Bwyd a choginio
Geirfa
sylfaenol ac enghreifftiau
Dull (g)
Pobi
“Wedi iro
tun pobi bara hanner cilo (a leinio hwn gyda papur pobi) dylid arllwys y
gymysgedd iddo a'i osod mewn popty a gynheswyd i 170°C” (o rysait am Fara
Brith)
'Pobi
cacennau' a 'llyfu'r llwy' yw prif atgof plentyndod mwy na hanner pobol.
“Mynd i'r sinema, dal lan 'da ffrindie coleg, nofio, pobi
teisen. 5. Pum peth sy'n gwneud i chi deimlo'n hapus.“
Crasu (bake,
parch, dry)
“Mi gofiaf tra byddaf byw am y bara ffres a gaem ar
ddiwrnod crasu bara”
“Hen wraig o’r enw Jane oedd yn
cadw’r siop, ychydig o nwyddau werthai, oil lamp, siwgr, te, resins, cyraints,
burum a blawd, yno byddai pawb yn cael burum ac ers talwm byddai pawb yn crasu
bara eu hunain.”
Ffrio
Sgramblo – wyau
wedi’u sgramblo
Potsio – wyau
wedi’u potsio
Berwi – wy wedi’i
ferwi
Mudferwi (simmer)
Codi berwi (bring
to the boil)
Hidlo (sieve)
[hefyd: gogrwn]
Hylif Mae pob
defnydd yn bodoli fel solid, hylif neu nwy.
Iro
“Irwch dun cacen 20cm a rhoi papur saim ar y
gwaelod
Linio
Cymysgedd - Cymysgedd Stwffin Saets a Winwnsyn
Cymysgu
Curo “Curwch
y siwgr a’r menyn nes ei fod yn ysgafn, o leiaf 4 munud gyda chwisg trydan.”
Torri “torrwch
y menyn a’r lard mewn i ddarnau bach a’i rwbio i mewn i’r blawd nes ei fod yn
edrych fel briwsion.”
Cynhesu
”Cynheswch y
popty i 180C/160C ffan”
Pilio/plicio (peel)
Toddi
”100g menyn
heb halen wedi’i doddi”
Rolio “Roliwch
y toes allan nes ei fod yn rhyw ¼ modfedd o drwch”
Malu
Ychwanegu (at)
Gorchuddio “Rhowch
ychydig o’r eisin rhwng dwy haen y gacen a gorchuddiwch y top a’r ochrau.”
Chwipio
Plygu
Offer a
theclynnau yn y gegin
Llwy (b)
[llwyau] llwy de llwy fwrdd llwy bren llwy
dyllog llwy fetel
Fforc (b)
[ffyrc]
Cyllell (b)
[cyllyll]
“Cyllell finiog”
“Arwyn yn byta Spaghetti efo cyllell a fforc...
wimp.”
Popty/ffwrn
“trosglwyddwch y marmaled i botiau jam sydd wedi eu
glanhau'n dda a'u cynhesu mewn popty
am 110°C am 10 munud.”
“New York
Cheesecake yn barod i fynd i'r ffwrn”
“Sglodion
Wedi'u Pobi yn y Ffwrn”
Cymysgwr trydan
Clorian (b) (scales)
Rhidyll (sieve) [hefyd: gogr/gogor]
Rholbren (b) Gorchymyn cymunedol i wraig ymosododd
ar ei gŵr â rholbren gan ei bod yn amau ei fod yn anffyddlon.
Bowlen/powlen (b) [powlenni]
‘Un powlen fawr, un ganolig ac un fach ‘
Sbatwla
Dysgl (b)
dysglau [‘dishgil’ ar lafar] > dishgled/dished
Tun
Sosban (b)
Padell (b)
[padelli/padellau/pedyll]
Padell ffrio/ffreipan
“Cynheswch
yr olew tsili a'r tsili mewn padell ffrio a ffriwch yr wyau”
Chwisg llaw
Gratiwr mân
Hambwrdd pobi - Rhowch y sgons ar yr hambwrdd pobi
a gadewch iddynt orffwys am ychydig
Sgiliau yn y gegin: sgiliau paratoi ee torri, tafellu,
gratio, pilio, stwnsio, curo; sgiliau coginio ee
rhostio,
ffrïo, pobi, berwi; gwybod pryd mae bwyd wedi'i goginio;
Pwyso: Dilyn rysáit: pwyso a mesur ee defnyddio clorian, jygiau a llwyau mesur;
tymheredd y
ffwrn/popty….
Brat (g)/ffedog (b)
Cynhwysion
Ŵy (g) melynwy (g) gwynwy (g)
“Mewn
soufflé, caiff y melynwy a’r gwynwy eu gwahanu – defnyddir y melynwy i
dewhau
sylfaen cwstard a chaiff y gwynwy ei chwisgio i wneud y soufflé yn ysgafn.”
Siwgr
“Caiff siwgr
pur ei werthu fel siwgr gronynnog (bras), siwgr mân a siwgr eisin (powdr mân).
Siwgr mân
yw’r gorau ar gyfer y rhan fwyaf o ryseitiau pobi a gellir defnyddio siwgr gwyn
neu
euraid. Mae
gan siwgr nad yw’n siwgr pur fwy o flas ac mae’n amrywio o siwgr crai tywyll i
siwgr brown ysgafn.”
Blawd [hefyd: can, fflwr] [g] blawd plaen blawd
codi blawd cyflawn
Burum
Powdr codi
Soda pobi
Llaeth llaeth hanner-sgim llaeth hufennog llaeth sgim llaeth
enwyn (buttermilk)
Braster
Saim
Cytew “cocos mewn cytew”
Echdyniad fanila
Croen “Croen 1 lemon wedi’i gratio yn fân” “stribedi o groen lemwn”
Hufen hufen dwbl hufen sengl hufen
chwipio
Briwgig
Toes
Pastai [pai,
pei]
Crwst crwst pwff crwst pwff bras crwst
brau
Rholiwch y crwst brau ar wyneb blawdiog nes fod yn
ddigon mawr i lenwi desgil fflan tua 30cm ar draws.
Gweadedd a blas
Melys
Chwerw Roedd y coffi'n
blasu'n chwerw.
Hallt “Mae pobl yn agored i rymoedd marchnata anferth , sy'n eu hannog yn ddi-baid i orfwyta , yn enwedig diodydd llawn siwgr , bwyd hallt iawn”
Sur [hefyd: egr]
Meddal
Caled
Crensiog,
creisionllyd, cras
“cyw iâr rhost crensiog” “bara cras” ” Gweinwch y stêc gyda'r jam chilli a
chennin creisionllyd wedi ffrïo.”
Sbeislyd
Llugoer [hefyd: claear] “Gwasgu burum mewn llaeth
llugoer ac ychwanegu siwgr.”
Di-flas bland
Poeth “Falle na ddylwn i fod wedi bwyta'r cyri
poeth 'na ar awyren airindia, gallai'r flight i bangkok fod yn ddiddorol!”