof y rhai a adawodd inni ddisgrifiadau, ac iddo fod yn nodwedd drawiadol ar y plygain traddodiadol. Fel yr awgrymodd Gwynfryn Richards, gellir canfod yn yr arferion hyn arwyddocad ysbrydol goleuo canhwyllau ar y Nadolig fel sumbol o ddyfodiad Goleuni'r Byd.

Goroesiad cyn-Ddiwygiad

O'i weld yn ei gefndir hanesyddol, goroesiad yw'r plygain o wasanaeth Nadolig cyn-Ddiwygiad a addaswyd i ateb yr amgylchiadau Protestannaidd newydd. Dengys Richards fod 'plygain' yn yr unfed ganrif ar bymtheg yn dynodi gwasanaeth boreol cyffredin ac mai'n ddiweddarach yn unig y'i cyfyngwyd i gyfeirio at y gwasanaeth bore Nadolig. Awgryma i'r plygain ddisodli offeren ganol-nos Nadolig y cyfnod Pabyddol ac iddo gysylltu'n wreiddiol â gwasanaeth cymun a gynhelid yn ddiweddarach ar fore Nadolig. O leoli'r gwasanaeth cymun am wyth o'r gloch diweddwyd yr hen berthynas rhwng y plygain (boreol) am chwech, saith neu wyth o'r gloch a'r Uchel-Offeren am naw neu ddeg o'r gloch.

Wedi'r Diwygiad, lle nas cynhwyswyd yng ngwasanaeth Nadolig Lladin yr eglwys, derbyniwyd canu carolau yn yr iaith lafar i wasanaeth bore-bach y Nadolig, a daeth yn atyniad pennaf y plygain, fel y dengys disgrifiadau'r ganrif o'r blaen yn eglur. Tynnodd John Fisher sylw at y tebygrwydd rhwng Oiel Verrey, a geid ar Ynys Manaw am ddeuddeg ar Noswyl Nadolig, a'r plygain yng Nghymru. Dengys i'r ddau wasanaeth ennill poblogrwydd fel gwyliau canu carolau yn fuan wedi cyfieithu'r Beibl i'r ddwy iaith frodorol.
Yn lle diflannu o dan ddylanwad Anghydffurfiaeth yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, bu'r plygain yn un o'r ychydig wyliau eglwysig traddodiadol nas gollyngwyd gan y capeli, er newid cymeriad y gwasanaeth weithiau, drwy ei wneud yn amrywiad ar y cwrdd gweddi cyffredin a geid ar nosau gwaith. Fel arfer cyffredinol, darfu plygain boreol y Nadolig tua diwedd y ganrif ddiwethaf, er iddo barhau'n ddiweddarach mewn ambell achos.

Canu Plygain yng Ngogledd Cymru

Yn y gorffennol, 'roedd y traddodiad o ganu carolau yn gryf trwy bob rhan o'r gogledd. Erbyn heddiw, fodd bynnag, pery'r traddodiad ar ei fwyaf bywiog yn yr ardal a amgylchynir gan Fallwyd, Llanerfyl, Cefnyblodwel (yn Lloegr) a Llangynog. I ddieithryn, profiad anghyffredin yw mynd i blygain yn yr ardaloedd hyn. Am awr a hanner i ddwy awr, bydd trefn y cyfarfod yn gyfangwbl yn nwylo'r carolwyr. Nid oes cyflwynydd nac arweinydd. Ni ddywed neb yr un gair, eithr cyfyd y partion yn eu tro gan gerdded ymlaen yn dawel a phwyllog i'r "sgwâr" i ganu. Ar gyfartaledd bydd o ddeg i bedwar ar ddeg o bartion yn bresennol. Fe glywir o ugain i ddeg ar hugain o garolau yn ystod y gwasanaeth, y cwbl yn Gymraeg a'r cwbl hefyd yn wahanol, gan ei bod yn egwyddor osgoi ailganu unrhyw garol.

Tuesday 3 December 2013

Colli'r Plot

Daw limpin o linch-pin, y pin sy'n dal olwyn yn ei lle ar echel. "Colli limpin" = gwylltio, colli rheolaeth (fel cerbyd wedi colli limpin).

(Diolch i Ein Cymraeg)

Hwyl ar dreiglo!

Y Treiglad Meddal fel dych chi erioed wedi ei weld e o'r blaen.....


Monday 2 December 2013

Toriad o 8% i'r rhaglen Cymraeg i Oedolion

Golwg 360

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi beirniadu penderfyniad Llywodraeth Cymru i wneud toriadau i’r rhaglen Cymraeg i Oedolion gan rybuddio y bydd yn arwain at lai o siaradwyr Cymraeg.

Fe gyhoeddodd y Prif Weinidog Carwyn Jones a’r Gweinidog Addysg Huw Lewis heddiw y bydd toriad o 8% ar gyfer y rhaglen Cymraeg i Oedolion y flwyddyn nesaf.

Mae’r rhaglen Cymraeg i Oedolion yn darparu cyfleoedd i oedolion ddysgu Cymraeg yn eu cymunedau lleol, yn eu gweithleoedd neu gyda’u teuluoedd, i’w galluogi i ddefnyddio’r iaith.

Wrth gyhoeddi’r toriad dywedodd Llywodraeth Cymru: “Yng ngoleuni’r setliad ariannol presennol, byddai’n anodd amddiffyn y rhaglen Cymraeg i Oedolion rhag unrhyw doriadau.

“Felly, awgrymir y bydd toriad dangosol o 8% ar gyfer y rhaglen Cymraeg i Oedolion.  Gan fod y rhaglen Cymraeg i Oedolion yn allweddol i gynyddu nifer yr oedolion yng Nghymru sy’n gallu siarad a defnyddio’r Gymraeg, a gan fod yr adolygiad o’r rhaglen Cymraeg i Oedolion wedi’i gyhoeddi gan gynnwys nifer o argymhellion i wella’r ddarpariaeth, rydym wedi cymryd camau i gadw’r toriadau i isafswm.”

‘Trychinebus’

Ond dywedodd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg Robin Farrar: “Mae’n newyddion trychinebus. Mae’r Gymraeg yn wynebu argyfwng; mae hynny’n glir o ganlyniadau’r Cyfrifiad. Beth yw ymateb Llywodraeth Cymru? Toriadau i ddarpariaeth sy’n cynhyrchu mwy o siaradwyr, er bod ymgynghoriad y Llywodraeth ei hun wedi argymell mwy o fuddsoddiad. 

“Mae Llywodraeth Cymru wedi methu â blaenoriaethu’r Gymraeg, a dylai Aelodau’r Cynulliad wrthwynebu’r penderfyniad hwn. Bydd pob Aelod Cynulliad sy’n methu â phleidleisio yn erbyn y gyllideb wythnos nesaf yn caniatáu toriadau ­-  toriadau a fydd yn niweidiol i iaith unigryw Cymru.”

Dywedodd llefarydd addysg Plaid Cymru, Simon Thomas: “Mae disgrifio dysgu Cymraeg i Oedolion fel un o brif flaenoriaethau’r Llywodraeth ac yna gwneud toriadau sydd bedair gwaith yn fwy na’r gostyngiad yn y gyllideb yn dangos diystyrwch tuag at oedolion sy’n dysgu’r iaith.”


Argymhellion

Wrth gyhoeddi ei hymateb i’r adolygiad o raglen Cymraeg i Oedolion gan y Grwp Adolygu  dywed Llywodraeth Cymru y bydd yn symud ymlaen i wireddu’r argymhellion a wnaed. Mae’r rhain yn cynnwys:
  • lleihau nifer y darparwyr o’r 27 presennol i rhwng 10 a 14;
  • ail-ystyried y model cyllido craidd ar gyfer darpariaeth Cymraeg i Oedolion i gyd-fynd â’r adolygiad o’r system cynllunio ac ariannu ôl-16;
  • gwneud newidiadau i’r prosesau asesu ac achredu;
  • ail-edrych ar y cwricwlwm i sicrhau ei fod yn addas i’r diben; ac
  • ymgymryd ag elfennau eraill o’r gwaith datblygu sy’n cynnwys strategaeth farchnata genedlaethol, y defnydd o e-ddysgu, darpariaeth Cymraeg yn y Gweithle a gweithgareddau dysgu anffurfiol.
‘Anwybyddu’r dystiolaeth’ 

Wrth gyfeirio at yr adolygiad, dywedodd Robin Farrar:  “Yn ein hymateb i’r adolygiad, gofynnon ni am newidiadau i’r system, ond rhagor o fuddsoddiad hefyd. Dyna oedd casgliad ymgynghoriad y Llywodraeth ei hunan – y Gynhadledd Fawr. Ond mae’n debyg bod Carwyn Jones wedi anwybyddu’r dystiolaeth yma’n llwyr.”

Mae’r Gymdeithas wedi rhoi tan Chwefror 1 i’r Prif Weinidog ddatgan ei fwriad i weithredu mewn chwe maes polisi er mwyn sicrhau bod y Gymraeg yn tyfu dros y blynyddoedd i ddod. Bydd y grŵp pwyso yn cynnal rali yn Aberystwyth ar Ragfyr 14, blwyddyn ers cyhoeddi canlyniadau’r Cyfrifiad, “er mwyn atgoffa’r Llywodraeth o’r cyfrifoldeb sydd arnyn nhw i weithredu.”