Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Thursday 29 November 2012

Y Taliban Cymraeg


Dadlau tros honiadau dienw am y Gymraeg

Mae papurau newydd, rhaglenni brecwast y rhwydwaith a rhaglenni newyddion y BBC yng Nghymru wedi bod yn rhoi sylw mawr i feirniadaeth ddienw ar bolisi iaith adran addysg Ceredigion.
Mae gwefan o’r enw BiLingo yn cynnwys honiad fod plant yn cael eu hatal rhag mynd i’r tŷ bach os nac ydyn nhw’n gofyn yn Gymraeg.
Does dim enwau na thystiolaeth bendant yn cael eu cynnwys ar y wefan ond mae’r awdur neu awduron yn dweud bod ffeil wedi ei hanfon at Gomisynydd Plant Cymru.

BiLingo

Dyw hi ddim yn glir ai unigolyn neu grŵp sydd y tu cefn i BiLingo ond mae’r wefan yn dweud ei bod yn cynnig fforwm i rieni fynegi eu gofidiau a bod tystiolaeth wedi ei chasglu o sawl ardal.
Yn ôl Radio Wales, dydyn nhw ddim wedi gallu siarad gyda neb y tu cefn i’r wefan ond maen nhw wedi gohebu trwy e-bost.
Mae llefarydd Ceredigion ar addysg, y Cynghorydd Hag Harris, yn  dweud y byddai’n synnu’n fawr pe bai’r honiadau’n gywir.
Y cefndir

Mae’r wefan yn ymateb i fwriad Ceredigion i gael gwared ar ffrwd ddwyieithog yn ysgol gynradd  Aberteifi a’i throi’n ysgol Gymraeg.
Yn ôl y Cyngor, fe fu gostyngiad yn nifer y plant oedd yn cael eu hanfon i’r ffrwd ddwyieithog.
Mae’r honiadau’n debyg i rai a wnaed gan y gwleidydd Llafur Neil Kinnock yn erbyn ysgol yn Ynys Môn yn yr 1970au.

(Golwg 360, 15 Tachwedd)

************************************************************

Save Wales from the Welsh: Children told they can't go to the loo if they ask in English. Architects shunned if their plans aren't in Welsh. ROGER LEWIS on the nutty Welsh Language Society

(Daily Mail)

Not much Christmas cheer: English only Santa quits Welsh grotto after parents complain he cannot speak the language

(Daily Mail)

Newyddiadurwr yn lladd ar y ‘Taliban Cymraeg’

Mae “Taliban Cymraeg” yn gormesu Cymru meddai newyddiadurwr a ddaeth i amlygrwydd y llynedd ar ôl disgrifio’r Gymraeg yn “iaith mwncis.”

Mewn erthygl yn y Daily Mail heddiw mae Roger Lewis yn dweud fod plant ysgol yn gwlychu eu hunain am nad ydyn nhw’n cael mynd i’r tŷ bach, a bod yr iaith wedi cael ei hadfer yn artiffisial diolch i drethdalwyr Lloegr.

Mae hefyd yn honni nad oes traddodiad bellach o siarad Cymraeg yn ne Cymru, ac nad oes sail hanesyddol i broses o “Gymreigio” Cymru. Dywed hefyd mai  xenophobia yw gwneud yr iaith Gymraeg yn amod am swydd.

Ymhlith honiadau eraill Roger Lewis, sy’n frodor o Fedwas ger Caerffili, dywed fod dyn ym Mangor wedi penderfynu cerdded adre yn lle mynd mewn i dacsi oedd â’r arwydd ‘taxi’ ar y to, a bod ceisiadau cynllunio yn cael eu gwrthod os ydyn nhw yn Saesneg.

Mae’r erthygl wedi ennyn ymateb cymysg ar gyfryngau cymdeithasol. Mae rhai yn chwyrn yn erbyn tra bod eraill yn trin yr erthygl yn ysgafn ac yn cyfeirio at “Hen Wlad Fy Intifadau.”

(Golwg 360 26 Tachwedd)

***********************************************************

 
Comisiynydd: Beirniadu papurau newydd

Mae Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws, wedi beirniadu newyddiaduraeth ambell i bapur newydd ynghylch y Gymraeg, gan ddweud ei bod yn "hollol annerbyniol ... yn agosáu at fod yn hiliol".

Ddydd Llun cyhoeddodd y Daily Mail erthygl yn honni bod y Gymraeg yn arf gwleidyddol yn creu rhaniadau yng Nghymru, a bod yna ysgol yng Ngheredigion ble mae'n rhaid i ddisgyblion ofyn yn Gymraeg os ydynt am fynd i'r tŷ bach.

Roedd yr erthygl hefyd yn dweud y gallai'r Taliban ddysgu gwersi gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg.
'Anhygoel o anhapus' 

Dywedodd Ms Huws wrth raglen CF99: "Dwi wedi fy siomi gan y math yna o newyddiaduraeth a buaswn i efallai'n annog pobl i beidio â darllen y papurau hynny sy'n defnyddio'r math yna o linell".

Pan ofynnwyd iddi a oedd camau pellach yn cael eu hystyried, dywedodd: "Rydyn ni'n ystyried beth ddylai'r camau fod, ry'n ni'n anhapus iawn ... yn anhygoel o anhapus gyda beth y'n ni wedi ei weld yn ystod yr wythnos yma.

"Dwi'n credu bod rhaid i ni symud yr ieithwedd hefyd, dyw hyn ddim yn orfodaeth, mae yna ddwy iaith yng Nghymru, ry'n ni'n wlad ddwyieithog ac mi ddylen ni i gyd yn ystod y blynyddoedd nesaf fod yn disgwyl cael gwasanaethau o safon uchel yn y ddwy iaith a dyna yw hanfod safonau.

"Mae yna drafodaeth ynglŷn â sut y'n ni'n delio gyda'r math yna o iaith sy'n cael ei weld mewn ambell i bapur ar hyn o bryd."

Mae BBC Cymru wedi gofyn am ymateb oddi wrth y Daily Mail. 

(BBC Cymru, 29 Tachwedd)

 **************************************************************

 
Malan Wilkinson ‏@malanwilkinson
Parthed sefyllfa'r 'Taliban Cymraeg' yn y DM - edrych 'mlaen i weld pa gamau yn union y bydd Comisiynydd y Gymraeg yn eu cymryd. 

Dylan Llyr ‏@dylanllyr
@malanwilkinson dim byd, gobeithio. Nid ei rôl hi - nac unrhyw un arall sy'n cynrychioli'r wladwriaeth - yw disgyblu colofnwyr papur newydd 

Hedd Gwynfor ‏@heddgwynfor
@dylanllyr @malanwilkinson Cydymdeimlo gyda dy farn Dylan. Ond gyda rhyddid rhaid bod yn gyfrifol hefyd. 

Dylan Llyr ‏@dylanllyr
@heddgwynfor @malanwilkinson Nagoes. Os nad yw rhyddid barn yn golygu'r hawl i bobl fod yn anghyfrifol, nid yw'r term yn golygu unrhyw beth

Top of Form
Bottom of Form
Hedd Gwynfor ‏@heddgwynfor
@dylanllyr @malanwilkinson Ydy pob dim yn dderbyniol yn dy dyb di. Hiliaeth? Deunydd rhywiaethol? Oes ffiniau? 

Dylan Llyr ‏@dylanllyr
@heddgwynfor @malanwilkinson Mae'r pethau yna i gyd yn haeddu lot o feirniadaeth. Ond yn haeddu camau cyfreithiol? Byth bythoedd. 

Hedd Gwynfor ‏@heddgwynfor
@dylanllyr @malanwilkinson Felly dwyt ti ddim yn credu bod gwneud datganiadau hiliol a rhywiaethol yn haeddu camau cyfreithiol? 

Dylan Llyr ‏@dylanllyr
@heddgwynfor @malanwilkinson yn syml, na. Oni bai eu bod yn bygwth rhywun yn uniongyrchol, neu'n enghreifftiau o harassment gwirioneddol 

B Griffiths ‏@Griffbed
@heddgwynfor @dylanllyr @malanwilkinson Siawns mae rhyddid barn ddim yn cynnwys yr hawl i gyhoeddi honiadau anwir, di-sail a sarhaus.