Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Friday 29 March 2013

Beti a'i Phobol: RS Thomas


I gofnodi 100 mlynedd geni'r bardd RS Thomas, cyfle i glywed y gyntaf o ddwy sgwrs ddarlledwyd yn wreiddiol ym 1996 (linc yma). Mae'r darllediad hefyd ar gael fel podlediad.

Wednesday 27 March 2013

Haleliwia gan Brigyn






Mewn dwrn o ddur mae’r seren wen

Mae cysgod gwn tros Bethlehem

Dim angel gwyn yn canu Haleliwia

Codi muriau, cau y pyrth

Troi eu cefn ar werth y wyrth

Mor ddu yw’r nos ar strydoedd Palesteina

Haleliwia, haleliwia, haleliwia, haleliwia

Mae weiran bigog gylch y crud

A chraith lle bu creawdwr byd

Mae gobaith yno’n wylo ar ei glinia’

A ninnau’n eog bob yr un

Yn dal ei gôt i wylio’r dyn

Yn chwalu pob un hoel o Haleliwia

Haleliwia, haleliwia, haleliwia, haleliwia

Mae’r nos yn ddu, mae’r nos yn hir

Ond mae ‘na rai sy’n gweld y gwir

Yn gwybod fod y neges  mwy na geiria’

Mai o’r tywyllwch ddaw y wawr

A miwsig ddaeth â’r muriau  lawr

Daw awr i ninnau ganu Haleliwia

Haleliwia, haleliwia, haleliwia, haleliwia

Trafod uno cynghorau wrth edrych ar ddyfodol y Gymraeg

Mae cyn Aelod Seneddol wedi awgrymu creu un cyngor rhanbarthol ar gyfer y gorllewin, wrth i ddyfodol cymunedau Cymraeg gael ei drafod mewn cynhadledd yng Nghaernarfon ddydd Gwener.

Un o'r siaradwyr yn y gynhadledd yw Adam Price, cyn aelod seneddol Plaid Cymru, Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, sy'n awgrymu uno broydd Cymraeg y gorllewin dan ofal un cyngor mawr.

 

Bydd Leighton Andrews AC, y gweinidog sydd â chyfrifoldeb am yr iaith Gymraeg, yn annerch y digwyddiad - sy'n cael ei gynnal gan bartneriaeth 'Hunaniaith' yn Galeri, Caernarfon.

Cafodd y gynhadledd ei threfnu yn dilyn cyhoeddi ystadegau'r cyfrifiad a oedd yn dangos fod canran siaradwyr Cymraeg wedi gostwng ers 2001, gan amlygu fod y degawd nesaf yn gyfnod allweddol i ddyfodol yr iaith.
Pwrpas y digwyddiad yw trafod y ffactorau sy'n dylanwadu ar sefyllfa'r iaith Gymraeg. 

Ymhlith y materion dan sylw mae ymrwymiad Llywodraethol a deddfwriaethol, addysg Gymraeg a dwyieithog, cyfleoedd economaidd, tai a defnydd o'r Gymraeg yn gymdeithasol.

Cynghorau rhanbarthol

Mewn cyfweliad ar y Post Cynta fore Gwener, awgrymodd Adam Price bod 'na achos dros sefydlu un awdurdod rhanbarthol ar gyfer gorllewin Cymru, ac y byddai hynny'n hwb i'r iaith a'r economi yn yr ardaloedd hynny.

Meddai: "Mae angen strategaeth sy'n adfywio'r iaith ond mae angen strategaeth sy'n adfywio'r economi...yr unig ffordd i adfer yr iaith yn y gorllewin yw i adfer yr economi yn y pendraw.

Ychwanegodd ei bod yn anorfod y byddai awurdodau lleol yn cael eu had-drefnu o fewn y pum mlynedd nesa' a bod angen manteisio ar hynny o ran hybu'r iaith Gymraeg.

"Be' hoffwn i weld ydy defnyddio'r cyfle euraid hwn i uno'r broydd Cymraeg ar hyd y gorllewin, o Benllech i Borth Tywyn, a chreu un awdurdod rhanbarthol grymus ar gyfer y gorllewin. Cyngor fydd yn gallu mynd â'r maen i'r wal," meddai Mr Price.

Cafodd y gynhadledd ddydd Gwener ei threfnu gan bartneriaeth Hunaniaith.
Dywedodd y Cynghorydd Dyfed Edwards, Arweinydd Cyngor Gwynedd a chynrychiolydd Hunaniaith: "Sefydlwyd Hunaniaith yn 2009 fel partneriaeth strategol i hybu'r defnydd o'r iaith Gymraeg yng Ngwynedd. 

"Mae'r gynhadledd hon yn gyfle i glywed siaradwyr blaenllaw ar lefel Cymru ac ar lefel ryngwladol yn cyflwyno strategaethau a syniadau amgen ar gyfer cynllunio iaith."

(Diolch i'r BBC)

Sefydlu ardal debyg i'r Gaeltacht yng Nghymru?

Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi dweud wrth BBC Cymru y dylid gwneud ymchwil cyn gynted â phosib i'r syniad o greu rhanbarthau penodol fyddai'n gadarnleoedd i'r iaith Gymraeg, tebyg i ardal y Gaeltacht yn Iwerddon.
Wrth siarad â rhaglen Taro 9, dywedodd Meri Huws, ei bod yn cytuno "bod angen i ni edrych yn gloi ar y math yma o fodel".

"Dwi ddim wedi cael fy mherswadio ar hyn o bryd. 

"Ond mae eisiau i ni wneud ymchwil penodol iawn, ac yn gloi iawn, i edrych ar be fydde' Gaeltacht yn edrych fel pe bai'r model yna'n cael ei drosglwyddo i Gymru."

Yn gynharach yn y mis, galwodd cyn Aelod Seneddol Plaid Cymru Adam Price am sefydlu un awdurdod rhanbarthol ar gyfer gorllewin Cymru.

Un awdurdod?
 
Ond mewn cyfweliad â rhaglen BBC Cymru Taro 9, aeth Mr Price gam ymhellach, trwy ddweud y dylai rhanbarth o'r fath gynnwys pob un o gadarnleoedd y Gymraeg yng ngogledd a gorllewin Cymru.


"Mae angen creu awdurdod rhanbarthol ar gyfer y bröydd Cymraeg.....yn lle ad-drefnu'r gogledd a'r gorllewin ar wahân yn y bröydd Cymreig, gadewch i ni gymryd y cyfle hwn nawr i greu un awdurdod ar hyd Bae Ceredigion i uno'r ardaloedd Cymreig a chreu awdurdod cryf gyda phwerau cynllunio iaith a hefyd datblygu economaidd," meddai.

Byddai'r syniad yn debyg i ranbarth y Gaeltacht - ardal benodedig o Iwerddon, ble mae'r Wyddeleg yn cael ei chefnogi gan gyfres o fesurau i sicrhau ei pharhad fel iaith gymunedol fyw.

Aeth rhaglen Taro 9 i Orllewin Iwerddon i weld a fyddai modd i Gymru ddysgu gwersi o'r strategaeth hon, yn enwedig yng nghadarnleoedd yr iaith yn y gogledd a'r gorllewin.

Cefnogaeth 'gadarnhaol'
 
Mae Gwyneth Ui Ghaora, yn wreiddiol o Gymru, yn byw yng nghanol Connemara ac yn dysgu arlunio trwy gyfrwng y Wyddeleg.

Dywedodd ei fod wedi gweld yr effaith gadarnhaol mae'r ardal wedi'i gael ar yr iaith.

"Mae'r Wyddeleg yn yr ysgolion yn ddiamod, a does dim cwestiynau am hynny o gwbl...Dyma sy'n beth cadarnhaol ynglŷn â chael ardal sydd wedi'i dynodi yn ardal ar gyfer yr iaith," meddai.

"Bydde'r gefnogaeth fydde 'Cymraegtacht' yn ei roi i'r iaith yn beth cadarnhaol iawn."

Fe siaradodd Taro 9 hefyd â Seán Ó Cuirreáin, Comisiynydd y Wyddeleg, a ddywedodd:

"Dwi'n credu bod rhai agweddau positif wedi digwydd ar hyd y blynyddoedd, sydd wedi cadw'r Wyddeleg yn fyw fel iaith gymunedol yma yn y Gaeltacht...Efallai fydde hi ddim wedi goroesi heb y statws hynny."

Mae Taro Naw ar gael ar iPlayer yn fan hyn.

(Diolch i BBC Cymru)

Monday 18 March 2013

Cymru yn Bencampwyr

 
Cymru yn Bencampwyr

Cododd Cymru dlws Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn dilyn gêm fythgofiadwy yn erbyn Lloegr ar Stadiwm y Mileniwm brynhawn Sadwrn.
Roedd angen buddugoliaeth o wyth pwynt ar y Cochion i ennill y gystadleuaeth ond fe aeth y tîm cartref ym mhellach na hynny gan roi crasfa go iawn i’r Saeson o 30 i 3. Rheolodd Cymru’r gêm o’r dechrau i’r diwedd ac er mai Alex Cuthbert a gafodd y ceisiau roedd pob un dyn mewn coch yn well na’r ymwelwyr o dros Glawdd Offa.

Hanner Cyntaf

Rheolodd Cymru o’r eiliad gyntaf ac fe roddodd blaenwyr Cymru wers go iawn i’r Saeson yn y sgrym ac yn ardal y dacl. Daeth ciciau cosb o ganlyniad a throsodd Leigh Halfpenny ddwy yn yr ugain munud cyntaf.

Hanerodd Owen Farrell y bwlch i Loegr pan ddyfarnwyd cic gosb braidd yn hallt yn erbyn Sam Warburton hanner ffordd trwy’r hanner, ond dim ond Cymru oedd ynddi wedyn.

Enillodd sgrym y Cochion gic gosb arall yn fuan wedyn ac adferodd Halfpenny y chwe phwynt o fantais cyn i Farrell fethu ei ail gynnig yntau cyn yr egwyl.

Ail Hanner

Os oedd Cymru yn dda yn yr hanner cyntaf roeddynt yn well yn yr ail ac fe ddaeth tri phwynt arall o droed Halfpenny yn dilyn cyfnod hir hir o bwyso gan y blaenwyr yn nau ar hugain Lloegr ar ddechrau’r ail gyfnod.

Gyda’r bwlch o wyth wedi ei sefydlu am y tro cyntaf yn y gêm fe newidiodd Cymru i gêr arall a daeth y cais agoriadol toc cyn yr awr. Dwynodd Ken Owens y meddiant yng nghanol y cae a lledwyd y bêl yn gyflym i Cuthbert ar yr asgell, cafwyd ymdrech chwerthinllyd i’w daclo ef gan Mike Brown a chroesodd y cawr yn y gornel.

Methodd Halfpenny y trosiad ond felly hefyd Farrell yn y pen arall gyda chynnig am gic gosb ar yr awr.

Deg Pwynt Mewn Dau Funud

Yna, sicrhawyd y fuddugoliaeth a’r bencampwriaeth gyda deg pwynt mewn dau funud tua chwarter awr o’r diwedd.

Trodd Dan Biggar y pwysau’n bwyntiau gyda gôl adlam i ddechrau cyn i Cuthbert groesi am ei ail gais. Yr asgellwr yn sgorio eto ond chwaraeodd y rheng ôl i gyd eu rhan. Dechreuodd Toby Faletau y gwaith da cyn i Sam Warburton ennill tir, yna cafwyd rhediad gwych a dwylo da gan Justin Tipuric cyn i Cuthbert groesi.

Trosodd Halfpenny cyn i Biggar ychwanegu tri phwynt arall yn y deg munud olaf i sicrhau buddugoliaeth o saith pwynt ar hugain, buddugoliaeth fwyaf Cymru dros Loegr erioed!

Ond yn bwysicach na hynny, buddugoliaeth sydd yn sicrhau pencampwriaeth y Chwe Gwlad i Gymru am yr ail flwyddyn yn olynol.

Ymateb

Mike Phillips:
“Ymdrech arbennig gan y bois heddi’. Ma’n neis maeddu Lloegr. Roedden ni’n gwylio’u gêm nhw yn erbyn yr Eidal ac yn teimlo eu bod nhw yn dangos diffyg parch, ac roedden ni’n gwybod bod yr Eidal yn dîm da…”

“Mae lot o bwysau ar y bois a dyw rhai pobl ddim yn sylweddoli pa mor anodd yw hi. Ry’n ni wedi bod yn anlwcus iawn ond ry’n ni gyd yn rhoi 100% pan ni ar y ca’.”

Stuart Lancaster, prif hyfforddwr Lloegr:
“Fe chwaraeodd Cymru’n dda a wnaethom ni ddim. Wnaethom ni ddim efelychu eu hymdrech gorfforol nhw. Mae hi’n gêm syml yn y bôn ac roedden nhw’n fwy corfforol na ni.”






2. "Ennill y Bencampwriaeth eleni yn well na’r Gamp Lawn llynedd”

Mae hyfforddwr dros dro tîm rygbi Cymru wedi canmol perfformiad y chwaraewyr yn erbyn y Saeson ddoe gan honni fod ad-ennill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn well canlyniad na hyd yn oed ennill y Gamp Lawn llynedd.



Mewn gêm fythgofiadwy ar Stadiwm y Mileniwm, fe wnaeth Cymru guro Lloegr o 30 i 3.

Roedd Rob Howley ar ben ei ddigon yn dilyn y gêm yn enwedig o gofio bod Cymru wedi colli eu gêm gyntaf yn erbyn Iwerddon.

“Mae hyn yn well na’r Gamp Lawn llynedd. Roeddyn ni’n rhagorol,” meddai Howley. “Mae cyflawni yr hyn yr ydyn ni wedi ei wneud ar ôl yr hyn ddigwyddodd yn ystod y munudau cyntaf yna yn erbyn Iwerddon yn wyrdroad gwych.”

Roedd angen buddugoliaeth o wyth pwynt ar y Cochion i ennill y gystadleuaeth ond fe aeth y tîm cartref ym mhellach na hynny gan roi crasfa go iawn i’r Saeson o 30 i 3. Rheolodd Cymru’r gêm o’r dechrau i’r diwedd ac er mai Alex Cuthbert a gafodd y ceisiau roedd pob un dyn mewn coch yn well na’r ymwelwyr o dros Glawdd Offa.

(Diolch i Golwg 360)

Embedded image permalink
Newyddion da am unwaith!

Wednesday 13 March 2013

Sêl bendith i fferm wynt yn Sir Gaerfyrddin

Mae fferm wynt fawr ar fryniau yn Sir Gaerfyrddin yn cael mynd yn ei blaen ar ôl cael sêl bendith yr Ysgrifennydd Ynni yn Llundain.


Mae cais RWE Npower Renewables ar gyfer Gorllewin Brechfa yn cynnwys 28 tyrbein hyd at 145 metr o uchder. Cafodd ei gyfeirio at Ed Davey gan ei fod yn brosiect sy’n fwy na 50MW o bŵer, a chynllun y cwmni yw cynhyrchu rhwng 56 a 84MW.

Roedd yr Arolygiaeth Gynllunio wedi argymell fod yr Ysgrifennydd Ynni yn cymeradwyo’r cais, tra’n cydnabod y byddai’n cael “effaith niweidiol ar yr olygfa a’r tirwedd.”

Dywed Ed Davey fod cymeradwyo’r fferm wynt ym Mrechfa yn cyd-fynd gyda’r “angen cenedlaethol am ddatblygiadau newydd ar gyfer cynhyrchu trydan.”

Gorllewin Fforest Brechfa

Mae fferm wynt wedi ei lleoli ar dir sy’n berchen i’r Comisiwn Coedwigaeth ac wedi ei dynodi’n addas ar gyfer codi ffermydd gwynt gan Lywodraeth Cymru.

Mae eisoes 10 o drybini yn yr ardal, ger pentref Gwyddgrug, ac ym mis Tachwedd gwrthododd cynghorwyr Sir Gaerfyrddin gais dadleuol i godi 21 o felinau gwynt ar dir comin ger Llanllwni, yn yr un ardal.
Roedd y cais hwnnw yn is na’r trothwy o 50MW ac felly ni chafodd ei drosglwyddo i Lywodraeth Prydain.
Mae Grŵp Blaengwen, sy’n gwrthwynebu codi ffermydd gwynt yn yr ardal, wedi galw am adolygiad o bolisi TAN 8 sy’n dynodi bod rhai ardaloedd yng Nghymru yn addas ar gyfer datblygiadau ynni gwynt mawr.

Gwneud cais am adolygiad barnwrol

Mae cadeirydd Grŵp Blaengwen sy’n ymgyrchu yn erbyn melinau ar fynydd Llanllwni a Brechfa wedi dweud eu bod nhw’n bwriadu apelio yn erbyn penderfyniad yr Ysgrifennydd Ynni.

Dywedodd Steve Dubé: “Bydd gan yr Adran Ynni a’r cwmni gyllid mawr gan fod cymaint o arian yn y fantol yma, a byddan nhw’n medru cyflogi’r cyfreithwyr gorau.

“Mae cost gwneud apêl yn anghredadwy, ond rydym ni’n benderfynol o gyflwyno apêl.

“Nid yw’r penderfyniad heddiw yn ddim i wneud gydag ynni – arian yw popeth.

“Mae’n drueni ofnadwy. Mae gan Gymru aur, copr, llechi, glo, dŵr a nawr gwynt ac mae’r cyfan wedi ei reibio dros yr oesau a’r elw wedi gadael Cymru.”

‘Sgandal’

Ychwanegodd Steve Dubé: “Cymru yw’r wlad gyfoethocaf ym Mhrydain o ran adnoddau naturiol ac ynni gwynt yw’r sgandal mwyaf rwyf i wedi profi,” meddai.

“Roedd cyfeiriadau lu at ecoleg a’r amgylchedd yn adroddiad yr Ysgrifennydd Ynni a phrin unrhyw gyfeiriad at bobol. Mae’r melinau yma’n creu sŵn, yn cael effaith ar allu pobol i gysgu, hyd yn oed yn niweidio hearing aid un o ffermwyr y mynydd yma.

“Does dim syniad gan y bobol yma beth maen nhw’n delio gyda.

“Yn anffodus does dim ffydd gen i y byddai’r penderfyniad wedi bod yn wahanol petai’n cael ei wneud yng Nghaerdydd.

“Babi Carwyn Jones yw TAN 8 ers pan oedd yn Weinidog Amaeth.”

(Diolch i Golwg360)

Y Siop Bapurau - Catrin Dafydd


Thursday 7 March 2013

Monday 4 March 2013

Gerallt Lloyd Owen

Darlledwyd rhaglen arbennig o dda am y Prifardd Gerallt Lloyd Owen ar S4C. Bydd y rhaglen ar gael ar S4C Clic (yma) tan 2 Ebrill.

O wefan S4C:

Rhaglen ddogfen onest a threiddgar am y Prifardd Gerallt Lloyd Owen sy'n codi'r llen ar gymeriad preifat ac enigmatig a ysgrifennodd rai o gerddi enwocaf Cymru ac a fu'n Feuryn Talwrn y Beirdd am 30 mlynedd. Drwy gyfres o gyfweliadau estynedig, mynediad ecsgliwsif i'w gartref, ynghyd â chyfweliadau gydag aelodau o'i deulu, mae'r ffilm-ddogfen hon yn cyflwyno ochr arall i'r persona cyhoeddus ac yn datgelu ei angerdd a'i ofnau. Gyda darlleniadau o rai o'i gerddi pwysicaf, mae'r rhaglen hon yn treiddio'n ddyfnach i'r themâu sydd wedi cydio ynddo gydol ei oes.