Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.
Mae ‘Hapus i Siarad’ yn cynnig cyfle i siaradwyr Cymraeg o
bob lefel o ddysgwyr i rhai rhugl yn yr iaith i ddod at ei gilydd a
siarad Cymraeg mewn sefyllfaoedd bob dydd.
Cynhelir ein digwyddiad cyntaf ar Ddydd Sadwrn, 25 Mai 2013
mewn caffis, tai bwyta, siopau, banciau, orielau, theatrau ac
amgueddfeydd yn nhref Aberteifi, Ceredigion ac yn Llandudoch, pentref cyfagos sydd yn Sir Benfro.
Mae ‘Hapus i Siarad’ yn gyfle i fynd allan, mwynhau siopa, bwyta a darganfod mwy am Aberteifi a Llandudoch a mwynhau siarad Cymraeg fel rhan o’r profiad.
Mae Llywodraeth Cymru am wella’r
gwasanaethau i siaradwyr Cymraeg, fel ei bod yn cwrdd â’u hanghenion nhw a
hefyd gwneud yn siŵr eu bod yn cael y gofal gore posib. Mae’n golygu y bydd y gwasanaethau
trwy’r broses ofal i gyd ar gael yn Gymraeg, felly fe fydden nhw’n gallu
defnyddio’r iaith sy’n gallu dod yn naturiol iddyn nhw i gyfleu eu hanghenion
yn llawer mwy effeithiol.
Fe fydd pawb yn elwa - y defnyddiwr,
teulu, gofalwyr, a hefyd y gwasanaethau i gyd; iechyd gofal a chymdeithasol.
Mae tystiolaeth ymchwil a gynhaliwyd
yn 2011 yn dangos mai ar sail galw yn hytrach nag angen y mae gwasanaeth
Cymraeg yn cael ei ddarparu ar hyn o bryd. Mae’r rhan fwyaf o achosion yr
ymchwil yn dangos fod yna ddiffyg cydraddoldeb, beth bynnag fo oedran y defnyddiwr.
Gwenan Prysor
Sgript
Mae Gwenan Prysor yn disgrifio’r
amser hwnnw pan geson nhw wybod bod eu mab yn diodde o lewcemia, a’r berthynas
a ddatblygodd rhyngddi hi a’r nyrsys oedd yn siarad Cymraeg yma yng Nghymru a
hefyd yr ochr draw i’r ffin yn Ysbyty Alder Hay
Wel y sefyllfa oedden ni
ynddo oedd bod Deio wedi cael ei ddiagnosio efo lewcemia, a odden ni’n derbyn
gwasanaeth yn Glan Clwyd a hefyd yn Alder Hay yn Lerpwl. Be ddigwyddodd o ran
yr iaith Gymraeg oedd, chi’n gwybod, cymysgedd wir. Yn Glan Clwyd roedd ‘na
dipyn o staff yn siarad Cymraeg yna, ond yn Lerpwl hefyd, yn Alder Hay mi oedd
‘na chydig o staff yn siarad Cymraeg, ac oedd rhywun yn gallu ffeindio nhw
allan yn reit fuan - oedd yn enwa ni wrth gwrs yn awgrymu ‘yn bod ni’n dod o
Gymru, a oedd ‘na amball i nyrs yn gweithio ar y ward, a hefyd oedd un o’r
doctoriaid oedd ddim yn gweithio’n uniongyrchol efo ni, ond mi oedd o’n siarad
Cymraeg, ac oedd hynny’n rhoi ryw deimlad mwy cartrefol rhywsut, ‘fatha bod ‘na
bobl yn ‘yn dallt ni ac yn ymwybodol o’n cefndir ni ella ynde.
Yr effaith o ran defnydd
o’r Gymraeg oedd bod rhywun yn teimlo yn mwy cartrefol, ac yn teimlo bod rhywun
yn medru rhoi ei stori drosodd yn gliriach. Ond dwi ddim isio awgrymu bod rhaid
i bawb yn y gwasanaeth iechyd siarad Cymraeg achos yn un peth fydd hwnna byth
yn mynd i ddigwydd. Ond hefyd, mae ‘na rôl i bobl sy’ ddim yn siarad Cymraeg o
fewn y Gwasanaeth Iechyd achos ma’ na bosib dallt pobl heb siarad yr iaith, ond
wrth fod yn sensitif a helpu pobl allu cyfleu be ma nhw isio gyfleu yn gliriach
‘lly.
On i yn teimlo bod bobl
heb ddigon o hyder i siarad Cymraeg ac oherwydd bod gen i ddiddordeb yn y pwnc
yma o’n i’n trio gneud o’n haws iddyn nhw a deud dio’m yn bwysig be ‘di lefel
eich Cymraeg chi, nid arholiad Cymraeg ydi hwn, ond ffordd o neud person bach
chwech oed i demlo’n mwy cartrefol mewn lle diarth iawn, a mewn ffordd bo’
nhw’n sylweddoli ‘na nid amdan eu hanghenion nhw a’u defnydd nhw o’r Gymraeg
mae’r Gwasanaeth Iechyd ond am neud profiad cleifion mwya’ bregus cymdeithas yn
teimlo’n fwy cartrefol mewn sefyllfa o bryder ac ofn mae’n debyg.
O’n i’n treulio lot o
amser ar y ward yn Ysbyty Glan Clwyd - nyrsys yn deud ‘O, ‘di Nghymraeg i ddim
digon da’ ac o’n i’n deud ‘thyn nhw mewn ffordd mwya ffeind fedrwn i ‘lly,
‘dydi hwn ddim amdanach chi wir, ma’ hwn amdan ‘yn hogyn bach i angan y
gwasanaeth gora fedar o gael’, a wedyn trio defnyddio hynny o sgilia’ iaith
sydd gynnyn nhw, mor fychan ne’ mor ddiffygiol ydi hwnnw yn eu barn nhw. Mae
‘chydig iawn yn helpu lot i jest torri’r ffinia’ ‘na lawr a neud i bobl
deimlo’n gartrefol, achos hwnna wedyn ‘di’r allwedd i gynnig gwasanaeth a gofal
o safon uwch.
Hywel Jones
Mae gan
wraig Hywel Jones Alzheimers, ac mae Hywel wedi cael profiad uniongyrchol o
ddelio gyda’r gwasanaethau gofal, wrth iddyn nhw chwilio am gartref addas i
Siân ei wraig
Fy sefyllfa bersonol i
ydi bod fy ngwraig, Siân, yn diodde o dementia cynnar. Mae hwn yn bwnc anodd
oherwydd mae’n rhaid gwahaniaethu rhwng y gwasanaethau arbennig ‘da ni wedi’u
derbyn fel teulu, a’r gwasanaethau ddyle fod ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae’r gwasanaeth
cefnogol yn y cartref wedi gallu darparu drwy gyfrwng y Gymraeg, Crossroads gan
bennaf, tan cafodd Siân ofal mwy hirdymor, sef bore a phnawn. Doedden ni ddim
yn gallu cael person Cymraeg drwy’r dydd bob dydd. Ac yn anffodus o’n i’n
teimlo fod cael rhyw fath o gysondeb yn y person oedd yn dod i weld Siân yn
bwysicach efalle na thorri y gofal Cymraeg a’i rannu fo rhwng Cymraeg a Saesneg
gwahanol bobl. Felly fe fu’n rhaid i ni benderfynu, na, fe sticiwn ni efo’r
ofalwraig yma oherwydd mae ganddi berthynas dda hefo Siân ac mae hi hefyd yn
gwybod sut mae Siân yn meddwl ac yn gweithio a be mae hi eisio, er nad ydi hi’n
siarad Cymraeg.
A nawr dyma ni bellach
yn symud ymlaen i’r cam nesaf rwan i geisio chwilio am gartref gofal i Siân.
‘Da chi wir wedi ceisio dod o hyd i gartref gofal? Mae’n broses erchyll. ‘Sna’m
un rhestr ganolog i gael. Does ‘na ddim un. Oni bai mod i’n credu mor gry’,
falla bydden ni’n '..ia, iawn', a dwi'n gweld aml i deulu sy'n '..ia,’ achos
bod y gofal. Na, dydi’r sefyllfa ddim yn iawn. Dwi’n cofio un enghraifft bach -
mynd i gwarfod efo Siân o’n i. Ym, do you want a cup of tea Mr beth bynnag oedd
o, ac oedd ei wraig o hefo fo. ‘Be wedodd e nawr?’ Chi'n gwbod? Ddyle hynna ddim
digwydd.
Gostegu – to abatedibrisio
– depreciate, underestimate
Brechiad – vaccinationbraw
– terror, scare
Brechu – to vaccinatebrechlyn
- vaccine
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi bod 78 o achosion
newydd o’r frech goch wedi eu cofnodi ers dydd Iau.
Mae’r nifer sydd wedi dal yr haint bellach wedi cyrraedd 886
ac mae’r awdurdodau’n annog rhieni i sicrhau bod eu plant yn cael eu brechu ar
frys.
Mae 80 o bobol wedi derbyn triniaeth yn yr ysbyty ers i’r
haint ddod i’r golwg. Mae profion yn cael eu cynnal ar ddyn 25 oed o Bort
Tennant a fu farw wythnos ddiwethaf i weld ai’r frech goch oedd achos ei
farwolaeth.
Dim arwydd fod y frech yn gostegu
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhybuddio nad oes arwydd fod
yr haint yn gostegu, a bod nifer yr achosion o’r frech yn uchel hefyd yn
Nghastell Nedd Port Talbot a gogledd Powys.
Canmolodd Dr Marion Lyons o Iechyd Cyhoeddus Cymru ymateb
“arbennig” rhieni dros y pedair wythnos ddiwethaf.
“Rydym ni’n gweld pobol yn dod yn eu miloedd i glinigau brys
a meddygfeydd ar gyfer brechiadau,” meddai.
“Mae dal angen
brys i frechu mwy o blant os ydyn ni am roi stop ar yr haint. Mae’r grŵp oedran
10-18 yn fregus felly ry’n ni’n atgoffa’r bobol ifanc a’u rhieni mai nawr yw’r
amser i gael brechiad.
“Ry’n ni wedi
gweld dros y dydddiau diwethaf fod y frech goch yn gallu bod yn farwol a dylai
neb ddibrisio pa mor ddifrifol yw’r haint. Mae’n gallu lladd ond mae’r bosib ei
atal gydag un brechiad syml, sâff.”
Pryderon am
werthu brechiad sengl
Mae Aelod
Cynulliad y Dems Rhydd yn ne orllewin Cymru, Peter Black, wedi mynegi ei bryder
fod cwmni iechyd preifat yn gwerthu brechiad sengl rhag y frech goch, a’u bod
nhw’n ail-adrodd honiadau gafodd eu gwneud am MMR ac awtistiaeth.
Dywedodd Peter
Black: “Yng ngoleuni epidemig y frech goch sy’n taro ardal Abertawe a de
orllewin Cymru oherwydd braw iechyd camarweiniol dros ddegawd yn ôl, rwy’n
arbennig o bryderus i weld cwmni preifat yn parhau i wneud y cyswllt hwnnw ar
ei wefan er mwyn gwerthu ei gynnyrch. Yr unig frechlyn sy’n ddiogel yw’r
MMR.”
Efallai ei bod werth aros yma i edrych ar ambell i ffaith.
Mae'r DU yn gwneud defnydd cymharol drwm o ynni - er mai tua 1% o boblogaeth y
Byd sy'n byw yma, gwneir defnydd o tua 2% o'r ynni sy'n cael ei ddefnyddio tros
y Byd. Daw tua tri chwarter y trydan a gynhyrchir yn y DU o bwerdai nwy a glo,
gyda niwclear ar tua 15% a dulliau adnewyddadwy yn llai na hanner hynny.
Mae'r DU wedi ymrwymo i gwrdd a tharged o gynhyrchu 15% o'i thrydan o
ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2015. Tua 6.7% ydi'r ffigwr ar hyn o bryd. 'Dydi
hyn ddim yn darged arbennig o uchelgeisiol - mae targed yr Undeb Ewropeaidd yn
ei gyfanrwydd yn 20%, ac mae'r Alban yn bwriadu cyflenwi 100% o'i hanghenion
trwy ddulliau adnewyddadwy erbyn 2020. Does yna ddim digon o bwer wedi ei
ddatganoli i'r Cynulliad i ddylanwadu ar bethau llawer y naill ffordd na'r
llall, a 'dydi llywodraeth Carwyn Jones ddim eisiau'r pwer chwaith. Esiampl
arall o ddiffyg uchelgais llwyr y Blaid Lafur Gymreig.
O edrych yn benodol ar ynni gwynt, ar ddiwedd 2009 roedd y DU yn cynhyrchu 3.2%
o'i hynni trwy'r dull hwnnw. Y ffigyrau ar gyfer Denmarc oedd 24%, Sbaen 14.4%,
Portiwgal 14%, iwerddon 10.1%, Yr Almaen 9.3%. Mae Prydain ymysg prif
fewnforwyr trydan y Byd - oherwydd nad ydi'r capasiti presenol yn ddigonol i
gwrdd a'n anghenion. Yn wir mae'r Grid Cenedlaethol wedi ei gysylltu a grid yr
Iseldiroedd i bwrpas mewnforio trydan.
Yn bersonol, ac mewn cyd-destun Cymreig, y pwynt pwysig yw
ein bod yn cynhyrchu mwy o ynni na 'rydym yn ddefnyddio (cynhyrchu tua 9% o
ynni y DU, defnyddio tua 6.7%), felly byddwn i'n disgwyl i flogiwr Plaid
ddadlau na ddylai tirlun Cymru gael ei chwalu ar gyfer rhywbeth na fydd pobl
Cymru yn ei ddefnyddio nac yn elwa ohonno.
Ro'n i meddwl ein bod wedi dysgu gwersi o Dryweryn a.y.y.b,
ond ella fod ceisio sgorio ryw bwynt gwleidyddol neu ddau yn bwysicach....
O.N - mae angen dadl ehangach am ynni yng Nghymru, ac mae angen canolbwyntio ar
ynni adnewyddol, yn ogystal a creu ynni cymunedol, ble byddai cymunedau'n dod
yn llwyr hunan-gynhaliol. Bydd angen i'r Cynulliad gael grym llwyr dros ynni
yng Nghymru er mwyn cyflawni hyn, yn ogystal a chymryd y grym dros isadeiledd
ynni ag ati oddi wrth y cwmniau cyflenwi mawr.