Croeso!

Blog ar gyfer pobl sy'n dysgu Cymraeg yn ardal Aberteifi yw hwn. Mae'n cynnwys adnoddau ac erthyglau sy'n berthnasol i'n dosbarthiadau sgwrsio. Byddwn ni'n trafod ystod eang o destunau yn ystod y flwyddyn (garddio, byd y natur, byd busnes a gwaith, hanes lleol, coginio, tafodiaith, barddoniaeth i enwi ond rhai o'r pynciau) gan edrych ar wahanol fathau o'r iaith. Croeso i bawb sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.

Saturday, 9 December 2017

Oer yw'r eira ar Eryri - rowlio'r R

Diolch i BBC Cymru Fyw am yr erthygl ddifyr hon.

Oer yw'r eira ar Eryri. Dydy brawddeg fel hon ddim yn hawdd i'w llefaru i unigolion sydd yn ynganu'r lythyren 'r' mewn ffyrdd gwahanol.

Cafodd y pwnc ei drafod ar raglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru yr wythnos hon.

Mae'r digrifwr a'r cyflwynydd Dilwyn Morgan yn un sydd wedi cofleidio ei 'nam lleferydd'.

"Dwi ddim yn siŵr iawn o ble ddaeth o. Ond 'nes i ddim sylwi arno fo nes i mi ddechrau gwneud pethau'n gyhoeddus a 'dwi wedi dod yn ymwybodol ohono fo wedyn.

"Dwi'n cofio aelod o Merched y Wawr yn d'eud wrtha'i mod i'n reit ciwt efo fo.

"Mi 'nes i raglen i S4C rai blynyddoedd yn ôl achael mynd at arbenigwr yn Ysbyty Allt-Wen i geisio fy nghael i stopio'r 'errian' 'ma.

"Mi es i yno rhyw dair, bedair gwaith a chael fy ffilmio, a wir i chi, mi oedd yr 'errr' yn dechrau newid, a dwi'n siŵr fyswn i wedi gallu cael gwared ohoni. Ond mi nes i benderfyniad i'w chadw hi, oherwydd mae'n rhan annatod ohona' i, Dilwyn Morgan."

Rhywbeth Pen-Llŷnaidd?

Ond wnaeth yr actores Mirain Fflur - sydd fel Dilwyn Morgan yn wreiddiol o Ben Llŷn - benderfynu ar gyfeiriad gwahanol.

"Roedd genna'i 'errr' eithaf cryf, yng nghefn y gwddf. Mae nifer o'r teulu'n ynganu 'err' yr un ffordd - dwi'n meddwl ei fod o'n beth Pen Llŷn-aidd.

"'Dwi a'm mrawd yn dweud 'err' yr un fath, a 'da ni wedi'i basio fo 'mlaen i'n cefndryd a'n cyfnitherod ar y ddwy ochr!

"Yn yr ysgol gynradd, ges i erioed drafferth ac erioed sylwi arno fo lawer, ond yn yr ysgol uwchradd, roedd yn dipyn o destun sbort, er ddim yn fy mhoeni'n ormodol.

"Ond ar y pryd, ro'n i'n Ysgol Glanaethwy, ac un diwrnod, gofynnodd Cefin [Roberts] i mi sut fyswn i'n licio dysgu dweud 'r' yn iawn?

"Roedd hynny fatha aur i mi ar y pryd ac wrth fy modd. Dim ond rhyw bythefnos gym'rodd y broses."

Ond dydy'r broses o ail ddysgu ynganu'r lythyren 'r' ddim yr un fath i bawb yn ôl Cefin Roberts.
"Mae pob unigolyn yn wahanol. Roedd Mirain yn awyddus iawn i ddysgu oherwydd ei bod hi, fel nifer sydd yn dod i Ysgol Glanaethwy, eisiau perfformio.

"Ar y llaw arall mae Dilwyn yn bersonoliaeth a dwi'n deall pam ei fod o'n teimlo fod yr 'err' yn rhan o'r bersonoliaeth honno. Ond mae actorion angen yr eglurder 'na a hyfforddiant i ynganu'n gywir.
"Os 'da chi'n hapus gyda'ch 'err' chi, yna popeth yn iawn. Ond os ydy o'n creu problemau neu'n dod ar draws eich gyrfa chi, yna dyna pryd mae angen edrych arni'n fanylach."

Y dylanwad Ffrengig?

Sut mae Cefin felly yn ceisio helpu unigolion fel Mirain?

"Dwi'n hyfforddi weithiau trwy ddefnyddio darn o farddoniaeth, ond yn dechnegol mae 'na o leia' chwech neu saith o ffyrdd gwahanol i ddweud 'r' yn anghywir.

"Er enghraifft, roedd Mirain yn dweud yr 'r' mewn ffordd eithaf Ffrengig, a mae'n debyg fod hynna wedi deillio o'r llys Ffrengig pan oedd Siwan yma yng Nghymru.

"Yn ôl y son, ddaeth hyn â dylanwad Ffrengig i'r iaith Gymraeg, a bod hynna wedi pasio i'r werin, oedd yn trio efelychu'r brenhiniaeth. Dwi ddim yn gwybod pa mor wir ydy hynna, ond mae hi'n stori dda."

Drysau yn agor

Sut aeth Cefin ati felly i helpu Mirain?

"Mi 'naeth o roi cyfres o frawddegau i mi ddysgu eu dweud yn gywir. Er enghraifft, 'Draw dros y drws.' Yn y frawddeg hon, mae'r 'd' yn golygu fod y tafod yn y lle cywir i rowlio'n gywir ar gyfer yr 'r'.

"Y foment ro'n i'n gwybod fy mod i wedi troi'r gornel oedd pan o'n i'n fy llofft ar ôl bod yn y côr, ac wedi bod yn dweud y frawddeg 'draw dros y drws' drosodd a throsodd yn fy mhen ac mi ddigwyddodd o. Sgrech wedyn a gweiddi ar Mam i ddod i wrando."

Dywedodd Cefin: "Anaml iawn wrth siarad yn gyffredinol mae Cymry yn rowlio'r 'r' yn galed, iawn.
"Yn y rhan fwyaf o achosion mae'n berffaith bosib rhoi 'r llythyren 'd' yn lle 'r' mewn gair heb newid y sŵn llawer.

"Ond cam cyntaf yw hwn mae'n bwysig pwysleisio, ac mae rhai pobl a nam lleferydd gwahanol, er enghraifft yn dweud 'l' neu 'f' yn lle'r 'r'. Ond unwaith 'dych chi wedi gafael ar y dechneg gywir, yna 'da chi on to a winner."

Elan Grug Muse - Coffi

https://youtu.be/c122xAKd0Fk

Sunday, 3 December 2017

Cywilydd Cymru - Pa genedl arall?

Diolch i Golwg360 am y blogiad bach yma gan Dylan Iorwerth.

Lle braf ydi Trefaldwyn yn yr hydref. Mi fuodd Llywelyn ap Gruffydd – Llywelyn Ein Llyw Olaf – yno union 750 mlynedd yn ôl ac mae’n siŵr ei fod yntau wedi meddwl yr un peth.

Wel, fuodd o ddim cweit yn y dre’ Normanaidd efo’r castell uchel, ond mi fuodd rhyw ddwy filltir oddi yno, ar lan afon Hafren, hyd yn oed yn ei dŵr hi.

Yno yr arwyddodd o gytundeb oedd, am y tro cynta’, yn golygu bod brenin Lloegr yn ei gydnabod o’n Dywysog Cymru ac yn cadarnhau y byddai holl arglwyddi eraill y wlad yn gorfod talu gwrogaeth [homage, allegiance] iddo fo.

Cymru unedig, annibynnol, barhaol – dyna addewid y cytundeb. Am y tro cynta’, a’r ola’ hefyd.
Mae’n wir fod Llywelyn wedi gorfod talu arian go hael am y cytundeb ac ildio ychydig o diroedd yr oedd o wedi’u hennill; ardaloedd sydd bellach yn Lloegr ond lle mae olion y Gymraeg i’w teimlo o hyd.

Mi allech chi ddadlau mai’r cytundeb yna oedd uchafbwynt annibyniaeth ac undod Cymru – o dderbyn realpolitik y cyfnod, doedd dim disgwyl llawer gwell.

Ddiwedd Medi 1267 oedd hynny ond yn Nhrefaldwyn ym mis Tachwedd 2017, doedd dim arwydd fod y digwyddiad na’r dyddiad wedi’i gofnodi, heb sôn am gael ei ddathlu.

Does yna ddim byd i’ch cyfeirio chi chwaith at Ryd Chwima, y man bas yn yr afon lle cafodd y cytundeb ei arwyddo, ar y ffin bryd hynny rhwng Cymru a thiroedd concwest y Saeson.

Mi fyddech chi’n meddwl ei fod yn gyfle i bobol Trefaldwyn ddenu ymwelwyr a phwysleisio ei lle yn hanes Cymru.

Yn fwy na hynny, mi fyddech chi’n disgwyl i Lywodraeth ac asiantaethau ac awdurdodau lleol wneud sbloet [celebration] fawr o binacl grym gwleidyddol Cymru.

Ond wnaethon nhw ddim. A wnaethon ninnau ddim chwaith.

Cwch Gwenyn - Ifor ap Glyn a Genod Droog

https://youtu.be/1hZ3700TU4I

Aled Hall a David Beckham

https://youtu.be/FRBjhVlmq30

Darlunair - Efa Lois sy'n darlunio geiriau

Pellweledydd, goser a lleugylch

https://youtu.be/f8OoZAJFKsA

Thursday, 30 November 2017

Yma wyf inna i fod

Dyma Geraint Lovgreen yn canu un o'i ganeuon mwya adnabyddus. Bydd Geraint yn 
perfformio yn Bar y Seler yn Aberteifi ar y 9fed o Ragfyr. Dewch yn llu.

Mae 'na ddau yn mynd i ryfel tu allan i'r Pen-deitch  [Palace Vaults - tafarn yng Nghaernarfon]
tra bo'r afon dal i chwydu'i phoen i'r aber,
mae sŵn poteli'n chwalu fel priodas hyd y lôn,

a neb yn meddwl gofyn pam fel arfer;
mae 'na ferched heb fodrwyau yn siarad celwydd noeth,
mae'r dref fel tae 'di'i mwrdro ar ei hyd;
ond mae'r lleuad dal i wenu ar hen strydoedd budur hon
fel pob tref ddifyr arall yn y byd.

Mae'n flêr a does na'm seren heno i mi uwch fy mhen;
dwi'n geiban ond dwi'n gwybod mai yma wyf inna i fod.  [yn geiban - yn feddw]

Mae 'na ddiwrnod newydd arall yn sleifio lawr Stryd Llyn
ac mae hogiau'r ochor bella'n dod yn heidiau,
a dod y maen nhw i gwyno nad oes unlle gwell i fynd
cyn mynd i'r Harp i yfed efo'u teidiau.
Does gynnon nhw ddim breuddwyd na 'chwaith yr un llong wen,
ond mae gynnon nhw ei gilydd reit o'r crud,
ac mae'r haul yn dal i godi calonnau'r dref fach hon
fel pob tref ddifyr arall yn y byd.

Mae'n flêr a does na'm seren heno i mi uwch fy mhen;
dwi'n geiban ond dwi'n gwybod mai yma wyf inna i fod.

A'r hogia llygaid barcud, efo'u sŵn a'u rhegi mawr,
rhain sy' piau pafin pob un stryd,
ond yr rhain a'u hiaith eu hunain sy'n cadw'r dref yn fyw,
fel pob tref ddifyr arall yn y byd.

Mae'n flêr a does na'm seren heno i mi uwch fy mhen;
dwi'n geiban ond dwi'n gwybod mai yma wyf inna i fod.

Mae'n flêr a does na'm seren heno i mi uwch fy mhen;
dwi'n geiban ond dwi'n gwybod mai yma wyf inna i fod.